Ray Strachey

Ffeminist o Loegr oedd Ray Strachey (4 Mehefin 1887 - 16 Gorffennaf 1940) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, gwleidydd a swffragét.[1]

Ray Strachey
Ray Strachey restored.jpg
GanwydRachel Pearsall Conn Costelloe Edit this on Wikidata
4 Mehefin 1887 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Bu farw16 Gorffennaf 1940 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethffeminist, ysgrifennwr, gwleidydd, swffragét, cofiannydd, nofelydd, peiriannydd Edit this on Wikidata
Arddulltraethawd, Cofiant, nofel Edit this on Wikidata
TadBenjamin Francis Conn Costelloe Edit this on Wikidata
MamMary Berenson Edit this on Wikidata
PriodOliver Strachey Edit this on Wikidata
PlantChristopher Strachey, Barbara Strachey Edit this on Wikidata

Ganed Rachel Pearsall Conn Costelloe yn Llundain ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Bryn Mawr, Pennsylvania a Choleg Newnham, Caergrawnt. Bu'n briod i Oliver Strachey ac roedd Christopher Strachey yn blentyn iddi. [2][3]

Bargyfreithiwr Gwyddelig oedd ei thad, Gwyddelig Benjamin "Frank" Conn Costelloe, a'i mam oedd yr hanesydd celf Mary Berenson. Ray Strachey oedd yr hynaf o ddwy ferch. Ei chwaer iau oedd Karin Stephen, g. Costelloe, a briododd Adrian Stephen, brawd Virginia Woolf, ym 1914. Addysgwyd Ray yn ysgol uwchradd Kensington ac yng Ngholeg Newnham, Caergrawnt, lle cyflawnodd drydydd dosbarth mewn mathemateg (1908). [4][5]

Fel graddedigion Mathemateg benywaidd eraill ar y pryd, (e.e. Margaret Dorothea Rowbotham a Margaret Partridge), datblygodd Strachey ddiddordeb mewn peirianneg. Ceisiodd ei mam Mary Berensen newid cyfeiriad ei gyrfa,[6] ond serch hynny cymerodd ddosbarth peirianneg drydanol yn Rhydychen ym 1910 a bwriadodd astudio peirianneg drydanol yng Ngholeg Technegol Sefydliad Dinas a Guilds Llundain (Technical College of the City and Guilds of London Institute) yn Hydref 1910.[7] Ysgrifennodd at ei modryb "Rwyf wedi penderfynu mynd i Lundain y gaeaf nesaf ar gyfer fy mheirianneg" ac iddi gael ei hannog a'i helpu gan Hertha Ayrton. Newidiwyd y cynllun hwn oherwydd priodas, ond cynhaliodd ei chysylltiad â Chymdeithas y Weldwyr Benywaidd, roedd wedi helpu i'w sefydlu.[8]

Y ffeministGolygu

Am y rhan fwyaf o'i hoes, bu Strachey yn gweithio i sefydliadau etholfraint menywod, gan ddechrau pan oedd hi'n fyfyriwr yng Nghaergrawnt, pan ymunodd â gorymdaith y "Mud March" ym mis Chwefror 1907 ac annerch cyfarfodydd yn haf 1907.[6] Cymerodd ran yn nhaith Garafán Undeb Cenedlaethol Cymdeithasau Etholfraint Menywod (NUWSS) yng Ngorffennaf 1908.[9]

Yr awdurGolygu

Mae'r rhan fwyaf o gyhoeddiadau Strachey yn rhai ffeithiol ac yn delio â materion y bleidlais. Mae hi'n cael ei chofio gan amlaf am ei llyfr The Cause (1928). Mae papurau Rachel Pearsall Conn Strachey (a elwir hefyd yn Ray Strachey, née Costelloe) (1887–1940) yn Llyfrgell y Merched ym Mhrifysgol Metropolitan Llundain.

Gweithiai Strachey yn agos gyda Millicent Fawcett, gan rannu eu gwerthoedd ffeministaidd Rhyddfrydol a gwrthwynebu unrhyw ymgais i integreiddio'r mudiad etholfraint gyda'r Blaid Lafur. Ym 1915 daeth yn ysgrifennydd seneddol yr NUWSS, gan wasanaethu yn y rôl hon tan 1920.[10]

LlyfryddiaethGolygu

Cyhoeddiadau
  • The World at Eighteen
  • Marching On
  • Shaken By The Wind
Bywgraffiadau

Llyfrau ffeithiol am frwydr y merchedGolygu

  • Women's suffrage and women's service: The history of the London and National Society for Women's Service (1927)
  • The Cause: a Short History of Women's Movement in Great Britain
  • Careers and Openings for Women
  • Our Freedom and Its Results

Y gwleidyddGolygu

Ar ôl y Rhyfel Mawr pan gafodd menywod y bleidlais a chaniatáu iddynt sefyll fel aelodau seneddol, safodd fel ymgeisydd seneddol Annibynnol yn Brentford a Chiswick yn Etholiad Cyffredinol ym 1918, 1922 a 1923, heb lwyddiant. Gwrthododd ymgais Eleanor Rathbone i sefydlu rhaglen ffeministaidd eang yn y 1920au. Ym 1931 daeth yn ysgrifennydd seneddol i AS benywaidd cyntaf Prydain i gipio ei sedd, Nancy Astor, Is-iarll Astor, ac ym 1935 daeth Stratchey yn bennaeth Ffederasiwn Cyflogaeth y Merched. Roedd hi hefyd yn gwneud darllediadau radio rheolaidd i'r BBC.

After the Great War when women were granted the vote and permitted to stand for parliament, she stood as an Independent parliamentary candidate at Brentford and Chiswick on the General Elections in 1918, 1922 and 1923, without success. She rejected the attempt by Eleanor Rathbone to establish a broad-based feminist programme in the 1920s. In 1931 she became parliamentary secretary to Britain's first woman MP to take her seat, Nancy Astor, Viscountess Astor, and in 1935 Stratchey became the head of the Women's Employment Federation. She also made regular radio broadcasts for the BBC.

AnrhydeddauGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Brown, Susan (2008). "Ray Strachey entry". Susan Brown, Patricia Clements, Isobel Grundy (The Orlando Project). Cyrchwyd 12 Ionawr 2010.
  2. Rhyw: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
  3. Man geni: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). https://doi.org/10.1093/ref:odnb/38017.
  4. Alma mater: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
  5. Aelodaeth: https://nationalmotormuseum.org.uk/ray-costelloe-on-the-road-for-the-cause/.
  6. 6.0 6.1 Holmes, Jennifer, author. A working woman : the remarkable life of Ray Strachey. ISBN 9781789016543. OCLC 1094626302.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  7. Fara, Patricia, auteur. A lab of one's own : science and suffrage in the first World War. ISBN 9780192514165. OCLC 1083355834.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  8. Law, Cheryl (2000). "Demobilisation: 1918-1922". Suffrage and power : the women's movement, 1918-1928. I.B. Tauris. t. 76. ISBN 1860644783. OCLC 845364951.
  9. "The Suffragist Caravanners". The National Motor Museum Trust (yn Saesneg). 2018-05-22. Cyrchwyd 2019-07-09.
  10. Oxford Dictionary of National Biography