Luge yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010

Cynhaliwyd cystadlaethau luge yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010 rhwng 13 ac 17 Chwefror 2010 yng Nghanolfan Llithro Whistler yn Whistler, British Columbia, Canada.

Luge yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2010
Enghraifft o'r canlynolDigwyddiad disgyblaethol o fewn y chwaraeon Olympaidd Edit this on Wikidata
Dyddiad2010 Edit this on Wikidata
Rhan oGemau Olympaidd y Gaeaf 2010 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganluge at the 2006 Winter Olympics Edit this on Wikidata
Olynwyd ganluge at the 2014 Winter Olympics Edit this on Wikidata
LleoliadWhistler Sliding Centre Edit this on Wikidata
Yn cynnwysluge at the 2010 Winter Olympics – doubles, luge at the 2010 Winter Olympics – women's singles, luge at the 2010 Winter Olympics – men's singles Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Luge

Medalau golygu

Tabl medalau golygu

Safle Gwlad Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Yr Almaen 2 1 2 5
2   Awstria 1 1 0 2
3   Latfia 0 1 0 1
4   Yr Eidal 0 0 1 1

Cystadlaethau golygu

Cynhaliwyd tair cystadleuaeth luge yn y gemau:

Cystadlaeth Aur Arian Efydd
Dynion sengl   Felix Loch   David Möller   Yr Eidal Armin Zöggeler
Merched sengl   Tatjana Hüfner   Nina Reithmayer   Natalie Geisenberger
Parau   Awstria
Andreas Linger
Wolfgang Linger
  Latfia
Andris Šics
Juris Šics
  Yr Almaen
Patric Leitner
Alexander Resch

Amserlen gystadlu golygu

Rhestrir yr holl amserau mewn Amser Safonol y Cefnfor Tawel (UTC-8).

Diwrnod Dyddiad Dechrau Diwedd Cystadleuaeth Cymal
2 Dydd Sadwrn, 13 Chwefror 2010 17:00 20:35 Dynion Rhagras 1 a 2
3 Dydd Sul, 14 Chwefror 2010 13:00 16:50 Dynion Rhagras 3 a 4
4 Dydd Llun, 15 Chwefror 2010 17:00 19:55 Merched Rhagras 1 a 2
5 Dydd Mawrth, 16 Chwefror 2010 13:00 16:10 Merched Rhagras 3 a 4
6 Dydd Mercher, 17 Chwefror 2010 17:00 19:15 Parau Rhagras 1 a 2

Cymhwyso golygu

Dogn athletwyr/POC golygu

Yn ôl y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol a'r Fédération Internationale de Luge de Course (FIL), roedd 110 am gael cymryd rhan. Roedd hyn i gynnwys 40 o athletwyr ar gyfer ras senglau'r dynion, 30 ar gyfer ras senglau'r merched, a 20 tîm o barau (sef 40 athletwr). Gafodd yr uchafswm o 110 o athletwyr ei osod yng 2002 Winter Olympics in Salt Lake City, Utah, United States, and repeated for the Ngemau Olympaidd y Gaeaf 2006 yn Torino, yr Eidal. Gall pob Pwyllgor Olympaidd Cenedlaethol gofrestru hyd at 10 o athetwyr (3 dyn, 3 merch, a 2 bâr).[1]

System gymhwyso golygu

Roedd yr athletwyr i gael eu rhestru yn ôl y nifer o bwyntiau a enillont yng Nghwpan y Byd yn ystod tymor cystadleuaeth 2008–2009 hyd diwedd hanner cyntaf tymor 2009–2010 (31 Rhagfyr). Er mwyn bod yn gymwys byddai'n rhaid i'r athletwyr fod wedi ennill pwyntiau ym mhump o gystadlaethau cwpan y byd, Cwpan y Cenhedloaeth neu Gwpan y Byd Iau, neu fod wedi gorffen yn y 30 uchaf (dynion), 20 uchaf (merched) neu'r 16 uchaf (parau) yng Nghwpan y Byd yn ystod y cyfnod cymhwyso. Roedd y 40 dyn uchaf, y 30 merch uchaf a'r 20 pâr uchaf i gymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd, gyda'r dogn dros ben i gael ei rannu rhwng gweddill yr athletwyr, gyda'r gwledydd a oedd eisoes heb gynrychiolaeth yn derbyn blaenoriaeth. Fe wnaeth Canada dderbyn un sled ym mhob cystadleuaeth gan mai nhw oedd cynnig cartref i'r gemau, dan yr amod eu bod yn cyrraedd yr anghenion cymhwyso.[1][2]

