Bosniaciaid
Grŵp ethnig de Slafig sydd yn byw yn bennaf ym Mosnia a Hercegovina yw'r Bosniaciaid (Bosneg: Bošnjak, lluosog: Bošnjaci). Mae lleiafrifoedd Bosniac yn byw yng ngwledydd eraill y Balcanau, gan gynnwys Serbia, Montenegro, a Chroatia. Cysylltir Bosniaciaid â'r grefydd Islam yn ardal hanesyddol Bosnia ers y 15g, er nad ydynt i gyd yn Fwslimiaid.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig, Constituent people |
---|---|
Mamiaith | Bosneg |
Label brodorol | bošnjaci, |
Poblogaeth | 4,000,000 |
Crefydd | Islam, swnni |
Rhan o | Slafiaid Deheuol |
Enw brodorol | bošnjaci, |
Gwladwriaeth | Bosnia a Hertsegofina, yr Almaen, Serbia, Unol Daleithiau America, Twrci, Slofenia, Montenegro, Awstria, Y Swistir, Awstralia, Croatia, Sweden, yr Eidal, Cosofo, Hwngari, Gogledd Macedonia, Denmarc, Norwy, Canada, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Y Ffindir, Tsiecia, Sbaen, Rwsia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |