Sïedn cain corun porffor

rhywogaeth o adar
Sïedn cain corun porffor
Heliothryx barroti

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Apodiformes
Teulu: Trochilidae
Genws: Heliothryx[*]
Rhywogaeth: Heliothryx barroti
Enw deuenwol
Heliothryx barroti
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Sïedn cain corun porffor (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: sïednod cain corun porffor) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Heliothryx barroti; yr enw Saesneg arno yw Purple-crowned fairywren. Mae'n perthyn i deulu'r Sïednod (Lladin: Trochilidae) sydd yn urdd y Apodiformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn H. barroti, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Ne America a Gogledd America.

Gall fwyta neithdar o fewn blodau, ac wrth ymestyn i'w gyrraedd, mae'n rwbio'n erbyn y paill ac yn ei gario i flodyn arall gan ei ffrwythloni.

Aderyn yn nheulu'r dryw Awstralasiaidd, Maluridae, ydy'r sïedn cain corun borffor (Malurus coronatus ). Hi yw'r mwyaf o'r un ar ddeg rhywogaeth yn y genws Malurus ac mae'n endemig i ogledd Awstralia. Mae enw'r rhywogaeth yn deillio o'r gair Lladin cǒrōna sy'n golygu "coron" (neu gorun) oherwydd y cylch porffor nodedig o blu'r goron sy'n cael ei wisgo gan wrywod sy'n magu. Mae tystiolaeth enetig yn dangos bod y sïedn cain corun porffor yn perthyn agosaf i'r sïedn cain gwych a'r sïedn cain ysblennydd. Gellir gwahaniaethu rhwng y rhywogaeth dan sylw a sïednod cain eraill yng ngogledd Awstralia gan bresenoldeb boch-glytiau (naill ai du mewn gwrywod neu siocled coch-goch mewn benywod) a lliw glas dwfn eu cynffonau pigog.

Yn debyg i siednod cain eraill, mae'r sïedn cain coryn porffor yn ffyddlon i un partner. Fodd bynnag, bydd benywod gyda gwrywod perthynol fel partneriaid yn paru ag unigolion eraill. Credir mai addasiad yw hwn i osgoi canluniadau mewnfridio. Maen nhw'n adeiladu nythod bach siâp cromen lle mae 2-3 wy yn cael eu dodwy, gyda hyd at dri nythaid y flwyddyn. Mae'n bryfysol yn bennaf, yn bwydo ar amrywiaeth eang o infertebratau, ac yn ychwanegu at ei ddeiet gyda hadau.

Mae'r siedn cain hwn yn byw mewn cynefin ar lannau'r afon gyda llystyfiant trwchus, yn y parthau sy'n cynnwys llwyni trwchus neu dryslwyni tal, trwchus o laswellt yr afon. Yn wahanol i aelodau eraill y grwp, nid yw wedi addasu'n dda iawn i gynefinoedd trefol ac mae wedi dioddef colled difrifol yn ei boblogaeth mewn rhai ardaloedd. Er bod y rhywogaeth yn gyffredinol yn cael ei hystyried o ran ei chadwraeth o'r pryder lleol, mae ei hisrywogaeth orllewinol wedi'i rhestru fel un sydd mewn perygl. Pori da byw, tanau, a rhywogaethau ymledol yw'r prif bryderon i'r boblogaeth. Mae gan lywodraeth Awstralia a grwpiau cadwraeth brosiectau cadwraeth gweithredol ar gyfer y rhywogaeth, gan gynnwys ar gyfer rheoli tân a rhywogaethau ymledol.

Pryderon diweddar golygu

Gallai sïednod cain corun porffor fod mewn perygl o wres byd-eang ar ôl i astudiaeth ddarganfod bod dod i gysylltiad ag amodau poeth a sych yn niweidio DNA y cywion.

Yn wahanol i effeithiau mwy tiriaethol gwresogi byd-eang ar rywogaethau – megis risg gynyddol o danau llwyn, colli cynefin neu donnau gwres angheuol – dywedodd y gwyddonwyr fod yr effaith a ddarganfuwyd gan y niwed i'w DNA yn dawel, yn niweidiol ac yn effaith gydol oes.[3]


Teulu golygu

Mae'r sïedn cain corun porffor yn perthyn i deulu'r Sïednod (Lladin: Trochilidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Q83015764 Paraclaravis mondetoura
 
Turtur ddaear adeinresog Paraclaravis geoffroyi
 
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  Safonwyd yr enw Sïedn cain corun porffor gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.