Agor y brif ddewislen

Capel Pendref (Rhuthun)

capel yn Rhuthun, Sir Ddinbych
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pendref, Rhuthun)

Eglwys yr Annibynwyr yn Rhuthun, Sir Ddinbych yw Pendref. Saif y capel, a adeiladwyd yn 1827, ar Stryd y Ffynnon, nepell o sgwâr y dref.

Capel Pendref (Rhuthun)
J. D. Jones

Tras yr Annibynwyr: y cefndirGolygu

Ar 31 Hydref 1517, hoeliodd Martin Luther lythr ar ddrws eglwys Wittenburg yn yr Almaen. Ef oedd y Protestant cyntaf. Ar ôl 1536 penododd Harri’r Vllled ei hun yn ben ar yr Eglwys yn Lloegr gan fabwysiadu syniadau Protestanaidd. Yn 1567 troswyd y Testament Newydd i’r Gymraeg gan William Salesbury, a throswyd y Beibl i gyd i’r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan yn 1588. Yn 1630, cyhoeddwyd y Beibl Bach.

Roedd y Piwritaniaid, sef dilynwyr John Calvin, eisiau dilyn a chryfhau'r syniadau Protestanaidd. O ganlyniad, ffurfiwyd sectau y tu allan i Eglwys Loegr, wrth iddi ddod yn bosib i’r Cymry glywed a deall y Beibl yn eu hiaith eu hunain, gan gynnwys yr Annibynwyr (eglwys gyntaf yn Llanfaches, Gwent, yn 1639) a’r Bedyddwyr (eglwys gyntaf yn Ilston, Bro Gwyr, yn 1649) yng Nghymru. Gelwir Llanfaches yn fam eglwys anghydffurfiaeth yng Nghymru. Roedd y Goron eisiau cadw’r grym yn Eglwys Lloegr, wrth gwrs, a deddfwyd yn erbyn yr Anghydffurfwyr (e.e. Deddf Unffurfiaeth, 1661). Bu rhaid i lawer o Gymry ffoi, er engrhaifft i America (roedd 18 o dras Gymreig ymhlith y 56 a arwyddodd Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau yn 1776). Ond goroesi wnaeth yr Annibynwyr yng Nghymru hefyd.

Yr Annibynwyr yn RhuthunGolygu

Mae cyfeiriad yn hen lyfr Alexander Gordon, Freedom after ejection, yn sôn fel hyn: 'At Rhuthun lecture once a month by Mr. James Owen. There is a serious people, they call for the Lord’s Supper, but it is not yet administered for want of Minister'. Ceir cyfeiriad arall yn llyfr Palmer, Nonconformist Memorials, sy'n awgrymu fod Ymneilltuwyr yn Rhuthun yn ail hanner y 17g. Mae’n debyg fod pobl fel William Jones (Dinbych), Jonathan Roberts (Llanfair) a Ellis Rowlands (Warden Rhuthun) ynglwm â’r achos. Mae sôn hefyd fod yna oedfaon mewn tŷ rhent yn Rhuthun yn 1672 â rhyw John Roberts yn pregethu.

Credir i’r achos farw yn Rhuthun wedi peth amser, i’w ail gynnau tua 1800. Ar wahoddiad Edward Jones, Y Swan, pregethodd y Parch D. Jones (Treffynnon) i gynulleidfa o ryw 15 mewn ystafell yn nhafarn Y Prince Of Wales. Dyma ddechrau’r achos yn Rhuthun, corfforwyd y lle yn eglwys yn 1802, a symudwyd yn gyntaf i dafarn Y Waterloo yn yr un stryd, ac wedyn i dŷ ym Mhorth Y Dŵr ar rent o £8 y flwyddyn. Bu’r Parch. Benjamin Evans yn weinidog o 1807 at 1817, yn derbyn cynhaliaeth gan ŵr bonheddig o Gaer. Roedd gan Evans law amlwg yn sefydlu’r achosion yn Graigfechan, Llandegla a Llanarmon.

