Sara Gregory
Actores o Gymraes yw Sara Lloyd-Gregory (ganwyd 19 Awst 1986), sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Sara Gregory. Mae hi'n adnabyddus am nifer o rannau mewn dramâu Cymraeg ar S4C gan gynnwys Con Passionate, Blodau, Byw Celwydd a rhan blaenllaw yn y gyfres ddrama Alys ar S4C. Mae'n fwy hysbys i gynulleidfaoedd yng Ngogledd America am ei rôl fel Allison yn narllediad HBO o gyfres Sky1, Thorne: Sleepyhead.
Sara Gregory | |
---|---|
Ganwyd | 19 Awst 1986 Rhydaman |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | actor |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywyd cynnar golygu
Fe'i ganwyd yn Rhydaman yn ferch i'r canwr a digrifwr Adrian Gregory. Fe astudiodd bale ers oedd yn dri mlwydd oedd a roedd ei bryd ar fynd i byd dawns. Aeth i Ysgol Gynradd Gymraeg Rhydaman ac Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa. Ar ôl mynd i Goleg Gorseinon i astudio celfyddyd perfformio cymerodd fwy o ddiddordeb mewn drama. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[1]
Gyrfa golygu
Roedd ei ymddangosiad cyntaf yn 2003 yn Stopping Distance, ffilm am gang treisiol lle mae'n ymddangos fel merch yn ei harddegau o'r enw Melanie.
Yn 2004, ymddangosodd ar lwyfan, y tro hwn fel Julie Osman—merch yn ei arddegau gyda tad Mwslimaidd o Dwrci a gafodd ei lofruddio gyda cymhelliad hiliol—yn A Way Of Life.
Yn 2006, gwnaeth ymddangosiad mewn ffilm ddadleuol gan bortreadu rôl merch o'r enw Serena yn Little White Lies. Roedd y ffilm yn gomedi a oedd yn dangos hiliaeth a oedd, fel A Way of Life, wedi ei ffilmio yn Ne Cymru.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, bu'n serennu yn y bennod Torchwood "Day One" fel merch ifanc o'r enw Carys Fletcher sy'n cael ei meddu gan fod arallfydol sy'n bwydo oddi ar ynni orgasmic.
Yn 2007, daeth yn un o gast rheolaidd y ddrama Belonging ar BBC Wales, yn chwarae Nadine Weaver.
Yn 2008, chwaraeodd y prif ran benywaidd mewn cynhyrchiad o Romeo and Juliet yn y Theatr Newydd, Caerdydd.[2]
Yn 2011, serennodd fel Alys yn y gyfres deledu o'r un enw, Alys ar S4C. Dychwelodd yn yr ail gyfres a ddarlledwyd yn hwyr yn 2012. Ni bu sôn am unrhyw gyfresi pellach.
Yn 2013, enillodd Sara wobr Actores Gorau BAFTA Cymru am ei rhan fel Alys.
Ffilmyddiaeth golygu
Ffilm golygu
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Cyfarwyddwyd gan |
---|---|---|---|
Ffordd o Fyw | Julie Osman | ||
Little White Lies | Serena | ||
Affinity | Madeleine | ||
S. N. U. B! | Anna | ||
Patagonia | Chica del Valle | ||
Another Me | Wraig â babi | ||
Get Up and Go | Ella |
Teledu golygu
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
Shopping Distance | Melanie | Ffilm deledu | |
Torchwood | Carys Fletcher | Pennod— "Day One" | |
Y Pris | Llio Edwards | 4 pennod | |
Belonging | Nadine | 7 pennod | |
Tess of the d'Urbervilles | Nancy Darch | Cyfres fer - pennod 1 | |
Con Passionate | Ellen Wynne | Cyfres ddrama S4C | |
Doctors | Carmel Coates | Pennod — "Innocent" | |
Blodau | Cat | Drama S4C | |
Sleep with Me | Young Lelia | Ffilm deledu | |
Being Human | Amy McBride | Pennod— "All God's Children" | |
Thorne: Sleepyhead | Alison Willets | Penodau 1–3 | |
Bloody Nora | Amy | Ffilm deledu | |
Alys | Alys | Prif rhan 2 gyfres - 16 pennod | |
Doctors | Olwyn Prytherch | Pennod — "The Liars of Letherbridge" | |
Hinterland | Catrin John | Pennod un | |
Byw Celwydd | Lowri Ogwen Jones | Cyfres ddrama S4C |
Cyfeiriadau golygu
- ↑ The interview: Sara Lloyd-Gregory (en) , South Wales Guardian, 1 Tachwedd 2011. Cyrchwyd ar 20 Mehefin 2016.
- ↑ Romeo and Juliet at the New Theatre Cardiff. Theatre In Wales (20 Medi 2008). Adalwyd ar 21 Mai 2013.
Dolenni allanol golygu
- Sara Gregory ar wefan Internet Movie Database
- Sara Gregory ar Twitter