Rhestr dathliadau Cymru
Mae'r traddodiadau sy'n cael eu harfer yng Nghymru ar ddiwrnodau arbennig o'r flwyddyn yn cynnwys dathliadau sy'n tarddu o ddiwylliannau Cymreig a Seisnig, Cristnogol a Cheltaidd.
Hanes
golyguFel y cofnodwyd yng Nghyfreithiau Hywel Dda, tri phrif wyliau teyrnasoedd Cymreig y canol oesoedd oedd Nadolig, y Pasg, Sulgwyn.[1]
Gwyliau pwysig eraill oedd gwleddoedd Sant Padrig ar 17 Mawrth; Gwyl Giric ar 16 Mehefin; Diweddglo Ioan Fedyddiwr a elwir hefyd yn Gwyl Ieuan y Moch – sef y diwrnod y rhyddhawyd y moch allan i'r coed i chwilota drwy'r gaeaf[2]; ar 29 Awst – Gwyl Sant Mihangel ar 29 Medi; a Calan Gaeaf ar 1 Tachwedd, Gŵyl yr Holl Saint.[3] Bragwyd ar gyfer diod arbennig o'r enw "gwirawd yr ebestyl ) a'i ddosbarthu ar ddyddiau'r saint hyn. [4]
Calendr dathliadau modern
golyguDyddiad | Achlysur | Math | Traddodiadau / Nodion |
---|---|---|---|
1 Ionawr | Dydd Blwyddyn Newydd | Statudol | Calennig yw'r traddodiad lle roedd plant yn cario afal wedi'i haddurno ar ddiwrnod y blwyddyn newydd. Byddai plant yn canu pennill ac yn cael rhodd arian neu fwyd.[5] |
14 Ionawr | Hen Galan | Anffurfiol | Roedd y Mari Lwyd yn cael ei chario drws i ddrws wrth ganu.[6][7][8] |
25 Ionawr | Dydd Santes Dwynwen | Anffurfiol | Diwrnod cariad.[9] |
1 Mawrth | Dydd Gwyl Dewi | Dan sylw | Nawddsant Cymru yw Dewi Sant a dethlir Dydd Gŵyl Dewi Sant ar 1 Mawrth. Mae rhai yn dymuno ei weld yn dod yn ŵyl banc: gweler Gŵyl banc Dydd Gŵyl Dewi. |
Amrywiol | Dydd Mawrth Ynyd | Dan sylw | Dydd Mawrth Ynyd, yn affurfiol Diwrnod Crempog, yw noswyl y cyfnod Cristnogol Y Grawys, a oedd yn ddiwrnod ymprydio. Mae'n cael ei ddathlu yn draddodiadol gan wneud crempogau,[10] oherwydd byddi blawd, wyau a llaeth yn cael eu rhoi i fyny dros gyfnod y Grawys, ac yna'u bwyta y diwrnod cynt.[11] |
Amrwyiol | Sul y Mamau | Dan sylw | Mae Sul y mamau yn draddodiadol yn digwydd ar 4ydd diwnrod Y Grawys, ac fel seibiant o'r ympryd. Mae'n cael ei ddathlu gyd chacennau a blodau. Mae'r enw yn deillio o Galatians 4:21–31, lle mae Sant Paul yn cyfeirio at stori Hagar and Sarah, sy'n siarad am "Jerusalem … sef ein Mam ni i gyd"[12] |
Amrwyiol | Dydd Gwener y Groglith | Dan sylw | Ar "Y Groglith" mae Cristnogion yn coffau diwrnod y croeshoelio gyda gwasanaethau capel/eglwys. Y pryd traddodiadol yw pysgodyn. Hen draddodiad oedd gwneud gwely Crist. Byddai plant yn casglu brwyn a chreu ffigwr Crist ar groes pren hefyd.[13] |
Amrwyiol | Sul y Pasg | Dan sylw | Ar Sul y Pasg, mae Cristnogion yn dathlu atgyfodiad Crist ac mae plant yn derbyn wyau siocled ac yn eu hela.
Byddai bynsen y groes (neu picen y grog) yn cael eu bwyta a chyfarchiad "Pasg Hapus".[14] |
16 Medi | Dydd Owain Glyndŵr | Anffurfiol | Mae llawer o ysgolion a sefydliadau bellach yn dathlu 16 Medi fel coffâd o Owain Glyndŵr, gyda gwyliau fel Gŵyl y Fflam i’w ddathlu.[15][16][17]
Yn ogystal, mae trefi sydd â chysylltiadau arbennig â Glyndŵr yn dathlu’r diwrnod, gan gynnwys Corwen a Harlech.[18][19] |
31 Hydref – 1 Tachwedd | Calan Gaeaf | Dan sylw yn hanesyddol | Dechrau'r gaeaf. Mae iddo wreiddiau Celtaidd fel un o'r gwyliau tân Celtaidd, a unodd â'r traddodiad Cristnogol ac â choffâd Tachwedd 5ed.[20]:148 |
5 Tachwedd | Noson Guto Ffowc/ Noson Tân Gwyllt | Dan sylw | Noson i goffau Cynllwyn Powdwr Gwn 1605 ar Senedd Llundain.[10] |
25 Rhagfyr | Dydd Nadolig | Cyfraith Cyffredin | Yn draddodiadol roedd Nadolig yng Nghymru yn cynnwys canu Plygain, gwneud taffi a gorymdeithiau ffagl.[21] |
26 Rhagfyr | Gwyl San Steffan | Statudol | Mae Gŵyl San Steffan yn cael ei ddathlu yng Nghymru.[22] |
31 Rhagfyr | Nos Galan | Dan sylw | Mae Nos Galan yng Nghymru yn cynnwys mynychu pantomeimiau, sioeau theatr a phartïon.[23] Mae ras ffordd Nos Galan hefyd yn cael ei chynnal yn Aberpennar.[24] |
Dathliadau sydd ddim yn cael eu dathlu'n eang
golyguMae Gŵyl Fair y Canhwyllau, fel arfer ar y 2 Chwefror, yn nodi cyflwyniad Iesu yn y Deml . Mae'n seiliedig ar yr hanes am gyflwyniad Iesu yn Luc 2 :22-40. Mae'n disgyn ar y 40fed diwrnod (cyfnod ôl-enedigol) o dymor y Nadolig – Ystwyll a diwedd y tymor hwnnw.[25]
Yn lleol, roedd pob plwyf yn dathlu Gŵyl Mabsant i goffau ei sant brodorol. Datblygodd y dathliad blynyddol hwn o weddio i raglen o weithgareddau hamdden.[26]
Mae Calan Mai (neu Calan Haf) yn ddathliad Calan Mai ar 1 Mai, yn nodi diwrnod cyntaf yr haf, ac yn un o'r gwyliau tân traddodiadol. [27]
Mae Gŵyl Ifan ar 24 Mehefin yn cael ei adnabod fel diwrnod canol haf. [28]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wade-Evans, Arthur. Welsh Medieval Laws, p. 2. Oxford Univ., 1909. Accessed 31 Jan. 2013.
- ↑ Roberts, Sara E. Llawysgrif Pomffred: An Edition and Study of Peniarth MS 259B. Brill, 2011. Accessed 31 Jan 2013.
- ↑ Wade-Evans, Arthur. Welsh Medieval Laws, p. 343. Oxford University, 1909. Accessed 31 Jan 2013.
- ↑ Wade-Evans, Arthur. Welsh Medieval Laws, p. 341. Oxford Univ., 1909. Accessed 31 Jan. 2013.
- ↑ "New Year Traditions: Collecting Calennig". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-02.
- ↑ "Christmas Traditions: The Mari Lwyd". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-02.
- ↑ "The Mari Lwyd". Wales (yn Saesneg). 2019-12-13. Cyrchwyd 2022-10-02.
- ↑ "Watch: Mari Lwyd appears at Hen Galan celebrations around Wales". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2023-01-14. Cyrchwyd 2023-01-15.
- ↑ "Celebrate St Dwynwen's Day". VisitWales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-02.
- ↑ 10.0 10.1 "A year in Wales". Wales (yn Saesneg). 2019-07-01. Cyrchwyd 2022-10-02.
- ↑ "Pancake Day: Why Shrove Tuesday is a thing". BBC News. 13 February 2018. Cyrchwyd 4 February 2023.
- ↑ Ferguson, John (March 1982). "The Christian Year: Fourth Sunday in Lent, Mothering Sunday". The Expository Times 93 (6): 174–176. doi:10.1177/001452468209300607.
- ↑ Sehgal, Kasvi (2 April 2021). "Here are the Welsh Easter traditions you need to know about". The Tab. Cardiff University. Cyrchwyd 6 February 2023.
- ↑ Hestler, Anna; Spilling, Jo-Ann; Scirri, Kaitlin (2020-04-15). Wales (yn Saesneg). Cavendish Square Publishing, LLC. t. 121. ISBN 978-1-5026-5584-4.
- ↑ "Mold Schoolchildren celebrate Owain Gyndwr". dailypost.co.uk. 18 April 2013.
- ↑ Arron Evans (8 September 2019). "Corwen's Gwyl Y Fflam Festival to give guests unique look into Owain Glyndwr's home". denbighshirefreepress.co.uk.
- ↑ Adam Jones (11 September 2015). "Celebrting Owain Glyndŵr's day".
- ↑ "Corwen to celebrate Owain Glyndwr Day - as King Charles makes first Wales visit as monarch". The Leader (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-15.
- ↑ "Harlech cancels procession out of respect for the Queen | cambrian-news.co.uk". Cambrian News. 2022-09-08. Cyrchwyd 2022-09-15.
- ↑ Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn) (1930). Welsh folklore and folk-custom. Cambridge : Brewer. ISBN 978-0-85991-056-9. Cyrchwyd 6 February 2023.
- ↑ "Welsh Christmas Traditions". Wales (yn Saesneg). 2019-12-12. Cyrchwyd 2023-01-20.
- ↑ "A Traditional Welsh Christmas - Christmas celebrations in Wales". Historic UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-02.
- ↑ Stephens, Lydia (2022-12-28). "The biggest New Year's Eve events in Cardiff you can still get tickets for". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-20.
- ↑ "Christmas in Wales and New Year break ideas". VisitWales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-20.
- ↑ Knecht, Friedrich Justus (1910). A Practical Commentary on Holy Scripture (yn English). B. Herder. t. 410. Cyrchwyd 27 December 2016.
We keep a feast on the 2nd of February, forty days after Christmas, in memory of our Lord's Presentation in the Temple. This feast has several names. First, it is known as the Feast of the Presentation of our Lord Jesus. Secondly, it is called the Feast of the Purification of the Blessed Virgin Mary. But the usual and popular name for this Feast is Candlemas-day, because on this day candles are blessed before Mass, and there takes place a procession with lighted candles. Candles are blessed and lighted on this particular feast.
CS1 maint: unrecognized language (link) - ↑ "The forgotten festivals of Wales". Museum Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-10-02.
- ↑ "Welsh May Day customs". BBC (yn Saesneg). 30 April 2012. Cyrchwyd 4 February 2023.
- ↑ Owen, Trefor M. (20 April 2016). The Customs and Traditions of Wales: With an Introduction by Emma Lile (yn Saesneg). University of Wales Press. ISBN 978-1-78316-827-9.