Nicholas Evans

arlunydd (1907-2004)

Arlunydd Cymreig oedd Nicholas Evans (10 Ionawr 19075 Chwefror 2004) [1], yn fwyaf adnabyddus yn y byd celf fel Nick Evans. Roedd e'n beintiwr hunanddysgedig. Dylanwadwyd ei waith gan ei ddaliadau ysbrydol fel Pentecostiad.[2]

Nicholas Evans
Ganwyd10 Ionawr 1907 Edit this on Wikidata
Aberdâr Edit this on Wikidata
Bu farw5 Chwefror 2004, 25 Chwefror 2004 Edit this on Wikidata
Abernant Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Cafodd Evans ei eni yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf.[3] Cydnabuwyd dawn Evans mewn arlunio gan un o'i athrawon ysgol gynradd. Rhoddodd y gorau iddi ar ôl ychydig, fodd bynnag, am nad oedd e'n gallu fforddio prynu papur.[4] Dechreuodd weithio fel glöwr,[3] ond ni pharhaodd hyn ond am dair blynedd, yn dilyn marwolaeth ei dad yn 1923, a effeithiodd yn fawr ar Evans.[5] Roedd ei fam hefyd wedi gweithio yn y pyllau glo.[6]

Dychwelodd Evans i hobi ei blentyndod o arlunio yn ei chwedegau, ar ôl ymddeol. Arddangoswyd ei waith yn 1972.[3] Yn 1978, yn 71 oed, cynhaliodd arddangosfa unigol yn Oriel Caerdydd. Yn dilyn yr ymateb cadarnhaol arweiniodd hyn at arddangosfa arall, mewn oriel yn Mayfair Llundain.

Ceir ei luniau mewn sawl oriel gyhoeddus, gan gynnwys y Tate Modern ac Oriel Gelf Glynn Vivian Abertawe. Yn 1987 cydweithiodd gyda'i ferch, Rhoda, i gynhyrchu llyfr am ei gelfyddyd. [7]

Bu farw Evans yn 2004 yn 96 oed.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Frances Spalding; Judith Collins, gol. (1990). 20th century painters and sculptors. Antique Collectors' Club. t. 161. ISBN 9781851491063.
  2. Steven Felix (2015). Pentecostal Aesthetics: Theological Reflections in a Pentecostal Philosophy of Art and Aesthetics (yn Saesneg). Brill. t. 85. ISBN 9789004291621.
  3. 3.0 3.1 3.2 Peter Wakelin (9 Chwefror 2004). "Nicholas Evans". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Awst 2022.
  4. Meic Stephens (9 Chwefror 2004). "Nicholas Evans". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Awst 2022.
  5. 5.0 5.1 "Nicholas Evans - Pilgrim & Painter". BBC Wales - Radio Wales. 13 Mehefin 2010.
  6. Russell Davies (2015). People, Places and Passions: A Social History of Wales and the Welsh 18701948 Volume 1 (yn Saesneg). University of Wales Press. t. 151. ISBN 9781783162383.
  7. Symphonies in Black (1987) by Rhoda Evans. ISBN 978-0862431358