Palflys y gorllewin
Palflys y gorllewin Barbilophozia atlantica | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Scapaniaceae |
Genws: | Barbilophozia |
Rhywogaeth: | B. atlantica |
Enw deuenwol | |
Barbilophozia atlantica |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Palflys y gorllewin (enw gwyddonol: Barbilophozia atlantica; enw Saesneg: Atlantic pawwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yn bennaf ar yr ucheldiroedd, yng Nghymru, yn enwedig yng Ngwynedd. Fe'i ceir hefyd o Ganolbarth Lloegr i fyny i Cumbria a'r Alban a rhai mannau yn Iwerddon.
Disgrifiad golygu
Y rhywogaeth tebycaf i balflys y gorllewin yw'r Palflys cyffredin (B. floerkei) a Phalflys hatcher (B. hatcheri).
Mae gan Palflys y gorllewin ddail 3-llabed, ac felly mae'n hawdd ei wahaniaethu oddi wrth y Lophozia. Maent yn wyrddfrown neu'n felynwyrdd. Yna aml mae'r blaguryn ifanc yn goch. Mae'r coesynnau'n 0.5–3 mm o led a'r dail yn 1–2 mm o led a rhwng 0.5 mm ac 1 mm o hyd.
Cynefin golygu
Fel y nodwyd, yr ucheldir yw ei gynefin, yn enwedig mewn mwsog ar foncyn neu gangen wedi syrthio, neu ar dywarch ar lethrau sy'n wynebu'r gogledd. Weithiau fe'i ceir ar waliau sych.
Llysiau'r afu golygu
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.