Rheilffordd Dyffryn Nene
Mae Rheilffordd Dyffryn Nene (Saesneg: Nene Valley Railway) yn rheilffordd dreftadaeth yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, sy'n mynd o Peterborough (Dyffryn Nene) hyd at Gyffordd Yarwell, saith milltir a hanner i ffwrdd.[1]
Rheilffordd Dyffryn Nene | |
---|---|
Gorsaf Peterborough | |
Ardal leol | Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr |
Terminws | Peterborough |
Gweithgaredd masnachol | |
Enw | Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin |
Adeiladwyd gan | Rheilffordd Llundain a Birmingham |
Maint gwreiddiol | 1,435 mm (4 ft 8 1⁄2 in) |
Yr hyn a gadwyd | |
Gweithredir gan | Rheilffordd Dyffryn Nene |
Gorsafoedd | 5 |
Hyd | 7.5 milltir (12.1 km) |
Maint 'gauge' | 1,435 mm (4 ft 8 1⁄2 in) |
Hanes (diwydiannol) | |
1847 | Agorwyd |
1966 | Caewyd i deithwyr |
1972 | Caewyd i nwyddau |
Hanes (Cadwraeth) | |
1983 | ailagorwyd adeiladau Gorsaf Orton Mere |
1986 | agorwyd Gorsaf Peterborough (Dyffryn Nene) |
1995 | agorwyd Gorsaf Wansford |
2007 | ailagorwyd Gorsaf Cyffordd Yarwell (terminws presennol) |
2008 | agorwyd Cyffordd Yarwell yn swyddogol |
Hanes
golyguGwreiddiau
golyguYm 1845 rhoddwyd caniatâd i'r Rheilffordd Llundain a Birmingham i adeiladu rheilffordd rhwng Blisworth yn Swydd Northampton i Peterborough, a cwblhawyd y lein ym 1847.[1] Terminws y lein oedd gorsaf reilffordd Dwyrain Peterborough, ac mae ei hadfeilion wedi goroesi. Gorffennodd gwasanaethau ar gyfer teithwyr i Northampton yn 1964 ac i Rugby yn 1966. Parhaodd gwasanaeth nwyddau hyd at 1972.[2]
Ailfywiad
golyguPrynwyd locomotif Dosbarth 5 BR 4-6-0 73050 am £3,000 gan y Parch Richard Paten ym 196. Roedd ei fwriad i arddangos 73050 tu allan Coleg Technolog Peterborough, ond darganfuwyd bod y locomotif yn gyflwr da.[2]
Ffurfiwyd Cangen Peterborough o Gymdeithas Locomotif Angliaidd Dwyrain ar 28 Mawrth 1969 efo bwriad o brynu ac adfer y locomotif 4-6-2 70000 'Britannia'. Ail-enwyd y gangen Cymdeithas Locomotif Peterborough ym 1970, ac eto i Gymdeithas Rheilffordd Peterborough ym 1971, yn lansio syniad o greu Rheilffordd Dyffryn Nene.
Pryniant y lein a locomotifau
golyguYm 1974, prynodd Corfforiaeth Datblygiad Peterborough y lein rhwng Longville a Chyffordd Yarwell ac ei llogodd i'r Gymdeithas. Bwriadwyd defnyddio locomotifau Prydeinig, ond erbyn hyn roedd mwyafrif ohonynt mewn cyflwr da wedi cael eu prynu gan reilffyrdd eraill. Dim ond 73050 oedd yn addas ar gyfer trenau teithwyr, ac roedd cerbydau addas yn brin hefyd. Roedd y Gymdeithas yn awyddus i ddechrau gwasanaeth cyn agoriad Parc Nene ym 1978.
