Orléans
Dinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth Ffrainc yw Orléans, sy'n brifddinas weinyddol département Loiret a rhanbarth Centre hefyd. Gorwedd ar lan Afon Loire 116 km i'r de-orllewin o Baris. Gelwir ei thrigolion yn Orléanais. Mae'n sedd esgobaeth ers y 4g. Enwir dinas New Orleans (Nouvelle Orléans) yn yr Unol Daleithiau ar ôl Orléans.
Math | cymuned, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 116,344 |
Pennaeth llywodraeth | Olivier Carré |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Lugoj, Kraków, Dundee, Treviso, Kristiansand, Wichita, Tarragona, Utsunomiya, Parakou, Münster, Saint-Flour, Yangzhou, New Orleans, Meknès |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Centre-Val de Loire |
Sir | Loiret |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 27.48 km² |
Uwch y môr | 118 metr, 90 metr, 124 metr |
Gerllaw | Afon Loire, Loiret |
Yn ffinio gyda | Fleury-les-Aubrais, La Ferté-Saint-Aubin, Olivet, Ardon, Saint-Cyr-en-Val, Saint-Jean-de-Braye, Saint-Jean-de-la-Ruelle, Saint-Jean-le-Blanc, Saint-Pryvé-Saint-Mesmin, Saran, Semoy |
Cyfesurynnau | 47.9022°N 1.9042°E |
Cod post | 45000, 45100 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Orléans |
Pennaeth y Llywodraeth | Olivier Carré |
- Erthygl am y ddinas yn Ffrainc yw hon. Gweler hefyd Orleans (gwahaniaethu).
Yn 1428, yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans. Yn 1429, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin, Siarl VII, i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd Afon Loire. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn Reims fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.
Dioddefodd y ddinas lawer o ddifrod yn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn 1940, ond mae'r eglwys gadeiriol ganoloesol yn dal i sefyll. Mae Neuadd Dref Orléans (hôtel de ville) yn dyddio o'r 16fed ganrif.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Canolfan Charles Peguy
- Tŷ Jeanne d'Arc
Enwogion
golygu- Gustave Lanson (1857 - 1934), hanesydd
- Charles Péguy (1873 - 1914), bardd
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol y ddinas