Moel y Gaer, Bodfari

(Ailgyfeiriad oddi wrth Moel y Gaer (Bodfari))

Bryngaer gynhanesyddol yn Sir Ddinbych yw Moel y Gaer (205 metr), sy'n gorwedd ym mhen gogleddol Bryniau Clwyd ar gopa isel uwchben pentref Bodfari, tua 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Dinbych. Mae Llwybr Clawdd Offa yn mynd heibio i droed y bryn.

Moel y Gaer, Bodfari
Moel y Gaer, Bodfari - geograph.org.uk - 1323586.jpg
Mathsafle archaeolegol, bryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr200 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2265°N 3.3568°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ09527080 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auGareth Davies (Ceidwadwyr)
AS/auJames Davies (Ceidwadwyr)
Dynodwr CadwFL073 Edit this on Wikidata

DisgrifiadGolygu

Un o'r lleiaf o'r amddiffynfeydd a geir ar hyd copaon Bryniau Clwyd yw Moel y Gaer. Yn ôl pob tebyg mae'n dyddio o Oes yr Haearn, er na cheir tystiolaeth archaeolegol penodol i brofi hynny. Ceir mynedfa ar yr ochr ogleddol trwy glawdd amddiffynnol ac mae'r ochr ddwyreiniol yn cael ei amddiffyn gan greigiau syrth.[1]

 
Moel y Gaer, ar y gorwel, o Lwybr Clawdd Offa.

Saif y bryn ychydig o'r neilltu o brif grib Bryniau Clwyd. Gellir cyrraedd y gopa a'r fryngaer o gyfeiriad Bodfari neu o Sodom, i'r gogledd.

CefndirGolygu

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: FL073.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. CPAT
  2. Cofrestr Cadw.
  3. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  4. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
  5. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.

Dolenni allanolGolygu