OpenAI
Mae OpenAI yn sefydliad ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial (AI) o'r Unol Daleithiau a sefydlwyd yn Rhagfyr 2015, gyda'r bwriad o ddatblygu deallusrwydd cyffredinol artiffisial "diogel a buddiol", y mae'n ei ddiffinio fel "systemau ymreolaethol iawn sy'n perfformio'n well na bodau dynol yn y gwaith mwyaf gwerthfawr yn economaidd.[1] Fel un o brif sefydliadau'r AI Spring,[2][3][4] mae wedi datblygu sawl model iaith mawr, modelau cynhyrchu delweddau, ac yn flaenorol, modelau ffynhonnell agored hefyd.[5][6] Mae rhyddhau ChatGPT wedi cael y clod am ddechrau'r hyn a elwir yn 'wanwyn' neu 'chwyldro' deallusrwydd artiffisial. [7]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 8 Rhagfyr 2015 |
Prif weithredwr | Sam Altman |
Sylfaenydd | Ilya Sutskever, Greg Brockman, Wojciech Zaremba, Andrej Karpathy, John Schulman, Elon Musk, Sam Altman |
Gweithwyr | 375 |
Isgwmni/au | OpenAI OpCo |
Ffurf gyfreithiol | Delaware corporation, sefydliad 501(c)(3) |
Asedau | 19,976,363 $ (UDA), 18,795,584 $ (UDA) 19,976,363 $ (UDA) (31 Rhagfyr 2021) |
Pencadlys | San Francisco |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://openai.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r sefydliad yn cynnwys yr OpenAI, Inc.[8] sef sefydliad dielw sydd wedi'i gofrestru yn Delaware a'i is- gwmni er-elw OpenAI Global, LLC.[9]
Fe’i sefydlwyd gan Ilya Sutskever, Greg Brockman, Trevor Blackwell, Vicki Cheung, Andrej Karpathy, Durk Kingma, Jessica Livingston, John Schulman, Pamela Vagata, a Wojciech Zaremba, gyda Sam Altman ac Elon Musk.[10][11] Darparodd Microsoft $1 biliwn i OpenAI Global LLC a $10 biliwn pellach yn 2019 [12][13] gyda chyfran sylweddol o'r buddsoddiad ar ffurf adnoddau cyfrifiadurol ar wasanaeth cwmwl Azure Microsoft.[14]
Ar 17 Tachwedd 2023, fe ddiswyddodd y bwrdd Altman fel Prif Swyddog Gweithredol (CEO), tra diswyddwyd Brockman fel cadeirydd ac yna ymddiswyddodd fel arlywydd. Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, dychwelodd y ddau ar ôl trafodaethau gyda'r bwrdd, ac ymddiswyddodd y rhan fwyaf o aelodau'r bwrdd. Roedd y bwrdd cychwynnol newydd yn cynnwys cyn-Brif Swyddog Gweithredol Salesforce, Bret Taylor fel cadeirydd[15] a chafodd Microsoft sedd di-bleidlais.[16]
Hanes
golyguYn ôl ymchwiliad dan arweiniad TechCrunch, Elon Musk oedd y rhoddwr ariannol mwyaf tra na chyfranodd YC Research yr un geiniog goch.[17] Dywedodd y sefydliad y byddai'n "cydweithio'n rhydd" gyda sefydliadau ac ymchwilwyr eraill trwy wneud ei batentau a'i ymchwil yn agored i'r cyhoedd.[18][19] Ers ei sefydlu, mae pencadlys OpenAI yn Adeilad Pioneer yn Mission District, San Francisco.[20][21]
Yn Ebrill 2016, rhyddhaodd OpenAI fersiwn beta (arbrofol) o "OpenAI Gym", ei lwyfan ar gyfer ymchwil dysgu ac addysgu.[22] Rhoddodd Nvidia ei uwchgyfrifiadur DGX-1 cyntaf i OpenAI yn Awst 2016 i'w helpu i hyfforddi modelau AI mwy a mwy cymhleth gyda'r gallu i leihau'r amser prosesu o chwe diwrnod i ddwy awr.[23][24] Yn Rhagfyr 2016, rhyddhawyd OpenAI "Universe", llwyfan meddalwedd ar gyfer mesur a hyfforddi deallusrwydd cyffredinol AI ar draws cyflenwad o gemau, gwefannau a chymwysiadau bydeang eraill.[25][26][27]
Yn 2017 gwariodd OpenAI $7.9 miliwn, neu chwarter ei dreuliau swyddogaethol, ar gyfrifiadura cwmwl yn unig.[28] Mewn cymhariaeth, cyfanswm treuliau DeepMind yn 2017 oedd $442 miliwn. Yn ystod haf 2018, roedd hyfforddi bots Dota 2 OpenAI yn unig yn golygu rhentu 128,000 CPU a 256 GPU gan Google am wythnosau di-ben-draw.
Yn 2018, ymddiswyddodd Musk o'i sedd ar y bwrdd, gan nodi " gwrthdaro [buddiant] posibl yn y dyfodol" oherwydd ei rôl arall, fel Prif Swyddog Gweithredol Tesla a oedd yn brysur ddatblygu AI Tesla ar gyfer ceir hunan-yrru.[29] Mae Sam Altman yn honni bod Musk yn credu bod OpenAI wedi cwympo y tu ôl i chwaraewyr eraill fel Google a chynigiodd Musk yn lle hynny gymryd drosodd OpenAI ei hun, rhywbeth a wrthodwyd gan y bwrdd. Gadawodd Musk OpenAI wedi hynny ond honnodd ei fod yn parhau i fod yn rhoddwr, ond ni wnaeth unrhyw roddion ar ôl iddo adael, hyd y gwyddus.[30]
Yn Chwefror 2019, cyhoeddwyd GPT-2, a gafodd lawer o sylw am ei allu i gynhyrchu testun tebyg i ddyn.[31]
Yn 2019, trosglwyddodd OpenAI o fod yn gorff dielw (nid-am-elw) i 'gapio'r elw' ar luoswm o 100 gwaith unrhyw fuddsoddiad.[32] Yn ôl OpenAI, mae'r model 'capio'r elw' hwn yn caniatáu i OpenAI Global LLC ddenu buddsoddiad yn gyfreithlon o gronfeydd menter a rhoi arian i weithwyr y cwmni. Mae llawer o'r ymchwilwyr gorau'n gweithio i Google Brain, DeepMind, neu Facebook, sy'n cynnig opsiynau stoc na fyddai cwmni dielw yn gallu eu gwneud.[33] Cyn y cyfnod pontio, roedd yn gyfreithiol ofynnol iddyn nhw ddatgelu symiau iawndal y gweithwyr pwysicaf yn OpenAI.[34]
Yna dosbarthodd y cwmni ecwiti i'w weithwyr a ffurfio partneriaeth â Microsoft,[35] a wnaeth fbuddsoddi o $1 biliwn i'r OpenAI. Ers hynny, mae systemau OpenAI wedi rhedeg ar lwyfan uwchgyfrifiadura Azure gan Microsoft.[36][37][38]
2020-2023: partneriaeth rhwng ChatGPT, DALL-E â Microsoft
golyguYn 2020, cyhoeddodd OpenAI GPT-3, model iaith sydd wedi’i hyfforddi ar setiau mawr o ddata o'r rhyngrwyd. Mae GPT-3 wedi'i anelu at iaith naturiol sy'n ateb cwestiynau, ond gall hefyd gyfieithu rhwng ieithoedd a chynhyrchu testun byrfyfyr yn gydlynol. Cyhoeddodd hefyd y byddai API cysylltiedig, a enwir yn syml "yr API", yn ffurfio calon ei gynnyrch masnachol cyntaf.[39]
Yn 2021, cyflwynodd OpenAI DALL-E, model dysgu dwfn arbenigol a all gynhyrchu delweddau digidol cymhleth o ddisgrifiadau testunol, gan ddefnyddio amrywiad o bensaernïaeth GPT-3.[40]
Yn Rhagfyr 2022, derbyniodd OpenAI sylw eang yn y cyfryngau ar ôl lansio rhagolwg rhad ac am ddim o ChatGPT, ei chatbot AI newydd yn seiliedig ar GPT-3.5. Yn ôl OpenAI, cofrestriadau o fewn y pum diwrnod dros filiwn y diwrnod cyntaf.[41] Yn ôl ffynonellau dienw a ddyfynnwyd gan Reuters yn Rhagfyr 2022, roedd OpenAI Global LLC yn rhagamcanu $200 miliwn o refeniw yn 2023 a $1 biliwn mewn refeniw yn 2024.[42]
Yn Ionawr 2023, roedd OpenAI Global LLC mewn trafodaethau am gyllid a fyddai'n codi gwerth y cwmni OpneAI Global LLC i $29 biliwn, dwbl ei werth 2021.[43] Ar 23 Ionawr 2023 cyhoeddodd Microsoft fuddsoddiad aml-flwyddyn o US$ 10 biliwn newydd yn OpenAI Global LLC.[44][45] Roedd sibrydion am y fargen hon yn awgrymu y gallai Microsoft dderbyn 75% o elw OpenAI nes iddo sicrhau ei enillion buddsoddi a chyfran o 49% yn y cwmni.[46] Cyhoeddodd Google ap AI tebyg (sef Bard), ar ôl i ChatGPT gael ei lansio, gan ofni y gallai ChatGPT fygwth lle Google fel ffynhonnell wybodaeth.[47][48]