Dognau terfynol golygu

Gwlad Dynion [3] Merched [3] Parau [3]
  Yr Almaen 3 3 2
  Yr Ariannin 1 0 0
  Awstralia 0 1 0
  Awstria 3 2 2
  Bwlgaria 2 0 0
  Canada 3 3 2
  De Corea 1 0 0
  Yr Eidal 3 1 2
  Ffrainc 1 0 0
  Georgia 2* 0 0
  India 1 0 0
  Japan 1 2 0
  Latfia 3 3 2
  Moldofa 1 0 0
  Prydain Fawr 1 0 0
  Gwlad Pwyl 1 1 0
  Rwmania 1 3+ 2
  Rwsia 3 3 2
  Slofacia 1 2 1
  Slofenia 1 0 0
  Y Swistir 1 1 0
  Taipei Tsieineaidd 1 0 0
  Gweriniaeth Tsiec 2 0 1
  Wcráin 0 2 2
  UDA 3 3 2
Cyfanswm: 25 POC 39 30 20

*Bu farw'r athletwr luge Georgiaidd Nodar Kumaritashvili yn ystod hyfforddi, a tynnodd ei gyd aelod tîm Levan Gureshidze allan o'r gystadleuaeth.
+Tynnodd yr athletwr luge Romaniaidd Violeta Strămăturaru allan o'r gystadleuaeth.

Dewis y rheithgor golygu

Ar 15 Mehefin 2009, datanodd yr FIL aelodau eu rheithgor ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010. Arweinwyd y rheithgor gan Josef Benz (y Swistir, cadeirydd Comisiwn Chwaraeon yr FIL). Roedd aelodau eraill y rheithgor yn cynnwys Zianbeth Shattuck-Owen (Unol Daleithiau), rheolwr luge ar gyfer Gemau 2002, a Markus Schmidt (Awstria), a enillodd fedal efydd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 1992 yn Albertville, Ffrainc. Roedd cynyrchiolwyr y Bwrdd Technegol Gweithredol yn cynnwys Björn Drydahl (Norwy), Marie-Luise Rainer (yr Eidal) a Walter Corey (Canada).[4]

Arolygaeth amhureddu golygu

Ar 21 Gorffennaf 2009, cyhoeddodd yr FIL y buasai arolygaethau amhureddu gwaed yn cael eu defnyddio ar gyfer y chwaraeon am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd. Datganodd llywydd yr FIL Josef Fendt yn ystod y 57fed Gyngres yn Liberec, Gweriniaeth Tsiec, nad oedd prawf positif wedi cael ei wneud yn ystod Cwpan y Byd Viessmann na phencampwriaethau Ewropeaidd na phencampwriaethau'r Byd yr FIL er i brofion amhureddu gael eu cynnal ar hap gan y World Anti-Doping Agency. Roedd y ddau drosedd cyffuriau diwethaf i ddigwydd o dan lywodraeth yr FIL wedi digwydd gyda'r cyffur canabis, a cafodd y ddau athletwr eu cosbi gan eu ffederasiynnau cenedlaethol.[5]

Marwolaeth golygu

Cydnabyddir mai trac Canolfan Llithro Whistler yw'r cyflymaf yn y byd, ac mae'n enwog fel y peryclaf. Cododd nifer o dimau bryderon ynglŷn â diogelwch yr athletwyr cyn cychwyn y gemau.[6] Ar 12 Chwefror dywedodd llefarydd FIL y bu 2,500 rhediad ar y trac gyda chanran o ddamweiniau ond 3%. Ond, wythnos cyn y gemau roedd yr athletwyr yn sylwebu ar gyflymder ac anhawster technegol y trac 1,400 metr.[7] Digwyddodd nifer o ddamweiniau bach ar y trac yn ystod y rhediadau hyfforddi cyn cychwyn y gemau.[6]

Yn ystod sesiwn hyfforddi ar 12 Chwefror, bu farw'r athletwr Georgiaidd Nodar Kumaritashvili o anafiadau a ddebryniodd mewn damwain ar dro olaf y trac wrth deithio ar gyflymder o 144.3 cilometr yr awr, gan daro i mewn i ochr y tro a hedfan dros y wal amddiffyn cyn taro polyn dur.[8] Cynhaliodd yr FIL gyfarfod brys yn syth wedi'r digwyddiad, a gohirwyd y rhediadau hyfforddi am weddill y dydd.[6]

Gwnaethpwyd ymchwiliadau i'r ddamwain yr un diwrnod, gan ddod i'r canlyniad na achoswyd y ddamwain gan unrhyw ddiffyg yn y trac. Fel mesur rhwystrol, codwyd uchder y waliau ar y ffordd allan o dro 16 newidiwyd proffil yr iâ.[9] Rhyddhawyd datganiad ar cyd gan yr FIL, y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol (PORh), a Phwyllgor Trefnu (VANOC) ynglŷn â marwolaeth Kurmaitasvili pan ohirwyd y hyfforddi.[10] Yn ôl Gwasanaeth Crwneriaid British Columbia a'r Royal Canadian Mounted Police (RCMP), achoswyd y ddamwain gan Kumaritashvili wedi iddo ddod allan o dro 15 yn hwyr a pheidio a digolledu ar gyfer tro 16.[11] Oherwydd y farwolaeth, ychwanegwyd 100 troedfedd o wal amddiffyn wedi tro 16 a newidiwyd proffil yr iâ.[11] Symudwyd cychwyn ras y dynion hefyd i'r un man a chychwyn ras y merched a'r ras parau.[12] Kumaritashvili oedd yr athletwr Olympaidd cyntaf i farw yn ystod hyfforddi ar gyfer Gemau Olympaidd yr Gaef ers 1992[12] a'r athletwr luge cyntaf i farw yn ystod hyfforddi ers i Kazimierz Kay-Skrzypeski farw ar y trac luge a ddefnyddiwyd ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf 1964 yn Innsbruck.[13] Dyma hefyd oedd y farwolaeth gyntaf yn chwaraeon luge ers 10 Rhagfyr 1975 pan lladdwyd athletwr luge Eidalaidd.[14]

Symudwyd cychwyn ras y merched a'r ras parau i'r safle cychwyn iau ar y trac, a leolir ar ôl tro 5.[15] Cwynodd Natalie Geisenberger o'r Almaen nad cychwyn merched ydoedd, ond cychwyn "kind", sy'n cyfieithu i'r Gymraeg fel "plant" neu "caredig". Datganodd ei chyd-aelod tîm Tatjana Hüfner a oedd gyda'r cyflymdra cyflymaf o 82.3 mya dros ei dwy llithriad, mad oedd y cychwyn newydd yn gymorth i rai fel hi a oedd yn dechreuwyr da.[15] Datganodd yr Americanwraig Erin Hamlin fod y trac yn dal i fod yn gorchymyn llawer gan yr athletwyr hyd yn oed wedi i'r pellter gael ei leihau o 1,193 metr i 953 metr ac fod yr athletwyr dal yn cyrraedd cyflymderau o dros 80 mya.[15] Ond, adroddodd y wasg nad oedd unrhyw ddamweiniau yn ras y dynion fel canlyniad o'r newid hwn.[16]

Yn ystod cyfweliad gyda Yahoo! Sports ar 14 Chwefror 2010, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr FIL, Svein Romstad, fod y ffederasiwn wedi cysidro diddymu'r gystadleuaeth luge yn dilyn marwolaeth Kumaritashvili deuddydd ynghynt.[17] Dywedodd Romstad fod Kumaritashvili wedi gwneud cangymeriad gan achosi'r ddamwain, ond fod unrhyw farwolaeth yn annerbynniol.[17] Dywedodd hefyd y symudwyd cychwyn y rasus yn bennaf am resymau emosiynol.[17] Yn dilyn marwolaeth Kumaritashvili, mae'r FIL yn cydweithio gyda phwyllgor trefnu Gemau Olympaidd y Gaeaf 2014 yn Sochi er mwyn arafu'r trac yng Nghanolfan Llithro Cenedlaethol Rwsia yn Rzhanaya Polyana.[17]

