Pencampwriaeth y Pedair Gwlad

Cystadleuaeth bêl-droed flynyddol rhwng timau pêl-droed rhyngwladol Y Deyrnas Unedig; Yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, oedd Pencampwriaeth y Pedair Gwlad (Saesneg British Home Championship). Cynhaliwyd y Bencampwriaeth gyntaf ym 1883-84 gan sicrhau ei lle fel y gystadleuaeth bêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd, ac fe ddaeth i ben yn dilyn tymor 1983-84.

Pencampwriaeth y Pedair Gwlad
Founded1884
Abolished1984
RegionY Deyrnas Unedig
Number of teams4
Last championsBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon 1983-84
Most successful team(s)Lloegr Lloegr (54)

Rhwng 1882 a 1921 roedd un tîm yn cynrychioli Iwerddon gyfan ond wedi sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon a thîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon oedd yn cystadlu yn y Bencampwriaeth. Er hyn, roedd Gogledd Iwerddon yn parhau i ddewis chwaraewyr o Iwerddon gyfan hyd 1950[1] ac yn parhau i alw eu tîm yn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad tan y 1970au hwyr.[2]

Hanes golygu

Erbyn y 1880au cynnar roedd pedair tîm pêl-droed rhyngwladol Y Deyrnas Unedig yn chwarae gemau cyfeillgar yn rheolaidd, gyda bron bob un yn wynebu ei gilydd unwaith y tymor. Ar y pryd roedd roedd gwahaniaethau bychain yn rheolau'r pedair cymdeithas Brydeinig. Roedd hyn yn peri problem ar gyfer gemau rhyngwladol gyda'r tîm cartref yn gosod y rheolau[3].

O dan arweiniad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA), daeth dau gynrychiolydd o'r pedair cymdeithas - Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon at ei gilydd ar 2 Mehefin, 1886 yn swyddfeydd yr FA yn Holborn Viaduct, Llundain er mwyn cysoni'r rheolau a ffurfio'r Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (IFAB)[4]. Yn yr un cyfarfod penderfynwyd ffurfioli'r gemau cyfeillgar blynyddol a sefydlu Pencampwriaeth y Pedair Gwlad.

Cynhelid gemau'r Bencampwriaeth yn ystod pob tymor pêl-droed gan ddechrau yn nhymor 1883–84 gyda'r Alban yn curo Iwerddon 5-0 yn y gêm gyntaf ar 24 Ionawr 1884 ac yn mynd ymlaen i fod y pencampwyr cyntaf.[5]

Gyda dyfodiad Cwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop cafwyd cryn bwysigrwydd i'r Bencampwriaeth wrth i gemau Pencampwriaethau 1949-50 a 1953-54 ddyblu fyny fel gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 1950 a 1954.[6] Defnyddiwyd pencampwriaeth 1966-67 a 1967-68 fel grŵp rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop 1968.

Erbyn y 1980au cynnar roedd y Bencampwriaeth dan fygythiad oherwydd sawl rheswm. Roedd gemau rhagbrofol Cwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop yn cymryd blaenoriaeth dros gemau'r Bencampwriaeth ac roedd torfeydd yn edwino oherwydd hwliganiaeth a diffyg diddordeb. Yn ogystal â diffyg diddordeb, roedd Yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon yn golygu na chwblhawyd y Bencampwriaeth ym 1981 wrth i dimau wrthod teithio i Belfast.[7][8]

Ar ôl Pencampwriaeth 1982-83, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA) a Chymdeithas Bêl-droed Yr Alban (SFA) na fyddent yn cystadlu yn y Bencampwriaeth am 1984-85 gan arwain at i'r Bencampwriaeth ddod i ben ar ddiwedd tymor 1983-84.

Rhestr buddugoliaethau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Why did Ireland reject an invitation to the 1950 World Cup in Brazil?". 2014-06-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-12. Cyrchwyd 2016-03-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. Ireland v Scotland programme "Northern Ireland Programmes 1976-1978" Check |url= value (help). Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "The Laws: From 1863 to the Present Day". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-03. Cyrchwyd 2016-03-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "The IFAB, the eternal guardian of laws". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-08. Cyrchwyd 2016-03-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "British Home Championship 1884". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Why Scotland rejected the chance to play at the 1950 Brazilian World Cup". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2016-03-15. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. Peter Donnelly (2010). Firsts, Lasts & Onlys of Football. Hamlyn. ISBN 0600621758.
  8. "The British Home Championship". National Football Museum. Unknown parameter |published= ignored (help)