Pedwar Marchog ar Hugain Llys Arthur
Testun Cymraeg Canol yw Pedwar Marchog ar Hugain Llys Arthur, sy'n cynnwys wyth set o drioedd sy'n rhestru marchogion llys Arthur gyda phwt o wybodaeth amdanynt. Mae'n destun sy'n dyddio o ddiwedd y 15g yn ei ffurf bresennol, yn ôl Rachel Bromwich, ac sy'n gymysgfa o draddodiadau Cymreig dilys, deunydd o waith Sieffre o Fynwy, a chymeriadau 'Arthuraidd' o lenyddiaeth cyfandir Ewrop nad ydynt yn perthyn i draddodiad Cymru.[1]
Mae'r testun ar gael mewn sawl llawysgrif o'r 15g ymlaen. Credir fod y testunau diweddarach, o'r 16g ymlaen, i gyd yn deillio o destun mewn llawysgrif o waith y bardd Gutun Owain, sydd i'w dyddio i tua 1455.[2] Mae rhai o'r trioedd yn seiliedig ar y testun canoloesol diweddar Y Seint Greal, o darddiad cyfandirol, ac yn dwyn i mewn i'r cylch Arthuraidd Cymreig traddodiadol gymeridau o lenyddiaeth Arthuraidd y cyfandir a Lloegr, fel Lanslod Lac.
Y marchogion
golygu- Triawd 1
- Triawd 2
- Bwrt ap Bwrt
- Peredur ap Efrog Iarll
- Galath ap Lanslod Lac
- Triawd 3
- Cadwr Iarll Cernyw
- Lanslod Lac
- Ywain ap Urien Rheged
- Triawd 4
- Menw ap Teirgwaedd
- Trystan ap Tallwch
- Eiddilig Cor
- Triawd 5
- Nasiens mab Brenin Denmarc
- Medrod ap Llew ap Cynfarch
- Hywel fab Emyr Llydaw
- Triawd 6
- Blaes mab Iarll Llychlyn
- Cadog ap Gwynlliw Farfog
- Pedrog Baladrddellt ap Clement Tywysog Cernyw
- Triawd 7
- Triawd 8
- Cynon ap Clydno Eiddin
- Aron ap Cynfarch
- Llywarch Hen ap Elidir Lydanwyn
Testun
golygu- Pedwar Marchog ar Hugain Llys Arthur: y testun Cymraeg wedi ei olygu gan Rachel Bromwich yn Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991), Atodiad IV.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ceridwen Lloyd-Morgan, 'Breuddwyd Rhonabwy and Later Arthurian Literature', The Arthur of the Welsh (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991), tud. 201.
- ↑ 'Breuddwyd Rhonabwy and Later Arthurian Literature', tud. 202.