Whitehall
stryd yn Llundain
(Ailgyfeiriad o Palas Whitehall)
Stryd ac ardal yn Ninas Westminster, canol Llundain, ydy Whitehall.[1] Hon yw canolbwynt traddodiadol peirianwaith llywodraethu Lloegr a'r Deyrnas Unedig; mae gan nifer o weinyddiaethau eu swyddfeydd ar hyd y stryd, ac mae Stryd Downing lle mae'r Prif Weinidog yn byw a gweithio gerllaw. Saif y stryd ar safle hen balas brenhinol y Neuadd Wen, a losgodd ym 1698. Yr unig ran ohoni sydd bellach yn sefyll yw'r Tŷ Gwledda a'i gynlluniwyd gan Inigo Jones ym 1622. Yn agos at hwn saif Tŷ Gwydyr, pencadlys Swyddfa Cymru yn Llundain. Ar waelod y stryd mae'r Senotaff, canolbwynt seremoni gwladol blynyddol Sul y Cofio.
Math | stryd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Palas Whitehall |
Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
Cysylltir gyda | Sgwâr Trafalgar, Stryd Downing, The Mall, Parliament Street, Great Scotland Yard, Whitehall Place, Horse Guards Avenue, Craig's Court |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | A3212 road |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.5042°N 0.1264°W |
Cod post | SW1 |
Hyd | 0.4 milltir |
- Gweler hefyd: Whitehall, Hampshire