Codi'r capel a'i hadnewydduGolygu

Bu’r Annibynwyr heb weinidog yn y dre o 1807 tan 1825, pan ddaeth William Phillips i wasanaethu. Prynwyd stabl bach ac efail yng nghanol y dref am £250, ond doedd dim digon o dir i godi capel. Syr Watkin Williams Wynne oedd perchennog y tir cyfagos. Dywedodd: 'Let us be kind to the dissenters' a gwerthodd ddigon o dir i godi capel yn 1827 ar gost o £1340. Â dim ond 40 aelod, gwan oedd yr achos, ond bu’r Parch. W. Williams, Y Wern, yn gefn iddynt yn y dyddiau cynnar. Yn ôl y sôn, cafwyd trafferthion gyda’r adeiladydd - roedd e’n ddrud!

Derbynniodd Evan Price (Athrofa Caerfyrddin) yr alwad yn 1827. Gadawodd yn 1835, a bu Rhuthun heb weinidog eto tan 1839, pan ddaeth Richard Jones (Aberhosan) i wasanaethu ym Mhendref, Pwllglas a’r Graigfechan. Ysgrifennodd Hiraethog 'Bu dyfodiad Richard Jones yn fywyd o feirw i’r achos'. Cynyddodd nifer yr aelodau i 120 a mwy fel canlyniad.

Adnewyddwyd y capel ar gost o £1400 yr 1847. Yn 1875, gwariwd £1200 ar adnewyddu ac addurno’r capel. Yn 1883, gosodwyd sustem wresogi dŵr cynnes ar gost o £50. Yn 1913, codwyd festri am yr ail waith. Yn 1922, prynwyd tŷ i’r gweinidog. Adnewyddwyd y capel am yr ail waith yn 1927, a bu dathlu canmlwyddiant y capel ynghyd â chanmlwyddiant geni J.D.Jones - â theyrnged gan neb llai nag Elfed.

Gweinidogion Eglwys Pendref, RhuthunGolygu

1807-1817 Benjamin Evans
1825-18?? William Phillips
1827-1835 Evan Price
1839-1841 Richard Jones
1843-1846 Aaron Francis
1848-1857 John Roberts (“J.R.”)
1859-1862 R.E.Williams
1864-1868 John Davies
1869-1874 D.Lloyd Jones
1880-1887 D.Johns
1891-1896 W.Caradog Jones
1896-1911 Dafydd Jones
1914-1922 R.W.Hughes
1922-1946 Thomas Lloyd
1947-1952 T.Meurig Matthews
1954-1961 Arthur Evans Williams
1963-1966 Brython M.Davies
1968-1971 Brian Evans
1972-1991 Moelwyn Daniel
1992-2014 G.Graham Floyd
2014-2017 Di-weinidog, yr aelodau yn trefnu a chynnal gwasanaethau, gyda chymorth y Parch Bernant Hughes.
2017-heddiw Brian Evans (eto)

J.D.JonesGolygu

Hwn yn siwr oedd un o aelodau enwocaf Pendref. Daeth i’r dref yn 1851 yn athro i’r Ysgol Frytaidd. Yn ddiweddarach agorodd ei ysgol ei hun yn nhŷ Clwyd Bank yn y dref, lle mae cofeb iddo. Ef a Thanymarian a gyhoeddodd y llyfr Tonau ac Emynau, rhagflaenydd Y Caniedydd Cynulleidfaol. Bu farw yn 1870 yn ddim ond 43 oed.

FfynonellauGolygu

  • Nineteenth Century Rhuthun (sef ail-argraffiad yn uno Rhuthun and Vicinity a An Account of the Castle and Town of Rhuthun).
  • John Davies, Hanes Cymru
  • Gwynfor Evans, Aros Mae
  • Cyfraniadau caredig gan gyfeillion ac aelodau presennol y capel

Gweler hefydGolygu