Rhyfel Bosnia
Rhyfel rhyngwladol ym Mosnia a Hercegovina a barhaodd o fis Ebrill 1992 i fis Rhagfyr 1995 oedd Rhyfel Bosnia neu Ryfel Bosnia a Hercegovina. Prif frwydrwyr y gwrthdaro oedd lluoedd Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina a lluoedd dau endid hunan-ddatganedig o fewn Bosnia a Hercegovina, Republika Srpska (oedd yn cynrychioli Serbiaid Bosniaidd) a Herzeg-Bosnia (oedd yn cynrychioli Croatiaid Bosniaidd). Derbyniodd Republika Srpska gefnogaeth wleidyddol a milwrol sylweddol gan Serbia, a Herzeg-Bosnia cefnogaeth gan Groatia.[1][2][3]
Rhyfel Bosnia | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o Ryfeloedd Iwgoslafia | ||||||||
Clocwedd o'r chwith: Adeilad y senedd yn Sarajevo yn llosgi wedi iddo gael ei fwrw gan dân tanciau Serbiaidd ym Mai 1992; Ratko Mladić gyda milwyr Serbaidd-Fosniaidd; milwr y Cenhedloedd Unedig o Norwy yn Sarajevo. | ||||||||
| ||||||||
Cydryfelwyr | ||||||||
1992–94:
Gweriniaeth Bosnia a Hercegovinaa 1994-95: Gweriniaeth NATO |
1992-94:
Gweriniaeth Groataidd Herzeg-Bosnia |
1992-94:
Republika Srpska Talaith Ymreolaethol Gorllewin Bosnia (1993 ymlaen) | ||||||
Arweinwyr | ||||||||
Alija Izetbegović (Arlywydd Bosnia a Hercegovina) Sefer Halilović Rasim Delić |
Franjo Tuđman (Arlywydd Croatia) Janko Bobetko Mate Boban Milivoj Petković Dario Kordić |
Slobodan Milošević (Arlywydd Serbia) Radovan Karadžić Ratko Mladić Fikret Abdić (Arlywydd dros dro Talaith Ymreolaethol Gorllewin Bosnia) | ||||||
Nerth | ||||||||
~100 o danciau ~200,000 o filwyr traed |
~300 o danciau ~70,000 o filwyr traed |
600-700 o danciau 120,000 o filwyr traed | ||||||
Anafusion a cholledion | ||||||||
31,270 milwyr yn farw 33,071 sifiliaid yn farw |
5,439 milwyr yn farw 2,163 sifiliaid yn farw |
20,649 milwyr yn farw 4,075 sifiliaid yn farw | ||||||
a Ar y pryd ni chefnogwyd Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina gan y mwyafrif o Groatiaid Bosniaidd a Serbiaid Bosniaidd (oedd ag endidau eu hunain). O ganlyniad, roedd yn gynrychioli Bosniaciaid o fewn Bosnia a Hercegovina yn bennaf. Mae'r wladwriaeth gyfoes Bosnia a Hercegovina yn cynnwys y tri phrif grŵp ethnig Bosniaidd. b Rhwng 1994 a 1995, cefnogwyd Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina gan Fosniaciaid a Chroatiaid Bosniaidd ethnig, a chynrychiolwyd y grwpiau hynny gan y weriniaeth, yn bennaf oherwydd Cytundeb Washington. |
Daeth y rhyfel o ganlyniad i chwalu Iwgoslafia. Yn dilyn ymwahaniad Slofenia a Chroatia oddi ar Iwgoslafia ym 1991, pasiwyd refferendwm dros annibyniaeth gan weriniaeth Iwgoslafaidd Bosnia a Hercegovina ar 29 Chwefror 1992. Roedd gan y weriniaeth boblogaeth aml-ethnig, oedd yn cynnwys Bosniaciaid Mwslimaidd (44%), Serbiaid Uniongred (31%), a Chroatiaid Catholig (17%). Boicotwyd y refferendwm gan gynrychiolwyr gwleidyddol Serbaidd-Fosniaidd a gwrthodasant ei ganlyniad, gan sefydlu gweriniaeth eu hunain o'r enw Republika Srpska. Yn dilyn y datganiad annibyniaeth, ymosododd lluoedd Serbaidd-Fosniaidd ar Weriniaeth Bosnia a Hercegovina, gyda chefnogaeth llywodraeth Gweriniaeth Serbia dan Slobodan Milošević a Byddin Pobl Iwgoslafia (JNA), er mwyn sicrháu tiriogaeth Serbaidd. Dechreuodd rhyfel ar draws Bosnia, gyda glanhau ethnig yn erbyn y boblogaeth Fosniac, yn enwedig yn Nwyrain Bosnia.[4]
Gwrthdaro tiriogaethol oedd y rhyfel yn bennaf, yn wreiddiol rhwng Byddin Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina, y mwyafrif o'i filwyr yn Fosniaciaid, a lluoedd Croataidd-Fosniaidd ar yr un ochr, a lluoedd Serbaidd-Fosniaidd ar yr ochr arall. Bwriadai'r Croatiaid hefyd i sicrháu rhannau o Fosnia a Hercegovina yn diriogaeth Groataidd.[5] Cytunodd yr arweinyddiaeth Serbaidd a Chroataidd i rannu Bosnia gyda chytundebau Karađorđevo a Graz, ac o ganlyniad trodd lluoedd Croataidd yn erbyn Byddin Gweriniaeth Bosnia a Hercegovina gan arwain at y Rhyfel rhwng y Croatiaid a'r Bosniaciaid.[6] Nodweddwyd y rhyfel gan ymladd chwerw, sielio diwahân o ddinasoedd a threfi, glanhau ethnig, trais rhywiol systematig ar raddfa eang, a hil-laddiad. Daeth digwyddiadau megis Gwarchae Sarajevo, gwersyll Omarska, a chyflafan Srebrenica i nodweddu'r gwrthdaro.
Er fod y Serbiaid yn wreiddiol yn uwchraddol o ran arfau ac adnoddau o ganlyniad i gefnogaeth y JNA, yn y bôn collasant grym pan ymunodd Bosniaciaid a Chroatiaid yn erbyn Republika Srpska ym 1994 gan greu Ffederasiwn Bosnia a Hercegovina yn sgîl Cytundeb Washington. Yn dilyn cyflafanau Srebrenica a Markale, ymyrrodd NATO yn ystod Ymgyrch Grym Bwriadol ym 1995 yn erbyn Byddin Republika Srpska gan ryngwladoli'r gwrthdaro yn ei gamau olaf.[7] Daeth y rhyfel i ben yn sgîl Cytundeb y Fframwaith Cyffredinol ar gyfer Heddwch ym Mosnia a Hercegovina ym Mharis ar 14 Rhagfyr 1995. Cynhaliwyd trafodaethau heddwch yn Dayton, Ohio, a phenderfynwyd ar Gytundeb Dayton ar 21 Rhagfyr 1995.[8] Yn ôl adroddiad o'r rhyfel a wnaed gan yr Asiantaeth Gwybodaeth Ganolog (CIA) ym 1995, lluoedd Serbaidd oedd yn gyfrifol am 90% o droseddau rhyfel yn ystod y gwrthdaro.[9] Erbyn 2008 cafwyd 45 o Serbiaid, 12 o Groatiaid, a 4 Bosniac yn euog o droseddau rhyfel yn gysylltiedig â Rhyfel Bosnia gan y Tribiwnlys Troseddol Rhyngwladol ar gyfer y cyn-Iwgoslafia.[10] Mae'r ymchwil diweddaraf yn awgrymu bu farw 100,000–110,000 o bobl[11][12][13] a dadleolwyd dros 2.2 miliwn,[14] gan ei wneud yn y gwrthdaro mwyaf ddifrodus yn Ewrop ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) ICTY: Conflict between Bosnia and Herzegovina and the Federal Republic of Yugoslavia.
- ↑ (Saesneg) ICTY: Conflict between Bosnia and Croatia.
- ↑ (Saesneg) ICJ: The genocide case: Bosnia v. Serbia - See Part VI - Entities involved in the events 235-241 (PDF).
- ↑ (Saesneg) ICTY: The attack against the civilian population and related requirements.
- ↑ (Saesneg) ICTY: Naletilić and Martinović verdict - A. Historical background.
- ↑ Silber, L (1997), Yugoslavia: Death of a Nation. Penguin Books, t.185
- ↑ (Saesneg) Sarajevo massacre remembered. BBC (5 Chwefror 2004).
- ↑ (Saesneg) Dayton Peace Accords on Bosnia. Adran Dramor yr Unol Daleithiau (30 Mawrth 1996).
- ↑ (Saesneg) Roger Cohen (9 Mawrth 1995). C.I.A. Report on Bosnia Blames Serbs for 90% of the War Crimes. The New York Times.
- ↑ (Saesneg) Karadzic Sent to Hague for Trial Despite Violent Protest by Loyalists. The New York Times.
- ↑ (2005) War-related Deaths in the 1992–1995 Armed Conflicts in Bosnia and Herzegovina: A Critique of Previous Estimates and Recent Results, European Journal of Population, Cyfrol 21 (yn en). Springer Netherlands, tud. 187–215. DOI:10.1007/s10680-005-6852-5. URL
- ↑ (Saesneg) Research halves Bosnia war death toll to 100,000. Reuters (23 Tachwedd 2005).
- ↑ Review of European Security Issues. Adran Dramor yr Unol Daleithiau (3 Mawrth 2006).
- ↑ (Saesneg) Jolie highlights the continuing suffering of the displaced in Bosnia. UNHCR (6 Ebrill 2010).