Ar 7 Chwefror 2023, cyhoeddodd Microsoft ei fod yn adeiladu technoleg AI yn seiliedig ar yr un sylfaen â ChatGPT i mewn i Microsoft Bing, Edge, Microsoft 365 a chynhyrchion eraill. [49]
Ar 14 Mawrth 2023, rhyddhaodd OpenAI GPT-4, fel API (gyda rhestr aros) ac fel nodwedd o ChatGPT Plus.[50]
Ar 22 Mai 2023, postiodd Sam Altman, Greg Brockman ac Ilya Sutskever argymhellion ar gyfer llywodraethu deallusrwydd-uwch (superintelligence).[51] Dyma'r math o ddeallusrwydd artiffisial a ddisgrifir yn y nofel Gymraeg Y Dydd Olaf yn 1967-8 gan Owain Owain. Maen nhw'n ystyried y gallai deallusrwydd-uwch ddigwydd o fewn y 10 mlynedd nesaf, gan ganiatáu "dyfodol mwy llewyrchus, dramatig" ac "o ystyried y posibilrwydd o risg dirfodol, ni allwn fod yn adweithiol yn unig". Dywedodd y grwp fod angen creu corff gwarchod rhyngwladol (international watchdog) tebyg i IAEA i oruchwylio systemau AI uwchlaw trothwy gallu penodol, gan awgrymu na ddylai systemau AI cymharol wan ar yr ochr arall gael eu rheoleiddio'n ormodol. Maen nhw hefyd yn galw am fwy o ymchwil diogelwch technegol ar gyfer dealltwriaeth-uwch, ac yn gofyn am fwy o gydlynu, er enghraifft trwy lywodraethau'n lansio prosiect ar y cyd fel bod "llawer o'r ymdrechion cyfredol yn dod yn rhan ohono".[51][52]
Cymhellion
golyguMae rhai gwyddonwyr, fel Stephen Hawking a Stuart Russell, wedi mynegi pryderon, pe bai AI datblygedig (deallusrwydd-uwch) rywbryd yn ennill y gallu i ail-ddylunio ei hun ar gyfradd gynyddol, y gallai arwain at ddifodiant dynoliaeth. Dyma hefyd oedd byrdwn y nofel Y Dydd Olaf, yn ogystal a sut i wrthwynebu'r cyflyru, y dad-ddynoli a'r difodiant. Mae’r cyd-sylfaenydd Musk yn nodweddu AI fel “bygythiad dirfodol mwyaf” dynoliaeth.[53]
Mae Musk ac Altman wedi datgan eu bod yn cael eu cymell yn rhannol gan bryderon am ddiogelwch AI a'r risg dirfodol o ddeallusrwydd cyffredinol artiffisial.[54] Dywed OpenAI ei bod yn “anodd dirnad faint o AI ar lefel ddynol a allai fod o fudd i gymdeithas,” a’i bod yr un mor anodd deall “faint a allai niweidio cymdeithas pe bai’n cael ei adeiladu ar ei liwt ei hun, neu ei ddefnyddio’n anghywir”.[55] Ni ellir gohirio ymchwil ar ddiogelwch yn ddiogel: "oherwydd hanes rhyfeddol AI, mae'n anodd rhagweld pryd y gallai AI ar lefel ddynol ddod o fewn cyrraedd."[56] Dywed OpenAI y dylai AI "fod yn estyniad o ewyllys dyn ar lefel unigol ac, yn ysbryd rhyddid, wedi'i ddosbarthu mor eang ac mor gyfartal â phosib."Mae'r cyd-gadeirydd Sam Altman yn disgwyl i'r prosiect degawdau o hyd ragori ar ddeallusrwydd dynol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "OpenAI Charter". openai.com (yn Saesneg). April 9, 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 14, 2023. Cyrchwyd 2023-07-11.
