Plïosen
System | Cyfres | Oes | Oes (Ma) | |
---|---|---|---|---|
Cwaternaidd | Pleistosenaidd | Gelasaidd | ifancach | |
Neogenaidd | Plïosenaidd | Piacensaidd | 2.588–3.600 | |
Sancleaidd | 3.600–5.332 | |||
Mïosenaidd | Mesinaidd | 5.332–7.246 | ||
Tortonaidd | 7.246–11.608 | |||
Serravallaidd | 11.608–13.65 | |||
Langhianaidd | 13.65–15.97 | |||
Bwrdigalaidd | 15.97–20.43 | |||
Acwitanaidd | 20.43–23.03 | |||
Paleogenaidd | Oligosenaidd | Cataidd | hynach | |
Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009. |
Cyfres neu 'Epoc' (symbol PO[1]) o amser daearegol ydy'r Plïosen (Saesneg: Pliocene) sy'n ymestyn o 5.33 miliwn hyd at 2.58 o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[2]. Dyma'r ail gyfres yn y Cyfnod Neogen yn y Gorgyfnod Cenosoig.
Mae'n dilyn y gyfres Mïosen a daw'r gyfres Pleistosenaidd ar ei ôl. Mae'r 4 prif ffurfiad rhewlifol wedi digwydd oddi fewn i'r Cyfnod Plïosenaidd. Mae hefyd yn cynnwys yr Oes Gelasaidd a barodd rhwng 2.588 a 1.806 miliwn CP.
Fel gyda'r rhaniadau daearegol eraill o amser, yr hyn sy'n diffinio ei ddechrau a'i ddiwedd yw stratwm daearegol, sef haenau gwahanol o greigiau, ond amcangyfrif yw'r dyddiadau hyn, wrth gwrs. Mae'r Plïosen ychydig yn wahanol: yr hyn sy'n ei ddiffinio yw tymheredd, gyda'r Mïosen yn gynhesach. Mae diwedd y gyfres Plïosen yn cael ei ddiffinio gan ddechrau rhewlifau'r Pleistosen.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Geologic Age Symbol Font (StratagemAge)" (PDF). USGS. 99-430. Cyrchwyd 2011-06-22.
- ↑ Gweler ICS 2009.