Peithien

santes Geltaidd

Santes Gymreig oedd Peithien neu Pethan (Lladin: Peteona) (bl. 6g). Fe'i cysylltir â safle Capel Lligwy ger Moelfre ar Ynys Môn.[1] Dethlir ei dydd mabsant ar yr un diwrnod â Santes Tybïe, sef 30 Ionawr.

Peithien
Ganwyd560 Edit this on Wikidata
Rheged Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmeudwy Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl30 Ionawr Edit this on Wikidata
TadCoel Hen Edit this on Wikidata
Capel Lligwy, ger Din Lligwy.

Traddodiad golygu

Ychydig a wyddys am y santes hon. Yn ôl yr hen achau, roedd Peithien yn un o ferched Caw, tad y seintiau Gildas, Allgo (sefydlydd Llanallgo ym Môn) ac Eugrad (sefydlydd Llaneugrad ym Môn). Roedd ganddi ddwy chwaer, hwythau hefyd yn santesau o Ynys Môn, sef Cywyllog a Gwenafwy.[1]

Gweler hefyd golygu

Ffynonellau golygu

  1. 1.0 1.1 , T.D. Breverton The Book of Welsh Saints (Glyndwr Publishing, 2000).