- ↑ Weil, Elizabeth (2023-09-25). "Sam Altman Is the Oppenheimer of Our Age". Intelligencer (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-12.
- ↑ Mickle, Tripp; Metz, Cade; Isaac, Mike; Weise, Karen (2023-12-09). "Inside OpenAI's Crisis Over the Future of Artificial Intelligence". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2023-12-12.
- ↑ Journal, The (2023-12-10). "Artificial: The OpenAI Story". WSJ (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-12.
- ↑ gpt-2, OpenAI, 2023-11-19, https://github.com/openai/gpt-2, adalwyd 2023-11-19
- ↑ "Models - OpenAI API". OpenAI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 19, 2023. Cyrchwyd November 19, 2023.
- ↑ Frank, Michael (September 22, 2023). "US Leadership in Artificial Intelligence Can Shape the 21st Century Global Order". The Diplomat (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-12-08.
Instead, the United States has developed a new area of dominance that the rest of the world views with a mixture of awe, envy, and resentment: artificial intelligence... From AI models and research to cloud computing and venture capital, U.S. companies, universities, and research labs – and their affiliates in allied countries – appear to have an enormous lead in both developing cutting-edge AI and commercializing it. The value of U.S. venture capital investments in AI start-ups exceeds that of the rest of the world combined.
- ↑ "OPENAI, INC". OpenCorporates. 2015-12-08. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 28, 2023. Cyrchwyd 2023-08-02.
- ↑ Our Structure.
- ↑ "Introducing OpenAI". OpenAI (yn Saesneg). December 12, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 8, 2017. Cyrchwyd January 27, 2023.
- ↑ "OpenAI, the company behind ChatGPT: What all it does, how it started and more". The Times of India (yn Saesneg). January 25, 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 3, 2023. Cyrchwyd January 28, 2023.
- ↑ Browne, Ryan (January 10, 2023). "Microsoft reportedly plans to invest $10 billion in creator of buzzy A.I. tool ChatGPT". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 3, 2023. Cyrchwyd January 27, 2023.
- ↑ Lardinois, Frederic (March 14, 2023). "Microsoft's new Bing was using GPT-4 all along". TechCrunch (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 15, 2023. Cyrchwyd March 30, 2023.
- ↑ "OpenAI has received just a fraction of Microsoft's $10 billion investment". Semafor (yn Saesneg). 2023-11-18. Cyrchwyd 2023-11-27.
- ↑ "OpenAI brings Sam Altman back as CEO less than a week after he was fired by board". CNBC (yn Saesneg). 22 November 2023.
- ↑ Leswing, Hayden Field,Kif (2023-11-30). "Microsoft secures nonvoting board seat at OpenAI". CNBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-30.
- ↑ Harris, Mark (17 May 2023). "Elon Musk used to say he put $100M in OpenAI, but now it's $50M: Here are the receipts". TechCrunch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 May 2023.
- ↑ "Introducing OpenAI". OpenAI Blog. December 12, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 24, 2019. Cyrchwyd September 29, 2018.
- ↑ "Tech giants pledge $1bn for 'altruistic AI' venture, OpenAI". BBC News. December 12, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 14, 2018. Cyrchwyd December 19, 2015.
- ↑ Conger, Kate. "Elon Musk's Neuralink Sought to Open an Animal Testing Facility in San Francisco". Gizmodo (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 24, 2018. Cyrchwyd October 11, 2018.
- ↑ Hao, Karen (February 17, 2020). "The messy, secretive reality behind OpenAI's bid to save the world". MIT Technology Review (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 3, 2020. Cyrchwyd March 9, 2020.
- ↑ Dave Gershgorn (April 27, 2016). "Elon Musk's Artificial Intelligence Group Opens A 'Gym' To Train A.I." Popular Science. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 30, 2016. Cyrchwyd April 29, 2016.
- ↑ Carr, Austin; King, Ian (June 15, 2023). "How Nvidia Became ChatGPT's Brain and Joined the $1 Trillion Club". Bloomberg News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 18, 2023.
- ↑ Vanian, Jonathan (August 15, 2016). "Elon Musk's Artificial Intelligence Project Just Got a Free Supercomputer". Fortune. Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 7, 2023.
- ↑ Mannes, John. "OpenAI's Universe is the fun parent every artificial intelligence deserves". TechCrunch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 19, 2019. Cyrchwyd December 31, 2016.
- ↑ "OpenAI – Universe" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 1, 2017. Cyrchwyd December 31, 2016.
- ↑ Claburn, Thomas. "Elon Musk-backed OpenAI reveals Universe – a universal training ground for computers". The Register. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 1, 2017. Cyrchwyd December 31, 2016.
- ↑ "Microsoft to invest $1 billion in OpenAI". Reuters (yn Saesneg). July 22, 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 25, 2020. Cyrchwyd March 6, 2020.
- ↑ Vincent, James (February 21, 2018). "Elon Musk leaves board of AI safety group to avoid conflict of interest with Tesla". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 9, 2020. Cyrchwyd February 22, 2018.
- ↑ "The secret history of Elon Musk, Sam Altman, and OpenAI | Semafor". www.semafor.com (yn Saesneg). March 24, 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 27, 2023. Cyrchwyd March 30, 2023.
- ↑ Hern, Alex (14 February 2019). "New AI fake text generator may be too dangerous to release, say creators". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 February 2019. Cyrchwyd 19 December 2020.
- ↑ "OpenAI shifts from nonprofit to 'capped-profit' to attract capital" (yn Saesneg). March 11, 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 4, 2023. Cyrchwyd January 4, 2023.
- ↑ Kahn, Jeremy (March 11, 2019). "AI Research Group Co-Founded by Elon Musk Starts For-Profit Arm". Bloomberg News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 7, 2019. Cyrchwyd March 6, 2020.
- ↑ Metz, Cade (April 19, 2018). "A.I. Researchers Are Making More Than $1 Million, Even at a Nonprofit". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 8, 2018. Cyrchwyd January 28, 2023.
- ↑ "Microsoft invests in and partners with OpenAI" (yn Saesneg). July 22, 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 28, 2023. Cyrchwyd March 17, 2023.
- ↑ Langston, Jennifer (January 11, 2023). "Microsoft announces new supercomputer, lays out vision for future AI work". Source. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 10, 2023. Cyrchwyd February 10, 2023.
Built in collaboration with and exclusively for OpenAI
- ↑ Foley, Mary Jo (May 19, 2020). "Microsoft builds a supercomputer for OpenAI for training massive AI models". ZDNET. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 10, 2023. Cyrchwyd February 10, 2023.