Ym 1973, Richard Hurlock, aelod y Gymdeithas, wedi gofyn i'r Gymdeithas am ganiatâd i gadw ei locomotif Swedaidd (dosbarth S1 2-6-4T) ar y rheilffordd. Ym 1974, sylweddolwyd bod hi'n bosibl defnyddio locomotifau a cherbydau o gyfandir Ewrop wrth ddymchwel dim ond un bont dros y lein. Roedd angen culhau'r platfformau.[2]
Ailagoriad
golyguAgorwyd Canolfan Stêm Wansford dros y Basg ym 1974, a rhedodd y trên gyntaf ar gyfer teithwyr ar 1 Mehefin 1977.
Estyniad i Peterborough
golyguPenderfynwyd estyn y lei o Lyn Orton i orsaf newydd yn ymyl Amgueddfa Railworld.[2] Agorwyd Gorsaf Reilffordd Peterborough (Dyffryn Nene) ar benwythnos gŵyl y banc 26 Mai 1986.
Fletton
golyguAilagorwyd dolen rhwng Rheilffordd Dyffryn Nene a lein arfordir dwyreiniol rhwng Llundain a Chaeredin ar 1 Mawrth 2013[3]
Datblygiadau Arfaethedig
golyguDolen y Cilgant
golyguMae wedi bod sôn am ddolen y cilgant, hyrwyddwyd gan Amgueddfa Railworld ers 1999, Buasai trenau'n pasio trwy ben gorllewinol Parc Nene ac ar draws yr afon i'r brif orsaf Peterborough er mwyn cysylltu â'r rhyngrwyd genedlaethol. Ond does dim sicrwydd bod y prosiect yn mynd ymlaen
Oundle/Elton
golyguMae'r gymdeithas eisiau estyn y lein i'r gorllewin, trwy Elton i Oundle. Roedd ymgais i gwblhau'r estyniad yn y 90au, ond heb lwyddiant oherwydd diffyg arian.
Locomotifau Stêm
golyguGweithredol
golygu- Cwmni Hudswell Clarke 0-6-0T Rhif 1800 'Thomas'[4] – Yn gweithio yn iard Wansford ac ar trenau rhwng Wansford a Yarwell yn unig.
- Dosbarth 5 BR 4-6-0 Rhif 73050 'City of Peterborough.' Adeiladwyd ym 1954.[4]
- Dosbarth 4F Fowler 0-6-0 Rhif 44422. Adeiladwyd ym 1927.
Ymwelwyr
- Dosbarth 'Austerity' Cwmni Hunslet 0-6-0ST (Rhif gweithdy 3844) Rhif 22 o Reilffordd Appleby - Frodingham
Atgyweirir
golygu- Dosbarth Bulleid 'Battle of Britain' gwreiddiol 4-6-2, Rhif. 34081 '92 Squadron'. Adeiladwyd ym 1948. Cyrhaeddodd Wansford 20 Mai 2010 o Reilffordd Gogledd Swydd Norfolk ar gyfer atgyweiriad mawr. Gadawodd o'r Rheilffordd Dyffryn Nene yn wreiddiol yn 2003.
- Dosbarth F 0-6-0T o Ddenmarc Rhif 656. Adeiladwyd ym 1949. Yn cael atgyweiriad mawr.
- Dosbarth S 2-6-2T o Sweden Rhif 1178. Adeiladwyd ym 1914. Yn cael atgyweiriad mawr.
- Cwmni Hudswell Clarke 0-6-0ST Rhif 1308 'Rhos'. Yn cael atgyweiriad mawr.
- Cwmni Cockerill 0-4-0WT locomotif tramffordd. Rhif.1626 'Toby' Adeiladwyd ym 1890. Yn cael atgyweiriad mawr.
Yn Cadw
golygu- Dosbarth Slask/TKp 0-8-0T o Wlad Pwyl Rhif 5485. Adeiladwyd ym 1959. Tynnwyd o wasanaeth yn 2012 ar gyfer atgyweiriad, ond mae'r perchennog yn ceisio ei werthu o.
