Ar gyfer y dref yn Rhondda Cynon Taf, gweler Ynyshir.

Gwarchodfa natur ydy RSPB Ynys-hir, sydd wedi ei leoli ar lan yr Afon Dyfi yng Ngheredigion, rhwng Aberystwyth a Machynlleth. Mae'n 550 o hectarau o faint ac yn cynnwys amrywiaeth o gynefinnau sy'n ymestyn yn mewndirol ac yn cynnwys gwastatir mwd (Saesneg: mudflat) a chorsydd halen (Saesneg: saltmarsh), tir fferm a phylliau, coedwig dderw a phrysgwydd ar ochr bryniau. Mae'r cyfleusterau yn cynnwys canolfan ymwelwyr bach a saith cuddfan ar gyfer gwylio adar.

RSPB Ynys-hir
Mathgwarchodfa natur Edit this on Wikidata
Duration: 2 seconds.
Sefydlwyd
  • 1970 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd550 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5467°N 3.9452°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganY Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethY Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar Edit this on Wikidata

Mae'r enw, Ynys-hir, yn cyfeirio tuag at grib coediog a oedd yn cylchu'r corsdir erstalwm. Roedd yr ystâd yn un breifat cyn iddi gael ei phrynnu an yr RSPB yn 1970.

Llwybr trwy'r warchodfa

Mae adar sy'n atgenhedlu yno yn cynnwys nifer o adar rhyddio megis y Cornchwiglen a'r Pibydd coesgoch. Yn fwy diweddar mae Crëyr bach a Chrëyr glas wedi ymuno â'r niferoedd. Mae'r coedwig yn gartref i'r Llostruddyn, Telor y Coed a'r Gwybedwr Brith ac mae'r Barcud coch i'w weld yn hedfan uwchben yn aml.

Mae'r adar sy'n gwario'r gaeaf yno yn gynnwys hwyaid megis Hwyaid yr eithin, Chwiwiaid a Corhwyaid ac adar rhyddio megis Pioden y Môr a Phibydd y dorlan. Mae nifer bychain o'r Ŵydd dalcenwen ac yn fwy diweddar, Gŵydd wyran i'w gweld hefyd.

Mae anifeiliaid gwyllt eraill yr ardal yn cynnwys ystlumod, Dyfrgi, Ffwlbart a'r Pathew. Ymysg y pryfaid mae gweision y neidr, mursennod a glöynnod byw ac eraill prin megis y gwiddonyn Procas granulicollis. Ymysg y blodau gwyllt mae Clychau'r Gog, Chwys yr Haul a Llafn y Bladur. Defnyddir ceffylau i gadw'r glaswellt yn fyr.

Sefydlwyd RSPB Ynys-hir ar ystâd Hugh Maplin, a wahodd Bill Condry i fyw ar y stâd, Condry oedd warden gyntaf y warchodfa.

Rhai o'r cuddfeydd

golygu

Y bywyd gwyllt a thirwedd

golygu

Gweler hefyd

golygu

Llenyddiaeth

golygu
  • David Saunders, Where to watch birds in Wales, 3ydd arg. (Llundain: Christopher Helm, 2000)
  • David Tipling, Top Birding Spots in Britain and Ireland (Llundain: HarperCollins, 1996)

Dolenni allanol

golygu