Gwarchodfa Natur Conwy
Gwarchodfa Natur wedi ei lleoli yng Nghyffordd Llandudno ar ochr ddeheuol yr A55 yw Gwarchodfa Natur Conwy. Agorwyd y Warchodfa ar y 14 Ebrill 1995 a cheir yno ganolfan ymwelwyr gyda siop, caffi a thri chuddfan sef: Tal y Fan, Carneddau a Benarth.
Golygfa o Warchodfa Natur yr RSPB Conwy | |
Math | gwarchodfa natur |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 50 ha |
Cyfesurynnau | 53.277°N 3.802°W |
Rheolir gan | Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar |
Pan adeiladwyd Twnnel Afon Conwy a’r A55 rhwng 1986 a 1991 dinistriwyd cynefin bywyd gwyllt ar ochr ddwyreiniol yr afon. I wneud iawn am hyn penderfynwyd datblygu gwarchodfa natur ar y safle gan yr RSPB ac fe gariwyd y gwastraff a gafwyd ar ôl crafu wyneb y tir, a’i ddefnyddio i greu dau bwll enfawr o ddŵr a nifer o byllau bach a thirluniwyd y cyfan.
Lleoliad
golyguMae'r Warchodfa Natur wedi ei lleoli yng Nghyffordd Llandudno ar yr ochr ddeheuol wedi chwi ddod oddi ar yr A55 a dilynwch yr arwyddion brown. O dref Gonwy, pentref Deganwy neu dref Landudno dilynwch yr A546/A547 heibio Archfarchnad Tesco a chroesi'r gylchfan dros yr A55, eto'n dilyn yr arwyddion brown.
Agor y Warchodfa
golyguAgorwyd y Warchodfa ar 14 Ebrill 1995 ac erbyn 2017 roedd yno ganolfan ymwelwyr sy’n cynnwys siop, caffi a thri chuddfan sef Tal y Fan, Carneddau a Benarth, yn ogystal â Thŷ Gwylio.
Dŵr croyw sydd yn y pyllau, dŵr sy'n cael ei gymryd o Afon Ganol. Yn 2010 amharodd cyfnod o sychder yn ddifrifol ar lefel y dŵr yn y pyllau ac ni wellodd y sefyllfa er gwaetha'r holl law a syrthiodd yng Ngorffennaf.
Gwahanol Adar
golyguHyd at 2017, cofnodwyd dros 240 o wahanol adar ar y safle yn cynnwys cornchwiglen, cwtiad torchog bach, ehedydd, telor y cyrs, y pibydd hirgoes a’r rhegen fraith.
Ni ddechreuodd y crëyr bach nythu yng Nghymru hyd 2002 ond erbyn 2017 roedd yn eithaf cyffredin. Mae ganddo wddf hir tenau, pig fain ddu ac wyneb llwyd a gwelir hyd at dwsin ohonynt yno gyda’i gilydd. Golygfa ryfeddol yw honno pan fydd cannoedd ar gannoedd o ddrudwennod yn cyrraedd fel mae’n nosi, i glwydo yn y gaeaf, fel arfer mae mwy i'w gweld ar ôl y Nadolig.
Y Ganolfan ymwelwyr
golyguCeir telesgopau ar fenthyg yno i gael gwell golwg ar yr adar tra’n mwynhau paned a chacen!
Dyma fyddwch yn ddisgwyl ei weld yn y Warchodfa
golyguRhai uchafbwyntiau
golygu- Y drudwennod yn ymgasglu cyn clwydo dros nos yn y Warchodfa.Fel arfer wedi'r Nadolig maent yno'n fwy aml.
- Y gwahanol fathau o Degeirian Gwenyn sy'n tyfu yno.
- Yn y gwanwyn gweld Teloriaid yr hesg, yn enwedig felly yn ystod misoedd Ebrill a Mai.
- Yn yr haf gweld yr holl Wenoliaid, Gwenoliaid y bondo a Gwenoliaid y glennydd.
Problemau sychder
golyguGan mai dŵr croyw o Afon Ganol sydd yn y pyllau, gall y lefelau'r dŵr ostwng yn sylweddol pan fo sychder.
Y cuddfanau
golyguCeir tair cuddfan: Tal y Fan, Carneddau a Benarth.
-
Cuddfan Tal-y-fan.
-
Cuddfan y Carneddau.
-
Tu mewn i Guddfan Benarth.
-
Y Tŷ Gwylio gweddol newydd.
Bywyd gwyllt arall
golyguMae’r bywyd gwyllt ar y safle’n amrywiol ac yn cynnwys y carlwm, gwenci, llwynog ac o bryd i’w gilydd y dyfrgi. Gwelir 16 o fathau o was neidr a mursennod a 28 o wahanol ieir bach yr haf. Erbyn 2017 roedd 356 o wahanol fathau o blanhigion yn tyfu yno ac o leiaf naw math o ystlumod yn cynnwys ystlum Natterer, yr ystlum mawr ac ystlum y dŵr.
Defnyddir Merlod y Carneddau i bori glaswellt y warchodfa.[1]
Mae'r warchodfa ar agor bob dydd ar wahân i Ddydd Nadolig, rhwng 10 y bore a 5 y prynhawn.
Dathliadau penblwydd Gwarchodfa Natur Conwy yn 20 oed
golyguBu prysurdeb mawr yng Ngwarchodfa Natur Conwy dros y penwythnos Gorffennaf 25 a 26, 2015, gydag Iolo Williams yn cymryd rhan yn y gweithgareddau ac yn arwain teithiau natur. Bu’r cerflunydd Simon O’Rouke yn brysur yn ddiweddar yn creu cerfluniau o gwmpas y safle, ac, ar y Sadwrn, dadorchuddiwyd un o’i gampweithiau gan Iolo Williams
Hefyd, ar y nos Iau, i gyd-fynd â’r dathliadau, recordiwyd rhifyn arbennig o ‘Galwad Cynnar’ gan Radio Cymru gyda Gerallt Pennant wrth y llyw.
-
Plant (ac oedolion) yn brysur yn arbrofi.
-
Cafwyd hwyl fawr wrth chwilio yn y pwll.
-
Gerallt Pennant wrthi'n trafod gyda rhai aelodau o'r Panel.
-
Mwy o drafod- Galwad Cynnar.
Tipyn o bopeth
golygu-
Creyr glas busneslyd ger Cuddfan Tal y fan.
-
Creyr bach a Corhwyaden yn pasio'i gilydd.
-
Rhostog gynffon ddu.
-
Un Wylan benwaig ynghanol nifer fawr o Gylfinirod.
-
Piod y môr wedi ymgasglu gyda'i gilydd.
-
Safle'r Warchodfa wedi datblygu.
-
Cynllun y Warchodfa.
-
Disgyblion Ysgol Nant y Coed ar agoriad swyddogol y Llwybr Darganfod.
-
Cornchwiglen
-
Robin goch
-
Merlod
-
Pili palod
-
Gylfinir
Cyhoeddiadau eraill
golyguCyhoeddwyd yr erthygl hon mewn dwy ran gan Gareth Pritchard yn 'Y Pentan', papur bro yr ardal rhwng Llanrwst a Llandudno, Llanfairfechan a Hen Golwyn.
-
Yr erthygl wreiddiol Gorffennaf, 2010.
-
Cyhoeddi dathliadau yn 2015.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 'Y Barcud' (Cylchgrawn dwyieithog y Gymdeithas), Gaeaf 2020