- Dosbarth B 4-6-0 o Sweden Rhif. 101A. Adeiladwyd ym 1944.[4] Tynnwyd o wasanaeth yn 2005 ar gyfer atgyweiriad ac yn dal i ddisgwyl.
- Dosbarth 'Austerity' Cwmni Hunslet 0-6-0ST Rhif 75006. Adeiladwyd ym 1943. Yn disgwyl am atgyweiriad ers 2004.
- Dosbarth 64 2-6-2T o'r Almaen Rhif 64.305. Adeiladwyd ym 1936. Yn disgwyl am atgyweiriad. Gobeithiwyd dechrau gwaith ar ôl cwblhau gwaith ar 1178, ond mae hynny'n annhebyg oherwydd costiau cael gwared o'i asbestos.
- Cwmni Hudswell Clarke 0-6-0ST Rhif 1539 'Derek Crouch' Adeiladwyd ym 1924. Arddangoswyd yn wreiddiol yn iard, ond symudwyd i'r gweithdy ar gyfer atgyweiriad allanol. Bwriadir ei symud i leoliad presennol 'Jacks Green'.
- Cwmni Hunslet 0-6-0ST Rhif 1953 'Jacks Green' Adeiladwyd ym 1939.[4] Wedi atgyweirir yn allanol yn ddiweddar, ac arddangosir rhwng adeilad yr orsaf a'r troadwy. Yn disgwyl am atgyweiriad, ac am ail-beintio yn ei lifrai diwydiannol gwreiddiol
Locomotifau diesel
golyguGweithredol
golygu- Dosbarth 31 BR A1A-A1A Rhif 31108 (lifrai Railfreight gwreiddiol). Defnyddir yn rheolaidd.
- Dosbarth 14 BR 0-6-0 Rhif No D9520. Defnyddir yn achlysurol ar drenau teithwyr.
- Cwmni Injan Swydd Efrog. 0-6-0 "Janus" Rhif D2670 'Stanton Rhif 50'
- Cwmni Sentinel 4 olwyn Rhif 10202 'Barabel'. Defnyddir yn rheolaidd yn y iard.
- Cwmni Sentinel 0-6-0 Rhif DL83. Defnyddir yn rheolaidd yn y iard ac yn achlysurol ar drenau teithwyr.
- Uned 3 cerbyd diesel Dosbarth 107, rhifau 52005, 59791 a 52031
- Dosbarth 14 D9529 "14029" BR 0-6-0 diesel-hydrolig.
Atgyweirir
golygu- Dosbarth 14 BR 0-6-0 Rhif D9504 Stratrail.
- Cwmni Hibberd 0-4-0 Rhif 2896 'Frank'. Yn cael atgyweiriad mawr.
- Cwmni Injan Swydd Efrog. Rhif D2654. Yn cael atgyweiriad.
- Dosbarth 56 BR Co-Co Rhif 56128. Cyrhaeddodd Wansford yn 2008 ar gyfer atgyweiriad. Bydd yn cael ei defnyddio ar y prif reilffyrdd o dan rheolaeth Cwmni Tyniant Hanson efo rhif 56313
- Cerbyd diesel dosbarth Y7 1212 B-2 'Helgar' Atgyweiriad i gorff y cerbyd.
Yn Cadw
golygu- Cwmni Ruston a Hornsby 0-4-0 Rhif 304469. Yn disgwyl am atgyweiriad mawr.
- Cwmni English Electric 0-4-0 Rhif 1123. Yn disgwyl am atgyweiriad.
- Dosbarth 14 BR 0-6-0 Rhif D9518. Cyrhaeddodd o Amgueddfa Reilffordd Swydd Rutland i roi darnau sbâr i'r locomotifau dosbarth 14 eraill.
Locomotifau sydd wedi gadael
golyguLocomotifau Stêm
golygu- Dosbarth 52/Ty2 Kriegslok Almaeneg/Pwylaidd 2-10-0, Rhif 7173. Adeiladwyd ym 1943, tynnwyd o wasanaeth yn 2001. Gwerthwyd i amgueddfa yng Ngwlad Belg.[5]
- Cyfansawdd DeGlen Ffrangeg 4-6-0 NORD Rhif 3.628. Mae hi wedi mynd i Ffrainc ar gyfer atgywiriad, i weithio ar y brif reilffyrdd.
- Dosbarth B1 LNER 1306 "Mayflower," Adeiladwyd ym 1948. Aeth i Reilffordd Maes y Gad, Shackerstone.
- Dosbarth B4 Cwmni Avonside 0-6-0ST Rhif 1945. Rheilffordd Elsecar, Barnsley.
- Dosbarth 7MT BR 4-6-2 Rhif 70000 'Britannia' Adeiladwyd ym 1951. Aith i Ganolfan Treftadaeth, Cryw.
- Dosbarth 80 0-6-0T Rhif 80.014 Adeiladwyd ym 1928. Aeth i'r Iseldiroedd
- Dosbarth S 2-6-4T Rhif 740 o Ddenmarc, ac wedi dychwelyd yno.
- Dosbarth 5MT 4-6-0 LMS Rhif 5321. Mae hi wedi mynd i Ropley.
- 0-4-0ST Cwmni Barclay Rhifau (2248)/90432. Aeth i Shepherdswell, ar Rheilffordd Dwyrain Caint.
- Dosbarth S1 Swedaidd 2-6-4T Rhif 1928. Aeth i Tunbridge.
- 0-6-0ST Cwmni Peckett Rhif 2000. Aeth i Barrow Hill.
- 0-6-0ST Cwmni Avonside Rhif 1917 'Pitsford' Aeth i Reilffordd Elsecar, Barnsley.
- 0-6-0ST Cwmni Hawthorn Leslie Rhif 3837 'Corby Rhif. 16'. Cymerwyd i Leatherhead ac wedyn i Lein Lavant gan Gymdeithas Cadwraeth Rhif 3837 Hawthorn Leslie.
- 0-6-0ST Cwmni Hudswell Clarke Rhif 1604. Aeth i Wetheringsett.
- 0-4-0ST Cwmni Avonslde Rhif 1908 'Fred'. Adeiladwyd ym 1925. Aeth i Dendermonde yng Ngwlad Belg
- 0-6-0T Cwmni Hudswell Clarke Rhif 1844. Sgrapiwyd i gyflenwi darnau sbâr i Rif1800 'Thomas'
- Dosbarth S15 4-6-0 Rheilffordd Deheuol Rhif 841 'Greene King' Adeiladwyd ym 1936. Aeth i Grosmont, Rheilffordd Bryniau Gogledd Swydd Efrog.
Locomotifau Diesel
golygu- Dosbarth 40 BR Rhif D306 'Atlantic Conveyor', Aeth i Washwood Heath ym Mai 2011
- Dosbarth 14 BR Rhif D9516. Gwerthwyd ar ôl marwolaeth y perchennog. Aeth i Ddyffryn Wensley yn Ebrill 2011
- Dosbarth 14 BR Rhif D9523. Gwerthwyd ar ôl marwolaeth y perchennog. Aeth i Derwent yn Ebrill 2011.
- Injan 4 olwyn Sentinel Rhif 11. Aeth i Washwood Heath ym Mai 2010.
- Dosbarth 47 BR Co-Co Rhif 1971/47270 'Swift'. 'BREL', Aeth 30 Gorffennaf 2009 i weithio ar brif rheilffyrdd.
- Dosbarth 56 BR Class 56 Co-Co Rhif 56114. Aeth i Hanson Traction Cyf ar 14 Awst 2009
- Dosbarth 31 BR A1A-A1A Rhif 31190. Aeth i Hanson Traction Cyf ar 30 Gorffennaf 2009
- Dosbarth 50 BR Rhif. 50008 'Thunderer'. Aeth i Hanson Traction Cyf ar 9 Hydref 2009
- Dosbarth 117 BR uned diesel 3 cerbyd, rhifau 51347 / 59508 / 51401. Aeth i Reilffordd Gwili.
- Dosbarth 56 BR Co-Co Rhif 56057 "British Fuels" i weithio ar brif rheilffyrdd.
- Rhif 2894 "Percy" 0-4-0 Hibberd i Swydd Norfolk
- Dosbarth 31 BR Rhif 31108 A1A-A1A i Reilffordd y Canolbarth,Butterley.
- Diesel Hydrolig Dosbarth 14 BR 0-6-0 Rhif D9529 "14029" 0-6-0 i Stratrail (Rheilffordd Caint a Dwyrain Sussex. Daeth yn ôl yn 2012.
- Injan 0-6-0 Diesel Mecanyddol Dosbarth 03 BR Rhif D2112 BR Class 03 i ddociau Boston
- Injan 0-6-0 Diesel Trydanol Dosbarth 08 BR Rhif 087 i ddociau Boston
- Injan Diesel Mecanyddol 0-6-0 Cwmni Ruston a Homsby Rhif 319294 DS165 0-6-0 i Reilffordd Northampton a Lamport
- Injan Diesel Hydrolig 0-4-0 Rhif 4220033 John Fowler i Ymddiriodolaeth Rheilffordd Haearnfaen Northampton, Bryn Hunsbury
- Dosbarth 25 BR Bo-Bo Rhif D7594 i Reilffordd Caint a Dwyrain Sussex.
- Injan Cwmni Alco Rhif 804 i 'Railworld', Peterborough (yn ymyl Gorsaf Peterborough (Dyffryn Nene)
- Injan Diesel Hydrolig 0-4-0 Rhif 8368 "Horsa" i Ddwyrain Dereham
- Injan Diesel Mecanyddol Cwmni Ruston a Homsby Rhif 294268 Ruston & Homsby DS48 4wDM 1975–1991 East Kent Light Railway, Shepherdswell
- 321734 Ruston & Homsby i Reilffordd Dwyrain Caint, Shepherdswell
- Dosbarth 03 BR Diesel Mecanyddol Rhif D2089 BR Class i Amgueddfa Reilffordd Mangapps, Bumham-on-Crouch
- Cerbyd Diesel Dosbarth Y7 Rhif 1212 i Fleggburgh wedyn i Fferm anifail Tweddle. Daeth yn ôl ar 22 Tachwedd 2011.
- Dosbarth 55 BR Co-Co Rhif D9016 "Gordon Highlander" i Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn.
- Dosbarth 55 BR Co-Co Rhif D9000 "Royal Scots Grey" i Reilffordd Dwyrain Swydd Gaerhirfryn.
- Injan 0-6-0 Diesel Mecanyddol Cwmni Hudswell Clarke Rhif D615 i Ellastone.
Cyfeiriadau
golygu- The Nene Valley Railway gan John Rhodes (Cyhoeddiadau Turntable, 1976).
- Peterborough's first railway: Yarwell to Peterborough gan PJ Waszak a JW Ginns (Rheilffordd Dyffryn Nene, 1995).
- 'Nene Steam' (cylchgrawn y rheilffordd) o 1979 ymlaen.
- Gwefan y Gymdeithas Gwarchodaeth Rheilffordd Rhyngwladol
- ↑ 1.0 1.1 "tudalen y rheilffordd ar wefan internetlink". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-02. Cyrchwyd 2013-08-17.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 "Gwefan Rheilffyrdd Stêm". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-06. Cyrchwyd 2013-08-17.
- ↑ Gwefan y Peterborough Telegraph[dolen farw]
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 Gwefan Doc Brown
- ↑ "Hive of Activity". A personal View of the Nene Valley Railway. Cyrchwyd 13 Mawrth 2011.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Rheilffordd Dyffryn Nene