Cyfres o ddramâu neu gynyrchiadau theatr Cymraeg yw Cyfres I'r Golau, wedi'u cyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch. Lansiwyd y gyfres ym 1995, ac mae'n cynnwys nifer o gynyrchiadau nodedig y Theatr Gymraeg rhwng 1979 a'r 2010au.

Cyfres I'r Golau
AwdurAmrywiol
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1995-
Pwncdrama
GenreDramâu Cymraeg
CyfresCyfres I'r Golau

Bargen (1979) gan Theatr Bara Caws oedd y dewis cyntaf, fel yr eglurodd Myrddin ap Dafydd yn ei Ragair i'r cyhoeddiad hwnnw: "...gwyddai pawb fod rhywbeth arbennig, cwbl arbennig ar droed yn y theatr Gymraeg."[1] Dilynwyd y cynhyrchiad hwnnw gan Hwyliau'r Codi (1979) eto'n gywaith creadigol gan Bara Caws, a drama ddadleuol Meic Povey, Perthyn (1987) oedd yn cwblhau'r drioled cychwynol.

Dros y blynyddoedd, ychwanegwyd at y dewis yn achlysurol, gyda gwaith dramodwyr fel Dewi Wyn Williams, Wil Sam a T James Jones.

Panel golygyddol y gyfres, a gynullwyd gan Gwmni Hwyl A Fflag oedd Wyn WIlliams, Gareth Miles, Manon Eames, Iwan Llwyd a Myrddin ap Dafydd. Golygydd ymgynghorol y gyfres oedd Elan Closs Stephens.[2]

Gwelir Cyfres I'r Golau fel brawd mawr i gyfres o ddramâu byrion, Cyfres Y Llwyfan gan yr un Wasg.

Clawr Perthyn Meic Povey 1997
Clawr Bargen Cyfres I'r Golau 1995

Cyfrolau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Theatr Bara Caws (1995). Bargen. Gwasg Carreg Gwalch.
  2. Theatr Bara Caws (1996). Hwyliau'n Codi. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 0 86381 361 5.