Rhyddfeddyliaeth

(Ailgyfeiriad o Rhydd-feddwl)

Agwedd o feddwl sy'n ymlynu wrth reswm yn hytrach na dogma ac awdurdod yw rhyddfeddyliaeth[2] neu ryddfeddwl. Defnyddir y gair yn enwedig mewn materion ffydd a diwinyddiaeth, ac felly mae rhyddfeddyliaeth yn gysylltiedig â ffurfiau ar sgeptigiaeth grefyddol megis anffyddiaeth, agnostigiaeth, anghrefydd, dyneiddiaeth, anghydffurfiaeth, a rhesymoliaeth. Rhoddir yr enw Rhyddfeddyliaeth â Rh fawr ar fudiad o athronwyr a llenorion adeg yr Oleuedigaeth oedd yn ddylanwadol yn llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a bywyd deallusol y gwledydd Cristnogol yng Ngorllewin Ewrop a Gogledd America yn y 18g.

Caru'n ofer, neu yr hen wynebau, yw symbol rhyddfeddyliaeth ers diwedd y 19g. Ei enw Ffrangeg yw pensée ("meddwl"), gan ei fod yn edrych yn debyg i wyneb ac yn yr haf mae'n pendrymu fel petai ynghanol meddyliau.[1]

Eginodd syniadau'r mudiad a elwir bellach yn Rhyddfeddyliaeth ym Mhrydain yn niwedd yr 17g. Dechreuwyd defnyddio'r gair yn sgil cyhoeddi'r traethawd A Discourse of Free-thinking (1713) gan y Sais Anthony Collins. Duwgredwr ac nid anffyddiwr oedd Collins a wrthodai crefydd ddatguddiedig gan arddel deistiaeth. Fel rheol, credai'r deistiaid mewn creawdwr y bydysawd ond nid bod goruwchnaturiol sy'n ymyrryd mewn materion bydol. Mabwysiadwyd yr enw rhyddfeddylwyr yn derm mantell gan ddeistiaid, anffyddwyr ac amheuwyr eraill i amlygu eu rhyddhâd oddi wrth ragfarnau crefyddol, ac oddi wrth bob cyfundrefn grefyddol. Ym 1718 dechreuwyd cyhoeddi'r papur wythnosol, The Freethinker. Roedd Collins, Toland, Tindal, a Morgan yn cael eu hystyried yn gampwyr y mudiad, ond hwyrach mai David Hume a'r Is-iarll Bolingbroke oedd y ddau enwocaf o'i haelodau. Yn Ffrainc, yr oedd Voltaire, D'Alembert, Diderot, a Helvetius, yn arweinyddion y dosbarth a wrthwynebent Gristnogaeth yn ei holl ffurfiau. Amlygodd yr un ysbryd ei hun yn yr Almaen yn oes Ffredrig Fawr, a theimlwyd ei ddylanwad i raddau helaeth iawn trwy gyfrwng y wasg, y prifysgolion, ac hyd yn oed y pulpud yn y wlad honno.

Ennynai ymateb amddiffynnol gan gredinwyr o bob math. Cyhoeddwyd llu o atebion i draethodau Collins, Tindal a'r lleill, a rhoddai sawl clerigwr, er enghraifft yr Esgob Hoadly, ei bin ar bapur i fynnu'r ffydd a'i hawdurdod fel ei gilydd. Mae Colton, yn ei Lacon, yn sylwi ei fod yn ymddangos nad ydyw Rhyddfeddyliaeth yn ei oes yn ddim amgen nag enw arall ar ryddid i beidio gosod y meddwl ar waith. Er gwaetha'r adlach, llwyddodd syniadau'r rhyddfeddylwyr i groesi'r Iwerydd yng ngeiriau Tom Paine ac eraill. Deistiaeth Jefferson ac ambell un arall o'r Sefydlwyr oedd wrth wraidd ymwahanu'r eglwys oddi ar y wladwriaeth yng Nghyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Ceisiwyd creu llywodraeth seciwlar yn Ffrainc hefyd yn sgil y Chwyldro Ffrengig, ond atgyfnerthai'r gwrthwynebiad gan geidwadwyr megis Burke o ganlyniad i drais yr ymgyrch honno yn erbyn yr Eglwys Gatholig. Cynhelid y traddodiad rhyddfeddyliol yn y 19g gan athronwyr megis Mill, gwyddonwyr megis Darwin a Huxley, ac areithwyr megis Robert Ingersoll.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Annie Laurie Gaylor. A Pansy For Your Thoughts: Rediscovering A Forgotten Symbol Of Freethought, Freethought Today (Mehefin/Gorffennaf 1997). Adalwyd ar 2 Mehefin 2017.
  2.  rhyddfeddyliaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 17 Ebrill 2017.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.