Er y newidiadau, a dathliadau'r athletwyr a enillodd, taflodd marwolaeth Kumaritashvili gysgod dros y ras. Dywedodd rhai athletwyr a gyfranogodd eu bod yn teimlo ofn yn ystod eu llithriadau a croesawont y newidiadau, tra bod eraill yn beirniadu'r newidiadau gan gredu y buasent yn rhoi mantais i gychwynwyr cryf megs yr Almaenwyr.[18] Dywedodd Rubén González o'r Ariannin fod, "Duw wedi bendithio'r Almaenwyr heddiw".[18] Er hyn, adroddodd y wasg y newidiadau mewn golau positif wedi i dîm parau Awstria, Tobias a Markus Schiegl, gael damwain yn yr un tro lle bu farw Kumaritashvili.[19] Ni anafwyd y ddau yn y ddamwain.[19]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Again 110 Luge Athletes To Participate at Olympic Games. Fédération Internationale de Luge de Course. Adalwyd ar 19 Rhagfyr 2008.
  2.  Road to Vancouver via the Viessmann World Cup. International Luge Federation. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2008.
  3. 3.0 3.1 3.2  Vancouver 2010 Olympic Winter Games Qualifications. Adalwyd ar 3 Chwefror 2010.
  4.  [tt_news=10631&tx_ttnews[backPid]=45&cHash=6e4e22e091 Chairman of Sport Commission Benz Jury Chairman at Olympic Winter Games]. Fédération Internationale de Luge de Course (15 Mehefin 2009). Adalwyd ar 19 Mehefin 2009.
  5.  [tt_news=10681&tx_ttnews[backPid]=45&cHash=68d61689c2 No Doping Offences at Viessmann World Cups and FIL Championships]. FIL (21 Gorffennaf 2009). Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2009.
  6. 6.0 6.1 6.2  Olympic Luger Nodar Kumaritashvili Dies after Crash. BBC Sport (12 Chwefror 2010). Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
  7.  Men's Start Switched After Fatal Crash. Reuters (13 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
  8. "Georgian Luger Killed in Training", Toronto Sun, QMI Agency, 12 Chwefror 2010.
  9.  Joint VANOC - FIL Statement on Men’s Luge Competition.
  10.  [tt_news=11561&tx_ttnews[backPid]=331&cHash=c1df2390c8 Joined Statement of IOC, FIL, and VANOC]. FIL (12 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
  11. 11.0 11.1  [tt_news=11565&tx_ttnews[backPid]=331&cHash=5acc6adb41 Joint VANOC-FIL Statement on Men's Luge Competition]. FIL (13 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
  12. 12.0 12.1  Men's Olympic Lugers Will Start Lower on Track. NBCOlympics.com (12 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
  13. "Luge (Toboggan): Men". In The Complete Book of the Winter Olympics: 2010 Edition. (2009). David Wallechinsky and Jaime Loucky, Editor. Llundain: Aurum Press Limited. tud. 158.
  14.  Luge:Luge Start Moved as Officials Defend Whistler Sliding Track. Vancouver2010.com (13 Chwefror 2010). Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
  15. 15.0 15.1 15.2  Martyn Herman (14 Chwefror 2010). Luge-Women Sliders Now Have Kids Race — German. Yahoo! Sports. Reuters. Adalwyd ar 14 Chwefror 2010.
  16.  Sportsmail Reporter (15 Chwefror 2010). Winter Olympics 2010: Felix Loch Wins Luge Gold after Changes Made to Course Following Death of Nodar Kumaritashvili. Mail Online. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
  17. 17.0 17.1 17.2 17.3  Sharon Reich (15 Chwefror 2010). Luge-FIL Considered Cancelling Competition. Yahoo! Sports. Adalwyd ar 16 Chwefror 2010.
  18. 18.0 18.1 Sean Gregory. "Still Fear — and Loathing — at the Luge Track", Time, 15 Chwefror 2010.
  19. 19.0 19.1 "Luge: Linger brothers retain luge doubles crown", Agence France-Presse, 17 Chwefror 2010.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: