Mezzo-soprano o'r Eidal oedd Maria Capuana (2 Medi 1891 - 22 Chwefror 1955). Cafodd yrfa opera ryngwladol fawr yn ystod hanner cyntaf yr 20g. Roedd ganddi lais gyda ansawdd tywyll a ddefnyddiodd gyda mynegiant gwych.

Maria Capuana
Ganwyd2 Medi 1891, 1891 Edit this on Wikidata
Fano Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1955 Edit this on Wikidata
Cagliari Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laismezzo-soprano, soprano Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Capuana yn Fano yn Nhalaith Pesaro ac Urbino, Yr Eidal yn blentyn i Giuseppe Capuana a Maria Michela Guarino ei wraig. Roedd y tad yn bennaeth cerddoriaeth filwrol ym myddin yr Eidal ac yn ddisgynnydd i'r awdur Luigi Capuana. Roedd ei brawd Franco Capuana [1] yn arweinydd cerddorfeydd opera ac roedd ei chwaer Celest yn artist cyngerdd ac athrawes piano yng Nghonservatoire Napoli. Cafodd Maria ei hyfforddi yn y grefft o ganu a pherfformio piano yng Nghonservatoire San Pietro a Majella yn Napoli lle'r oedd yn ddisgybl i Beniamino Carelli.[2]

Chwaraeodd ei rôl opera proffesiynol cyntaf ym 1916 yn nhŷ opera Reggio Emilia fel Amneris yn Aida gan Giuseppe Verdi; rôl y byddai'n ei chanu eto mewn llawer o dai opera mawr y byd yn ddiweddarach yn ei gyrfa. Bu'n canu'r rhan ar gyfer recordiad masnachol cyflawn cyntaf yr opera ym 1928 gyferbyn a Giannina Arangi-Lombardi yn rôl y teitl.[3]

Buan y dechreuodd Capuana ymddangos mewn rolau blaenllaw mewn tai opera mawr yn yr Eidal a Ffrainc ac erbyn 1920 roedd hi eisoes wedi ymddangos yn La Scala ym Milan, y Teatro di San Carlo yn Napoli, y Teatro Regio yn Turin, a'r Théâtre des Champs- Élysées ym Mharis ymhlith eraill. Cafodd nifer o lwyddiannau mawr gyda'r rôl Brangäne yn Tristan und Isolde gan Richard Wagner yn gynnar yn ei gyrfa. Bu'r rhan yn gyfle iddi sefydlu ei hun fel un o gantorion Wagneraidd blaenllaw'r Eidal. Ymhlith rolau Wagner eraill yn ei repertoire, roedd Ortrud yn Lohengrin, Venus yn Tannhäuser, ac Erda, Fricka, Gutrune, a'r Ail Norn yn ngylch Der Ring des Nibelungen.

Ym 1921 bu Capuana yn chware rhan Zoraide yn première y byd o Ettore Fieramosca gan Carlo Adolfo Cantù yn y Teatro Regio yn Turin. Ym 1923 cafodd llwyddiant mawr yn La Scala fel Herodias yn Salome gan Richard Strauss. Dychwelodd i La Scala drwy 1928 mewn rolau megis Amneris, Fricka, Ortrud, a Rubria yn Nerone Arrigo Boito. Fe’i gwelwyd yn y Teatro Carlo Felice o bryd i’w gilydd rhwng 1924-1936 lle canodd nifer o rolau Wagner. Bu hi hefyd yn gwneud nifer o ymddangosiadau rhwng 1927-1930 yn y Teatro di San Carlo, gan gynnwys rôl Rufina yn Conchita gan Riccardo Zandonai. Creodd rôl y teitl yn y perfformiad cyntaf erioed o Ivania gan Emilio Pizzi yn y Teatro Donizetti yn Bergamo ym 1926. Yn ystod y 1930au a wnaeth nifer o ymddangosiadau yn y Teatro Massimo yn Palermo. Ym 1931 aeth ar daith o amgylch yr Eidal fel aelod o'r Carro di Tespi (cwmni opera deithiol oedd yn cael ei hariannu gan y Ffasgwyr.)

Y tu allan i'r Eidal, perfformiodd Capuana mewn operâu yn Barcelona, Lisbon, Cairo, yr Ariannin, Chile, Ffrainc a De Affrica yn ystod y 1920au a'r 1930au. Ym 1935 aeth ar daith o amgylch Ffrainc fel datgeiniad.

Daeth gyrfa berfformio Capuana i ben ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd. Ymhlith y rolau eraill a gyflawnodd ar y llwyfan oedd Adalgisa yn Norma, Azucena yn Il trovatore, Cerinto yn Nerone, Charlotte yn Werther, Laura yn La Gioconda, Leonora yn La favorite, Maffio Orsini yn Lucrezia Borgia, Marguerite yn La damnation de Faust, Tywysoges Eboli yn Don Carlos, a'r Hen Fenyw yn L'amore dei tre re.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Cagliari yn 63 oed.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dizionario Biografico degli Italiani (Geiriadur Bywgraffiadol Eidalwyr - Cyfrol 19 (1976)) CAPUANA, Franco adalwyd 16 Gorffennaf 2020
  2. Forgotten Opera Singers Maria Capuana (Mezzo-Soprano) (Fano 1891 - Cagliari 1955)] adalwyd 16 Gorffennaf 2020
  3. Gramophone Review Verdi Aida adalwyd 16 Gorffennaf 2020