Aber-nant, Rhondda Cynon Taf

pentref yn Rhondda Cynon Taf

Pentref ger Aberdâr ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Aber-nant.[1] Yn Saesneg tueddir i ddefnyddio'r sillafiad Abernant,[2] a arferid gynt yn Gymraeg cyn y safoni a fu ar sillafiadau enwau lleoedd Cymru yn 1957.[3] Fe'i lleolir yng nghymuned Dwyrain Aberdâr. Saif Aber-nant i'r de-ddwyrain o Aberdâr, yng Nghymoedd De Cymru. Pentref glofaol ydoedd a gafodd ei sefydlu yn 1801 pan sefydlwyd gwaith haearn yn Aberdâr.[4] Ymhlith y tai cyntaf i'w codi yno roedd Little Row a Moss Place.

Aber-nant
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.721°N 3.428°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO008032 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auVikki Howells (Llafur)
AS/auBeth Winter (Llafur)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Abernant (gwahaniaethu).

Mae strydoedd Aber-nant yn adlewyrchu pwysigrwydd y diwydiant glo a dur yn yr ardal yn y 19eg ganrif gydag enwau'r strydoedd yn brawf o hynny: Engineer's Row, Foreman's Row a Collier's Row ayb.[4]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur)[5] ac yn Senedd y DU gan Beth Winter (Llafur).[6]

Gorsaf reilffordd

golygu

Agorwyd gorsaf reilffordd Aber-nant yn 1854 ar hyd Dyffryn Nedd a hyd at Merthyr Tudful.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 17 Mehefin 2024
  2. British Place Names; adalwyd 17 Mehefin 2024
  3. Rhestr o Enwau Lleoedd: A Gazetteer of Welsh Place-namesgol. Elwyn Davies (Pwyllgor Iaith a Llenyddiaeth Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru 1957; 2/1996)
  4. 4.0 4.1 "Abernant". Rhondda Cynon Taff Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-18. Cyrchwyd June 7, 2010.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU