Pwll Fferm Hafren

gwarchodfa natur yn y Trallwng, Powys

Rheolir Pwll Fferm Hafren gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn (Cyfesurynnau OS: SJ 228068). Lleolir y warchodfa ar gyrion Y Trallwng, rhwng y rheilffordd a Pharc Busnes Fferm Hafren.

Pwll Fferm Hafren
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru

Maint y warchodfa yw 3.2 erw (1.3 ha)[1], a gwelir mursennod, gweision y neidr[2], llyfantod, madfallod, ieir ddŵr, hwyaid, gwyachod a breision y gors.

Ymhlith yr amrywiaeth rhywogaethau ar y safle gellir gweld 9 gwas y neidr: gwas neidr y de, gwäell gyffredin, picellwr praff, gwas neidr brown, mursen werdd, morwyn wych, mursen las asur, mursen dinlas gyffredin a'r fursen fawr goch.

Cynhelir gweithdai yno, ac mae darnau celf o gwmpas y warchodfa.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Welshpool.org Archifwyd 2014-08-16 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 01 Mai 2015
  2. Gwefan British dragonflies Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 01 Mai 2015
  3. Gwefan tyfubobl[dolen farw]; adalwyd 01 Mai 2015

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.