Mari'r Fantell Wen
Cyfrinwraig a sefydlodd gwlt Cristionogol yng ngogledd-orllewin Cymru yn ail hanner y 18g oedd Mary Evans, a adnabyddid fel Mari'r Fantell Wen (1735? – 28 Hydref 1789). Ein prif ffynhonnell am ei hanes yw'r llyfr Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhos-lan.[1]
Mari'r Fantell Wen | |
---|---|
man claddu Mari: Eglwys Llanfihangel-y-traethau | |
Ganwyd | 1735 Ynys Môn |
Bu farw | 1789 Talsarnau |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Roedd Mari'n enedigol o Ynys Môn ond ymsefydlodd ym mhlwyf Maentwrog, Gwynedd. Dywedir iddi adael ei gŵr a chanlyn gŵr priod arall a chael merch ganddo.[2]
Roedd hi'n credu ei bod wedi ei dyweddïo â Iesu Grist a bod unrhyw beth a wneid er ei mwyn hi yn gyfystyr â gwenud hynny ar ran yr Iesu ei hun. Ymunodd nifer o bobl o'r hen Sir Gaernarfon yn ei chwlt yn enwedig yn ardaloedd Ffestiniog, Penmachno a chyffiniau Harlech yn Ardudwy. Mae'n bosibl fod gorhendaid T. Gwynn Jones, gŵr o Benmachno, yn un o ddilynwyr Mari.[3]
Fel dilynwyr y broffwydoles Seisnig Joanna Southcott, credai ei dilynwyr na fyddai hi byth yn marw. Trefnwyd priodas a neithior rhyngddi â Iesu Grist yn Ffestiniog[4] a daeth cannoedd o bobl yno. Gwisgodd Mari fantell ysblennydd, yn rhodd gan ei dilynwyr. Disgrifir hyn fel "oferedd" - cynhaliwyd y briodas ar y Sabbath - ac "ynfydrwydd" gan Robert Jones yn Nrych yr Amseroedd.[5]
Bu farw Mari yn 1789 yn Nhalsarnau. Gwrthododd ei dilynwyr gredu'r ffaith a chadwyd ei chorff am hir cyn ei gladdu o'r diwedd ym mynwent eglwys Llanfihangel-y-Traethau, Meirionnydd.[6]
Hanes Mari'r Fantell Wen o Drych yr Amseroedd
golygu- “Yn fuan ar ol hyny daeth un arall yn gennad dros y diafol, o Fôn i Sîr Feirionydd. Ei henw oedd Mari Evans, gelwid hi yn gyffredin, Mari y fantell wèn. Gadawodd ei gwr a chanlynodd wr gwraig arall, gan haeru ill dau, nad oedd y briodas gyntaf ond cnawdol, ac nad oedd yn bechod ei thòri; ond bod eu priodas hwy yn bresennol yn ysbrydol ac yn iawn. Buont ryw dalm o amser yn crwydro o’r naill wlad i’r llall, a bu iddi ferch o hwnw. O’r diwedd darfu iddo ei gadael, a hithau a wladychodd ger llaw y Traeth Bychan hyd ddiwedd ei hoes. Cafodd gan luaws mawr o ynfudion twyll yr ardal hono a Ffestiniog, hefyd Penmachno, a rhai mànau eraill, goelio ei bod yn un â Christ, ac mai yr un peth oedd dyfod ati a dyfod at Grist; a pha beth bynag a wnaid iddi, neu erddi, mai yr un ydoedd a phe gwnaethid ef i Grist yn bersonol.
- Twyllodd ei dilynwyr i gredu ei bod wedi priodi cyfiawnder; danfonwyd iddi lawer o anrhegion at y briodas, a lluniwyd neithior odidog iddi yn Ffestiniog; gwisgwyd hi yn wych odiaeth, fel cangen hâf, ar gost ei chanlynwyr, gan ei harwisgo â mantell gôch gost fawr, gan fyned yn lluoedd, a hithau yn eu canol, i eglwys y plwyf, ac oddiyno i’r dafarn hyd yr hwyr, i halogi y Sabbath. Hi a berswadiodd ei disgyblion na byddai hi farw byth; [fel y rhith brophwydes hono, Johanna Southcott] ond er ei hammod ag angeu, a’i chynghrair ag uffern, cipiwyd hi ymaith oddiyno i’w lle ei hun: cadwyd hi yn hir heb ei chladdu, gan ddysgwyl yr adgyfodai drachefn.
- Gellwch wybod ei bod yn dywyllwch a ellid ei deimlo yn yr ardal y cyfodd y fath fudrog a hon y gradd lleiaf o dderbyniad: ond gwir yw y gair, “Pan dybiont ei bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid.” Ond er i rai o’r trueniaid tywyll lynu wrth yr ynfydrwydd a soniwyd, dros amser ar ol marwolaeth eu heulun; eto diflanodd yn raddol o flaen efengyl gallu Duw.”[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Robert Jones, Drych yr Amseroedd (Llanrwst, 1820), tud. 153.
- ↑ Drych yr Amseroedd, tud. 152.
- ↑ Glenda Carr, William Owen Pughe (Caerdydd, 1983), tud. 154n.
- ↑ Owen, Robert (1889). . Dolgellau: E W Evans. tt. 13–14.
- ↑ Drych yr Amseroedd, tud. 153.
- ↑ William Owen Pughe, tud. 154n.
- ↑ Robert Jones, Rhoslan: Drych yr Ameroedd (Argraffiad newydd, Llanrwst, 1920), 153-155.