Richard Morison
Diplomydd o Sais, diwygiwr crefyddol, ac ysgolhaig o ddyneiddiwr oedd Syr Richard Morison (tua 1510 – 1556).
Richard Morison | |
---|---|
Ganwyd | 1510 |
Bu farw | 17 Mawrth 1556 Strasbwrg |
Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd1547-1552 |
Tad | Thomas Morrison |
Mam | unknown daughter Merry |
Priod | Bridget Hussey |
Plant | Elizabeth Morrison, Jane Sibella Morrison, Charles Morison |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Roedd Richard Morison yn ail fab i Thomas Morison, o Sandon, Swydd Hertford, a'i wraig, un o ferched Thomas Merry o Hatfield, Swydd Hertford. Mae'n debyg yr oedd Thomas Morison yn hanu o Chardwell, Swydd Efrog. Tua 1526, derbyniwyd Richard Morison yn isel ganon yng Ngholeg y Cardinal, a sefydlwyd gan y Cardinal Thomas Wolsey yn Rhydychen. Derbyniodd ei radd baglor yn y celfyddydau (BA) ym 1528–9, a rhoddwyd iddo bensiwn am oes gan Wolsey.[1] Astudiodd hefyd yn Padova ac o bosib ym Mharis cyn iddo ddychwelyd i Loegr ym 1536.
Gweithiodd Morison dan nawdd Thomas Cromwell, prif weinidog y Brenin Harri VIII, a rhoes ei gefnogaeth i'r ymdrech i Brotestaneiddio'r deyrnas. Ysgrifennodd bamffledi ar bynciau crefyddol a gwleidyddol yn dadlau o blaid awdurdod y brenin dros yr eglwys wladol. Yn ei draethodyn A Remedy for Sedition (1536) pwysleisiai rôl ganolog y teyrn sofran wrth greu gwlad sefydlog a phwerus. Yn sgil dienyddio Cromwell ym 1540 collodd Morison ffafr y brenin.
Dychwelodd Morison i'r llys brenhinol yn ystod teyrnasiad Edward VI, a chafodd ei urddo'n farchog ym 1550. Aeth ar genhadaeth ddiplomyddol i lys Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, ond collodd y swydd honno wedi i'r Frenhines Mari esgyn i'r orsedd ym 1553. Ymsefydlodd Morison yn Strasbwrg, i osgoi erledigaeth yn Lloegr, a bu farw yno ym 1556.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Woolfson, Jonathan. "Morison, Sir Richard (c. 1510–1556), humanist and diplomat", Oxford Dictionary of National Biography (23 Medi 2004). Adalwyd ar 6 Medi 2020.