Nodyn:Pigion/Wythnos 22

Pigion

Cantores ac actores o Awstralia ydy Kylie Ann Minogue, OBE (ganwyd 28 Mai, 1968). Daeth i'r brig yn ystod y 1980au o ganlyniad i'r opera sebon Neighbours cyn iddi symud i fyd canu pop ym 1987.

Cafodd gytundeb recordiau gyda'r cyfansoddwyr a chynhyrchwyr Prydeinig Stock, Aitken & Waterman ym 1988 ac roedd nifer o'i chaneuon yn llwyddiannus ledled y byd. Lleihaodd ei phoblogrwydd, fodd bynnag, ar ddechrau'r 1990au gan beri iddi adael Stock, Aitken & Waterman ym 1992. O ganol y 1990au, ymbellhaodd Minogue ei hun o'i gweithiau cynharaf gan geisio sefydlu'i hun fel cyfansoddwraig a pherfformwraig annibynnol. Cafodd ei gweithiau gyhoeddusrwydd mawr ond ni lwyddodd ei recordiau i ddenu cynulleidfa sylweddol. Ail-greodd ei hun gan ad-ennill ei phoblogrwydd yn 2000 drwy ei fideos cerddorol a'i pherfformiadau byw.

Yn Awstralia ac Ewrop, ystyrir Minogue fel un o enwogion a symbolau rhywiol mwyaf adnabyddus ei chenhedlaeth. Wedi iddi gael ei diystyru yn gynnar iawn yn ei gyrfa gerddorol gan nifer o feirniaid yn Awstralia, mae bellach yn cael ei chydnabod am ei llwyddiannau niferus. Derbyniodd OBE yn y flwyddyn 2008 am ei gwasanaeth i gerddoriaeth. Mae wedi gwerthu dros 60 miliwn o recordiau. mwy... 


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis