Richard Llwyd
Bardd a hynafiaethydd o Gymru oedd Richard Llwyd (1752 – 29 Rhagfyr 1835), a fu'n adnabyddus yn ei gyfnod fel "The Bard of Snowdon".
Richard Llwyd | |
---|---|
Ffugenw | The Bard of Snowdon, Bard of Snowdon |
Ganwyd | 1752 Biwmares |
Bu farw | 29 Rhagfyr 1835 Caer |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | achrestrydd, bardd |
Ganed Llwyd ym Miwmares, Môn yn 1752. Dioddefodd dlodi yn ei ieuenctid oherwydd marwolaeth ei dad o'r frech wen a adawodd y teulu heb foddion byw. Dim ond naw mis o addysg ffurfiol a gafodd, yn Ysgol Rad Biwmares. Daeth yn asiant ystâd y teulu Griffith o Gaerhun, Dyffryn Conwy. Yn 1824 cafodd ei wneud yn aelod o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Bu farw yn 1835.
Daeth yn awdurdod ar herodraeth ac achau yng Nghymru diolch i'w ymchwil diflino ac enillodd barch yng nghylchoedd uchelwrol gogledd Cymru. Diolch i'w ddylanwad cafodd Dic Aberdaron a beirdd fel Dafydd Ddu Eryri gymorth ariannol o'r Gronfa Lenyddol Frenhinol.
Ysgrifennai sawl cerdd yn yr iaith Saesneg sy'n mynegi ei wladgarwch. Ei gerdd enwocaf efallai yw Beaumaris Bay (1800) a argraffwyd gyda llwyth o nodiadau am dopograffi a hanes y fro. Cyhoeddwyd casgliad o'i gerddi yn 1804 sy'n cynnwys cyfieithiadau o'r Gymraeg (neu'r "British language").
Llyfryddiaeth
golygu- Poems, Tales, Odes, Sonnets, Translations from the British (1804)
- Poetical Works of Richard Llwyd, gol. Edward Parry (1837)
Ffynhonnell
golygu- Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).