Myriel Irfona Davies

ymgyrchydd dros y Cenhedloedd Unedig

Gwleidydd dros ac ymgyrchydd dros y Cenhedloedd Unedig oedd Myriel Irfona Davies (5 Mawrth 192020 Rhagfyr 2000) oedd yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru yn y 1980au a'r 1990au. Fe'i ganwyd yn Abertawe ar 5 Mawrth 1920, yn ferch i David Morgan (1883-1959), a'i wraig Sarah Jane (nee Jones, 1885-1953).

Myriel Irfona Davies
Ganwyd5 Mawrth 1920 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw20 Rhagfyr 2000 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn Edit this on Wikidata
Galwedigaethteleffonydd, ymgyrchydd heddwch, diacon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig (y DU) Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, OBE Edit this on Wikidata

Magwraeth a phriodi golygu

Fe'i ganwyd yn Abertawe ar 5 Mawrth 1920, yn ferch i David Morgan (1883-1959), a'i wraig Sarah Jane (nee Jones, 1885-1953) ac roedd ganddi frawd, Herbert Myrddin Morgan (1918-1999). Bu'n byw yng Nglyn Nedd, Caerau, Maesteg a Hendy-gwyn cyn i'r teulu symud i Fancyfelin pan oedd Myriel yn 12 oed.

Derbyniodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Hendy-gwyn ac wedi iddi orffen yr ysgol aeth i weithio fel teleffonydd gyda'r Swyddfa Bost yng Nghaerfyrddin, Dinbych-y-pysgod, Caerdydd a'r Amwythig, Yr Amwythig lle y cyfarfu â'r newyddiadurwr a'r sosialydd, Max Davies (m. 1986). Priododd y ddau yn 1952 gan symud i Lundain lle gweithiodd Myriel fel teleffonydd yn Selfridges, Llundain. Yn 1956 ymunodd â Chymdeithas y Cenhedloedd Unedig a chyn hir penodwyd hi i weithio'n llawn amser fel Swyddog Ymgyrchoedd dros y Gymdeithas.

Y Cenhedloedd Unedig golygu

Bu'n Ddirprwy Gyfarwyddwr Prydain y Gymdeithas ac yna'n Dirprwy Gyfarwyddwr y Cenhedloedd Unedig, gan ymddeol yn 1988.

Yn ôl T. Hefin Jones yn y Bywgraffiadur Cymreig[1] teithiodd Myriel ledled y byd, ond gwnaeth tair taith argraffiadau dwfn arni:

Anrhydeddau a marwolaeth golygu

Anrhydeddwyd hi gan yr Orsedd yn 1983 gan gymryd yr enw yng Ngorsedd, Myriel Dafydd. Derbyniodd MBE ac OBE ychydig cyn marw ar 20 Rhagfyr 2000; fe'i claddwyd ym mynwent Gibeon, Bancyfelin.

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, T. H., (2020). DAVIES, MYRIEL IRFONA (1920 - 2000), ymgyrchydd dros y Cenhedloedd Unedig. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 6 Maw 2024, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c12-DAVI-IRF-1920.
  • 'Coffâd - Myriel Irfona Davies', New world, Ionawr 2001
  • Teyrnged gan Beti Wyn James yn Y Cardi bach, Ionawr 2001
  • Thank you, Dear Myriel, UNA-UK London & South East Region Newsletter, 23 Ebrill 2001.