Robert Jones (argraffwr)

argraffwr

Argraffydd a chyhoeddwr o Gymro oedd Robert Jones (Ionawr 180319 Rhagfyr 1850).

Robert Jones
GanwydIonawr 1803 Edit this on Wikidata
Trefriw Edit this on Wikidata
Bu farw19 Rhagfyr 1850 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Man preswylTrefriw, Pwllheli, Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethargraffydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFigaro in Wales, Philo-Figaro Edit this on Wikidata
PerthnasauDafydd Jones Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Jones ym Mryn Pyll, Trefriw yn blentyn i Ismael Davies, argraffydd a Jane ei wraig. Dydy union ddyddiad ei eni ddim yn hysbys ond fe'i bedyddiwyd yn un o eglwysi Plwyf Llanrhychwyn a Threfriw ar 14 Ionawr 1803.[1] Roedd Ismael Davies yn fab i'r bardd, hynafiaethydd ac argraffwr Dafydd Jones o Drefriw.[2] Roedd John Jones (Pyll) (1786 - 1865) yn frawd (llawer) hyn i Robert, a phan fu farw Ismael yn 1817 cymerodd Pyll gofal o'r gwaith argraffu [3] Dysgodd y grefft i'w frawd bach a phan symudodd Pyll ei wasg i Lanrwst aeth a John gydag ef.[4]

Wedi dysgu ei grefft gan ei frawd symudodd Jones i Bwllheli i weithio ar ei liwt ei hun ym 1828. Arhosodd ym Mhwllheli am 6 mlynedd cyn symud ei wasg i Fangor ym 1834. Yn ôl ei nai, Evan Jones, Llanrwst, roedd Jones yn argraffu ar yr hen wasg bren a ddefnyddiwyd gan Lewis Morys (Llewelyn Ddu o Fôn) i argraffu Tlysau yr Hen Oesoedd, ym 1735, ar hyd ei oes. Roedd Dafydd Jones o Drefriw wedi prynu'r wasg gan Lewis a dyma'r wasg a defnyddiwyd gan Dafydd Jones ac Ismael Davies ar gyfer eu holl waith.

Yn fuan ar ôl symud i Fangor, dechreuodd Robert Jones gyhoeddi Papur Newydd, o'r enw The Figaro in Wales, y papur Cymreig cyntaf i ddefnyddio lluniau yn rheolaidd. Prif gynnwys y papur oedd ymosodiadau ar glerigwyr Eglwys Loegr, am esgeuluso eu dyletswyddau cyhoeddus. Bu ymosodiadau ciaidd ar Esgob a swyddogion Eglwys Gadeiriol Bangor, tirfeddianwyr yr ardal a chefnogwyr y Blaid Dorïaidd. Roedd rhai clerigwyr yn chwerthin am ei gynnwys, ond roedd eraill yn ddig iawn.[5] Bu'r Figaro yn gyfrifol am roi'r argraffydd mwyn dŵr poeth fwy nag unwaith. Ym 1836 cafodd Jones ddirwy o £250 am gabledd yn erbyn George Johnson llyngesydd o Gaernarfon [6]. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn bu achos yn erbyn Jones ym Mrawdlys Amwythig am enllibio Joseph Jones un o asiantau Thomas Assheton Smith II, Y Faenol.[7] Ychydig wedi'r erlyniadau rhoddwyd y gorau i gyhoeddi'r papur. Mae'n debyg mae'r Dr Owen Owen Roberts Bangor a'i frawd y cyfreithiwr William Lloyd Roberts, Caernarfon oedd yn talu Jones am argraffu'r Welsh Figaro, ac maen nhw, nid Jones ei hun, a thalodd y dirwyon enllib.[8]

Ym mis Hydref 1843 dechreuodd Jones ail gyhoeddi'r papur o dan y teitl Figaro the Second. Y Parch Issac Harding Harries,[9] gŵr oedd yn ei alw ei hun yn Weinidog yr Annibynwyr, ond heb gydnabyddiaeth gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg a'i alwodd y creadur mwyaf ysgymun a fu erioed mewn cyswllt ag achos crefydd [8] Cyn pen y flwyddyn, cychwynnwyd papur arall gan Lewis Evan Jones, Caernarfon, o'r enw'r Anti Figaro, dan olygiad Edeyrn ab Nudd, bardd, ac ymgeisydd am offeiriadaeth Eglwys Loegr. Roedd Edeyrn wedi bod yn wrthrych ymosodiadau ffyrnig yn rhifyn cyntaf yr ail Figaro, ac amcan sefydlu papur Caernarfon oedd talu'r pwyth yn ôl i bapur Bangor a'r Annibynwyr. Daeth cynnwys y ddau bapur mor gas a chableddus fel bod cyfreithwyr wedi sicrhau atafaelu eiddo'r ddau argraffydd. Un o wŷr y gyfraith a fu'n erlyn y ddau bapur oedd William Lloyd Roberts, un o'r bobl bu'n gefn i'r Figaro gwreiddiol.[8]

Daeth ychydig o lyfrau o wasg Robert Jones ar ôl hynny, ond gydag enw ei fab, Robert Griffith Jones, fel argraffydd.

Cyhoeddiadau

golygu

Argraffwyd y llyfrau canlynol gan wasg Robert Jones ym Mangor [10]:-

  • 1834 — Galarnad ar ôl William Burnett, Pregethwr gyda y Bedyddwyr yng Nghaergybi, yr hwn a fu farw yn dra hyderus yn yr Arglwydd, Gorphenaf yr 22, 1834, yn ei 65 mlwydd oed. Gan y Parch. William Morgan, Caergybi.
  • 1838 — Pynciau Athrawiaethol yn y rhai y mae amryw Ganghenau Ysgrythyrol, y rhai sydd Anghenrheidiol Anhepgorol i dywys y Meddwl i Gysondeb y Ffydd yn ol y Bibl Sanctaidd. Gan y Parchedig Arthur Jones, Bangor.
  • 1844 — Traethawd ar Natur Eglwys, oddiar Matthew xvi. 18, 19; lle y dangosir gwrthuni Sefydliadau Dynol, a Chysylltiad Crefydd â'r Byd. Gan Owen Thomas, Bethesda.
  • 1849 — (dan enw R. G. Jones), ­Y Gweithiwr Caniadgar, Gan Hugh Hughes (Huw Derfel), Pendinas, Llandegai.

Cyfeiriadau

golygu