Digrifwr, darlledwr, brenhines drag, actor ac awdur oedd Paul James O'Grady MBE (14 Mehefin 195528 Mawrth 2023).[1] Daeth yn enwog fel crëwr y cymeriad drag Lily Savage (y "Birkenhead bombshell"), gwraig gomon o Benbedw. Roedd yn adnabyddus am ei acen Lerpwl gref ac am gyflwyno'r gyfres deledu '

Paul O'Grady
Ganwyd14 Mehefin 1955 Edit this on Wikidata
Brighton Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 2023 Edit this on Wikidata
o sudden unexpected death syndrome Edit this on Wikidata
Aldington Edit this on Wikidata
Man preswylAldington Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Redcourt - St Anselm's
  • Wirral Metropolitan College Edit this on Wikidata
Galwedigaethdigrifwr, cyflwynydd teledu, hunangofiannydd, actor ffilm, person busnes, actor teledu, cynhyrchydd teledu, Perfformiwr drag Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.bbc.co.uk/programmes/b00jm03v/ Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Cafodd ei eni ym Mhenbedw ar benrhyn Cilgwri (y Wirral) i dad Gwyddelig a chafodd ei fagu yn Tranmere.

Gweithiodd mewn amryw o swyddi gan gynnwys yn y gwasanaeth sifil, tu ôl i far mewn Yates Wine Lodge, mewn swyddfa lladd-dy ac fel clerc cynorthwyol yn Llys Ynadon Lerpwl. Bu hefyd yn gweithio mewn cartref plant yng Ngorllewin Kirby a threuliodd rai blynyddoedd fel swyddog gofal peripatetig i gyngor Camden. Yn 2003 cafodd ei gynnwys yn rhestr The Observer o'r 50 act mwyaf doniol yng nghomedi Brydeinig, ac yn 2006 roedd yn rhif 32 ar restr The Independent o'r 101 o ddynion a menywod hoyw mwyaf dylanwadol ym Mhrydain.

Creu Cymeriad Lily Savage golygu

Ym 1977, aeth O'Grady i Manila lle gweithiodd fel gweinydd yn Gussy's Bar (a oedd hefyd yn buteindy). Fan yma, cafodd y syniad o Lily Savage, y cymeriad drag a grëodd. Ar ddechrau'r 1980au, dychwelodd i'r Deyrnas Unedig a daeth ei greadigaeth newydd, Lily Savage, ag enwogrwydd iddo. Perfformiodd mewn clybiau a bariau hoyw ledled y wlad. Ar y pryd, cawsai Lily ei hadnabod am ei pherfformiadau rheolaidd yn The Royal Vauxhall Tavern yn Llundain lle gweithiodd am wyth mlynedd. Cydweithiodd gyda nifer o actiau eraill megis 'High Society'gyda Adrella (Peter Searle), 'L.S.D.' gyda David Dale a Sandra Hush (David Hunter), 'The Playgirls' unwaith eto gyda Hunter a The Glamazons gyda'r cyn-nyrs Paul Banks. Teithiodd ledled Ewrop gyda rhai o'r perfformwyr yma, gan wneud sioeau yn Madame Arthurs yn Denmarc ac amryw o glybiau nos a theatrau yn yr Almaen, y Ffindir, Sweden, yr Iseldiroedd, Ffrainc ac Isreal.

Wedi iddo ymddangos yng Ngwyl Caeredin, lle cafodd ei enwebu am Wobr Perrier, cynyddodd ei boblogrwydd ac ymwybyddiaeth y cyhoedd cyffredinol ohono. Daeth yn fwy enwog wrth iddo ymddangos ar y teledu ar raglen ddyddiol ITV This Morning ac fel "Y Cyflwynydd ar y Gwely" ar The Big Breakfast. Cyflwynodd O'Grady sioe siarad lwyddiannus The Paul O'Grady Show yn y prynhawniau ar ITV cyn symud i The New Paul O'Grady Show ar Channel 4.

Am rai blynyddoedd, cyflwynodd Lily y rhaglen Blankety Blank ar gyfer y BBC ac yna ar gyfer ITV, yn ogystal â'i rhaglen gomedi ei hun ar ITV Lily Live yn 2000. Roedd Lily Savage hefyd wedi cyflwyno'r Smash Hits Poll Winners Party yn 1996 ar y cyd â Ant & Dec. Mewn cyfweliad yn 2006, dywedodd O'Grady fod Lily bellach yn byw mewn lleiandy yn Llydaw, er iddo ddweud sawl tro ers hynny ei bod wedi dianc o'r lleiandy, gan awgrymu i rhai efallai y bydd y cymeriad yn dychwelyd.

Ers 2012 roedd yn cyflwyno y rhaglen Paul O'Grady: For the Love of Dogs ar ITV yn dangos bywyd yng nghanolfan achub cŵn a chathod Battersea.

Gwaith Theatr golygu

Yn ogystal ag amryw o deithiau cenedlaethol, ymddangosodd O'Grady yn y sioe lwyfan Prisoner Cell Block H - The Musical, y sioe gerdd Annie fel "Miss Hannigan", Chitty Chitty Bang Bang fel "the Childcatcher" ac yn y pantomeim Eira Wen a'r Saith Corrach fel y Frenhines Greulon. Mae rhai pobl wedi'i ddyfynnu gan ddweud "I seem to be making a living frightening children".

Ei fywyd personol golygu

Yn y gorffennol, cafodd O'Grady berthynasau gyda menywod a bu unwaith yn briod. Roedd ganddo un ferch, Sharon. Bu farw partner hir-dymor O'Grady o 20 mlynedd, Brendan Murphy o gancr pum niwrnod cyn penblwydd O'Grady'n hanner cant.

Roedd O'Grady yn berchen ar fflat yn Llundain, a fferm yn Aldington ger Ashford, Caint, yn gymydog i'r digrifwr Julian Clary. Roedd ganddo gi hefyd o'r enw Buster a oedd yn ymddangos gydag ef yn rheolaidd ar ei rhaglen deledu.

Daeth O'Grady yn dadcu ar y 26ain o Ragfyr 2006, pan roddodd ei ferch enedigaeth i fab o'r enw Abel.[2]

Iechyd golygu

Ym mis Ebrill 2002, dioddefodd O'Grady o drawiad ar y galon ar ôl iddo deimlo'n anhwylus am rai wythnosau; ar ôl llawdriniaeth frys ac wythnosau o orffwys, dechreuodd wella a rhoddodd y gorau i ysmygu am ddwy flynedd. Ail-ddechreuodd O'Grady ysmygu 40 y dydd pan bu farw ei gariad a'i bartner busnes yn 2005. Dioddefodd ail drawiad ar y galon ar y 30ain o Fehefin, 2006; aethpwyd ag ef i Ysbyty William Harvey ac i'r uned gofal ddwys. Cafodd ei ryddhau ar y 4ydd o Orffennaf ac addawodd y byddai'n rhoi'r gorau i ysmygu.

Ar 29 Mawrth 2023, cyhoeddodd ei bartner Andre Portasio bod O'Grady wedi marw yn 67 mlwydd oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cain, Sian (2023-03-29). "Paul O'Grady, TV presenter and comedian, dies aged 67". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2023-03-29.
  2. Entertainer O'Grady collects MBE BBC News. 18-10-2008. Adalwyd ar 09-05-2009