Mwdwl-eithin

bryn (532m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy
(Ailgyfeiriad o Mwdwl-eithin, Llyn Alwen)

Copa uchaf Mynydd Hiraethog yw Mwdwl-eithin. Saif yn sir Conwy, tua 10 milltir i'r dwyrain o bentref Betws y Coed ac 1km i'r gorllewin o Lyn Brenig.

Mwdwl-eithin
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr532 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.0727°N 3.6178°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH9171354059 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd263 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaCarnedd y Filiast (y Migneint) Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map

Ceir carnedd ar y copa. Yn y dyffrynnoedd o'i gwmpas ceir nifer o gronfeydd: Llyn Alwen, Cronfa Alwen a Llyn Aled.

Mae Mwdwl-eithin yn gopa mynydd a geir ym Mynydd Hiraethog rhwng Llandudno a Wrecsam; cyfeiriad grid SH917540. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 267 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 532 metr (1745 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 22 Rhagfyr 2007.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu