Beti a'i Phobol

Rhaglen cyfweliad radio gydag un gwestai bob wythnos yn sgwrsio gyda Beti George

Rhaglen radio ar BBC Radio Cymru yw Beti a'i Phobol wedi ei gyflwyno gan Beti George. Cychwynnodd y rhaglen yn 1987 a chyfwelir un gwestai bob wythnos, gyda'r gwestai yn dewis pedwar darn o gerddoriaeth.[1]

Beti a'i Phobol
Enghraifft o'r canlynolcyfres radio Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1987 Edit this on Wikidata

Darlledir y rhaglen am hanner dydd bob dydd Sul a fe'i ail-ddarlledir ar ddydd Iau.

Cyhoeddwyd addasiad o rai o'r sgyrsiau mewn cyfres o dri llyfr a gyhoeddwyd yn 2002, 2003 a 2004 - Beti a'i Phobol.

Gwestai

golygu
Blwyddyn Dyddiad (a ddarlledwyd yn gyntaf) Gwestai Nodiadau
2021 3 Ionawr Paul Carey Jones Sgwrs gyda'r canwr opera o Gaerdydd.
2021 10 Ionawr Dr Rhian-Mari Thomas Sgwrs gyda Prif Weithredwr Green Finance Institute yn Llundain. Yn wreiddiol o Gaerdydd, aeth hi ymlaen i astudio Ffiseg yng Nghaerfaddon a Dulyn cyn troi i'r byd arian, ac erbyn hyn yn arwain y Chwyldro Gwyrdd ar yr ochr ariannol.
2021 24 Ionawr Eric Jones Sgwrs gydag Eric Jones, cyfansoddwr y darn corawl "Y Tangnefeddwyr". Mae'n sôn am ei yrfa fel athro a phrifathro, ei gyfnod fel cyfeilydd Côr Meibion Pontarddulais a hefyd am gydweithio gyda'r band Pink Floyd.
2021 30 Ionawr David T C Davies Sgwrs gydag Aelod Seneddol Mynwy David T C Davies, lle cawn wybod am ei yrfa fel gwleidydd, ac am ei gefndir a'i berthnasau diddorol.
2021 14 Chwefror Llinos Rowlands Sgwrs gyda Llinos o Gwmni Gwin Dylanwad yn Nolgellau. Cawn hanes ei phlentyndod yn ardal Arthog, sefydlu'r busnes a sut mae'r busnes wedi ymdopi yn y cyfnod yma.
2021 21 Chwefror Mared Lewis Sgwrs gyda'r awdures o Sir Fôn. Mae'n awdures llyfrau megis Esgid Wag, Y Maison Du Soleil a Mîn y Môr a chawn glywed am ei magwraeth ac am ei chariad amlwg tuag at ysgrifennu.
2021 28 Chwefror Mared Gwyn Sgwrs gyda Mared sy'n Ymgynghorydd Cyfathrebu gyda chwmni BCW ym Mrwsel. Mae hi'n sôn am ei chyfnod anodd ym Mhrifysgol Caergrawnt, ei hoffter o ddysgu ieithoedd ac o deithio, a sut mae ei gwaith fel ymgynghorydd cyfathrebu wedi newid yn ystod y Cyfnod Clo.
2021 14 Mawrth Dr. Meinir Jones Sgwrs gyda Meinir sydd wedi bod yn brysur yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn gyfrifol am yr holl ysbytai maes ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae hi'n trafod ei magwraeth yn ardal Pontardawe, yn ogystal â'i phrofiadau fel meddyg yn Awstralia ac Ynysoedd Arran.
2021 21 Mawrth Y Parchedig John Gillibrand Sgwrs gyda'r Parchedig John Gillibrand, ficer yn ardal Pontarddulais.
2021 28 Mawrth Gerallt Pennant Sgwrs gyda un o leisiau cyfarwydd Radio Cymru. Mae'n sôn am farwolaeth ei dad pan oedd e'n fachgen ifanc ac effaith hynny arno, yn ogystal â'i fagwraeth ym Mryncir, ble roedd ei rieni yn "cadw fisitors".
2021 11 Ebrill Rhys Patchell Sgwrs gyda'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell, sy'n trafod ei ddylanwadau cynnar, a'i ddyfalbarhad a'i alluogodd i wireddu ei freuddwyd o gynrychioli ei wlad ar y maes rygbi.
2021 18 Ebrill Jeremy Vaughan, Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru Sgwrs gyda Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru am ei fagwraeth yn Nolgellau, a'i yrfa yn yr heddlu. Mae hefyd yn trafod y gwaith mae wedi ei wneud yn hybu'r iaith Gymraeg gyda Heddlu De Cymru.
2021 25 Ebrill Anna Aleko Skalistira Bakratseva Sgwrs gyda Anna, sy'n wreiddiol o Fwlgaria. Mae'n trafod y profiad o symud ei theulu cyfan i Gymru ac wedyn yr her o ddysgu Cymraeg, ac yn sgwrsio am ei magwraeth yn Sofia ac am wreiddiau ei theulu yng Ngwlad Groeg.
2021 2 Mai Jên Angharad Sgwrs gyda y ddawnswraig egniol. Mae hi'n son am ei chyflwyniad i'r iaith Gymraeg ac am ddylanwad anferthol ei hathrawes yn Ysgol Morgan Llwyd, Gwawr Davies tuag at y gyrfa mae hi'n dilyn heddiw.
2021 11 Gorffennaf Bleddyn Jones Sgwrs sgwrsio gyda'r cyn-chwaraewr rygbi Bleddyn Jones.
Blwyddyn Dyddiad (a ddarlledwyd yn gyntaf) Gwestai Nodiadau
2018 11 Ionawr Judith Owen
2018 4 Chwefror Robert David
2018 28 Ionawr Manon Steffan Ros
2018 21 Ionawr Duncan Brown
2018 14 Ionawr Iwan John
2018 7 Ionawr Barry Morgan
2017 17 Rhagfyr Gwion Hallam
2017 10 Rhagfyr Lowri Ann Richards
2017 3 Rhagfyr Ieuan Edwards
2017 26 Tachwedd Helgard Krause
2017 19 Tachwedd Rhydian Bowen Phillips
2017 12 Tachwedd Eryl Besse
2017 5 Tachwedd Sel Williams
2017 29 Hydref Catharine Huws Nagashima
2017 22 Hydref David Sinclair
2017 15 Hydref Andrew Tamplin
2017 8 Hydref Elin Jones
2017 1 Hydref Hywel Davies
2017 24 Medi Eleri Fôn Roberts
2017 17 Medi Ian Cottrell
2017 10 Medi Sian Northey
2017 3 Medi Wyn Bowen Harries
2017 20 Awst John Grisdale
2017 23 Gorffennaf Vivian Parry Williams
2017 16 Gorffennaf Sara Powys
2017 2 Gorffennaf Meg Elis
2017 18 Mehefin Marian Wyn Jones
2017 4 Mehefin Gwyneth Glyn
2017 28 Mai Helen Greenwood
2017 21 Mai Derith Rhisiart
2017 9 Ebrill Bryn Fôn
2017 2 Ebrill Rosa Hunt
2017 21 Mai Derith Rhisiart
2017 26 Mawrth Kevin 'Kev Bach' Williams
2017 19 Mawrth Dennis Davies
2017 12 Mawrth Richard Huws
2017 5 Mawrth Siân Gwenllian
2017 26 Chwefror Prydwen Elfed-Owens
2017 19 Chwefror Emyr Glyn Williams
2017 12 Chwefror Bethan Rhys Roberts
2017 5 Chwefror Elwyn Williams
2017 29 Ionawr Mari Griffith
2017 22 Ionawr Dewi Tudur
2017 15 Ionawr Jeremy Turner
2017 8 Ionawr Gareth Bonello

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Sarah Hill (11 Rhagfyr 2013). Desert Island Discs, Beti a'i Phobol, and Britishness. BBC. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2013.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.