- ↑ "Microsoft's OpenAI supercomputer has 285,000 CPU cores, 10,000 GPUs". Engadget. May 19, 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 10, 2023. Cyrchwyd February 10, 2023.
Microsoft's OpenAI supercomputer has 285,000 CPU cores, 10,000 GPUs. It's one of the five fastest systems in the world.
- ↑ Vance, Ashlee (June 11, 2020). "Trillions of Words Analyzed, OpenAI Sets Loose AI Language Colossus". Bloomberg News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 13, 2020. Cyrchwyd June 12, 2020.
- ↑ "OpenAI debuts DALL-E for generating images from text". VentureBeat. January 5, 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 5, 2021. Cyrchwyd January 5, 2021.
- ↑ Roose, Kevin (December 5, 2022). "The Brilliance and Weirdness of ChatGPT". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 18, 2023. Cyrchwyd January 5, 2023.
- ↑ Dastin, Jeffrey; Hu, Krystal; Dave, Paresh; Dave, Paresh (December 15, 2022). "Exclusive: ChatGPT owner OpenAI projects $1 billion in revenue by 2024". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 3, 2023. Cyrchwyd January 5, 2023.
- ↑ Kruppa, Berber Jin and Miles (January 5, 2023). "WSJ News Exclusive | ChatGPT Creator in Investor Talks at $29 Billion Valuation". Wall Street Journal (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 3, 2023. Cyrchwyd January 6, 2023.
- ↑ "Microsoft Adds $10 Billion to Investment in ChatGPT Maker OpenAI". Bloomberg.com (yn Saesneg). January 23, 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 23, 2023. Cyrchwyd January 23, 2023.
- ↑ Capoot, Ashley (January 23, 2023). "Microsoft announces multibillion-dollar investment in ChatGPT-maker OpenAI". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 23, 2023. Cyrchwyd January 23, 2023.
- ↑ Warren, Tom (January 23, 2023). "Microsoft extends OpenAI partnership in a "multibillion dollar investment"". The Verge (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 29, 2023. Cyrchwyd April 29, 2023.
- ↑ "Bard: Google launches ChatGPT rival". BBC News (yn Saesneg). February 6, 2023. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 7, 2023. Cyrchwyd February 7, 2023.
- ↑ Vincent, James (February 8, 2023). "Google's AI chatbot Bard makes factual error in first demo". The Verge (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 12, 2023. Cyrchwyd February 12, 2023.
- ↑ Dotan, Tom (February 7, 2023). "Microsoft Adds ChatGPT AI Technology to Bing Search Engine". Wall Street Journal (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 7, 2023. Cyrchwyd February 7, 2023.
- ↑ "GPT-4". openai.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 14, 2023. Cyrchwyd March 16, 2023.
- ↑ 51.0 51.1 "Governance of superintelligence". openai.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 27, 2023. Cyrchwyd 2023-05-30.
- ↑ Wodecki, Ben; Yao, Deborah (May 23, 2023). "OpenAI Founders Warn AI 'Superintelligence' is Like Nuclear Power". Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 30, 2023. Cyrchwyd May 30, 2023.
- ↑ Piper, Kelsey (November 2, 2018). "Why Elon Musk fears artificial intelligence". Vox (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 23, 2021. Cyrchwyd March 10, 2021.
- ↑ Lewontin, Max (December 14, 2015). "Open AI: Effort to democratize artificial intelligence research?". The Christian Science Monitor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 19, 2015. Cyrchwyd December 19, 2015.
- ↑ "Tech giants pledge $1bn for 'altruistic AI' venture, OpenAI". BBC News. December 12, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 14, 2018. Cyrchwyd December 19, 2015."Tech giants pledge $1bn for 'altruistic AI' venture, OpenAI".
- ↑ Mendoza, Jessica. "Tech leaders launch nonprofit to save the world from killer robots". The Christian Science Monitor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 3, 2018. Cyrchwyd December 19, 2015.
Dolenni allanol
golygu- OpenAI ar Twitter
- "What OpenAI Really Wants" by Wired