Sgwrs:Owain Glyn Dŵr

Latest comment: 6 blynedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Dyddiad geni

Mae Glyndŵr yn haeddu gwell na hyn! Anatiomaros 00:07, 31 Awst 2006 (UTC)Ateb

Plant golygu

Oes rhywun yn gwybod o ble daeth y rhestr o blant Owain Glyndŵr yn yr erthygl? Mae'n edrych yn amheus i mi. Rwy'n meddwl y dylai'r rhestr gael ei chyfyngu i'r plant y mae cofnod hanesyddol gweddol ddibynadwy amdanynt. Rhion 13:27, 6 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Dwi ddim yn siwr, ond o'r erthygl Saesneg yn ôl pob tebyg. Mae 'na goblyn o lot o nhw, hyd yn oed yn ôl safonau'r Oesoedd Canol! Mae 'na foi ar en: sy'n ychwanegu pethau digon amheus at erthyglau am Gymru'r OC, yn cynnwys, os cofiaf yn iawn, erthyglau am rai o ddisgynyddion honedig Owain sy'n seiliedig ar ei ddarlleniadau ei hun o waith ymchwil P. C. Bartrum. Os nad oes cyfeiriad atyn nhw yn y ffynonellau arferol efallai y dylem dileu nhw (neu o leia eu cuddio yn y testun am rwan)? Anatiomaros 17:48, 6 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Dyma'r rhai y mae angen cael ffynhonnell ar eu cyfer:
  • Madog ab Owain Glyndŵr
  • Tomas ab Owain Glyndŵr
  • Siôn ab Owain Glyndŵr
  • Dafydd ab Owain Glyndŵr
  • Ieuan ab Owain Glyndwr
  • Margaret ferch Owain Glyndŵr
  • Isabel ferch Owain Glyndŵr
  • Jonet ferch Owain Glyndŵr
  • Elizabeth ferch Owain Glyndŵr
  • Jane ferch Owain Glyndŵr Rhion 18:35, 6 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Dau gwestiwn bach pitw golygu

Mae'r erthygl yma'n datblygu'n wych iawn; dau gwestiwn bach gan nad oes gen i mo'r amser ar hyn o bryd i chwilio ymhellach.

1. Ydy 'Reginald Grey' yn enw cywir? Mi gredais i mai 'Reginald de Grey' oedd yn gywir.

2. Oes angen y fanod o flaen 'Amwythig' hy 'yr Amwythig'? Llywelyn2000 01:23, 7 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

I ateb fy nghwestiynau fy hun (!): 1. Ydy 2. Oes! Llywelyn2000 07:33, 28 Hydref 2011 (UTC)Ateb

Nodyn llinach golygu

Dw i wedi creu coeden deulu, neu llinach OGD. Sut goblyn mae ei roi'n daclus ar naill ai'r chwith neu'r dde??? Ar hyn o bryd mae'n y canol, gyda gwastraff tudalen y naill ochr a'r llall! Diolch. Llywelyn2000 07:32, 28 Hydref 2011 (UTC)Ateb

Glyndŵr / Glyndwr / Glyn Dŵr golygu

Mae'r defnydd helaeth o'r ffurf Glyndŵr yn prysur ddisodli'r enwau cywirach - sef Glyndwr / Glyn Dŵr. Dyma'r dewis - yntau cywasgu'r enw a hepgor yr acen grom, neu wahanu wrth ddefnyddio'r acen yn gywir. Awgrymaf mai defnyddio Glyndŵr ydy dilyn y ffurf Saesneg Glendower. Gweler Y Geiriadur Mawr a The Welsh Academy English-Welsh Dictionary (geiriadur Bruce) am y dewis safonol Glyn Dŵr. ApGlyndwr (sgwrs) 13:44, 14 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

Yn sicr mae angen cysondeb, nid yn unig drwy'r dudalen ond drwy wici. Mae na awdurdod uwch na geiriaduron (sgwrs yn y Caffi) - o fewn yr amryfal feysydd. Y maes yma ydy haes ganoloesol, a fe ddywedwn i mai'r llawiau go iawn yn fama ydy R. R. Davies, John Bwlch Llan a Tony Carr - ac mae'r tri'n defnyddio 'Owain Glyn Dŵr'. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:23, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Diolch - mae hyn yn datblygu'n ddiddorol. Tybed a oes posib newid pennawd y dudalen i 'Owain Glyn Dŵr' a chyfeirio ato yn yr erthygl fel 'Owain' yn lle 'Glyndŵr'? Awgrymaf fod 'Glyn Dŵr' yn deitl yn hytrach na chyfenw, yn cyfeirio at ardal a gwell fyddai hepgor y teitl mewn enwau disgynyddion e.e. 'Madog ab Owain'. Gellid ychwanegu 'ap Gruffudd' yn ôl yr arferiad canoloesol i ddiffinio'r llinach. Ydy hyn yn gwneud synnwyr? ApGlyndwr (sgwrs) 10:42, 19 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Cytuno, ar wahân i'r defnydd o'r gair 'Glyn Dŵr' 'yn cyfeirio at ardal' gan mai ffurf diweddar yw hwn sydd hefyd yn gysylltiedig gyda chorff ee 'Cyngor Dosbarth Glyn Dŵr'. Mae ein defnydd o enwau personol yng nghorff yr erthygl yn dra gwahanol i en, ble mae nhw'n glynnu'n glos at alw'r person yn ol ei gyfenw. Yma, mae'n debycach i 'ti' a 'chi'! hynny yw, sonir am 'Darwin' yn yr erthygl ar Charles Darwin a 'Dafydd' yn yr erthygl ar Ddafydd ap Gwilym. Cyn belled ein bod yn gyson o fewn yr un erthygl, yna does dim problem. I ddod nol at dy gynigion, fel dw i'n dweud, dw i'n cytuno, ond dal dy afael am wythnos i weld sut mae'r gwynt yn chwythu; efallai y bydd gan ddefnyddwyr eraill awgrymiadau gwell na fi. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:12, 20 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Dwi ddim yn gweld llawer o gysondeb mewn llyfrau Cymraeg (a Chymreig). Mae nifer o ysgolheigion digon parchus yn defnyddio'r ffurf 'Glyndŵr' - sy'n gywirach na 'Glyndwr' yn fy marn am fod yr acen ar yr ail elfen - ac eraill yn arfer 'Glyn Dŵr'. 'Glyndyfrdwy' yw enw hanesyddol yr ardal, wrth gwrs. Pryd ddaeth y talfyriad i fod dwi ddim yn gwybod, ond mae Iolo Goch yn cyfeirio at y gwron fel "Owain... / ...rhwy (arglwydd) Glyndyfrdwy dyfrdir" ac yn aml ceir 'Owain' yn unig neu rywbeth fel 'Owain, glain y Glyn' ac ati. Sôn am Iolo Goch, 'Owain Glyndŵr' sy gan ei olygydd diweddaraf (Dafydd Johnston, 1988). 'Owain Glyndŵr' sy gan Gwynfor Evans yn ei gyfrol Aros Mae hefyd. Felly hefyd y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru. Mi fydd anghytuno felly waeth pa ffurff 'dan ni'n dewis... Anatiomaros (sgwrs) 23:58, 1 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Mae’n debyg mai dilyn chwiwiau sy’n gyfrifol am yr enw 'Glyndŵr'. Mae Cymry’r oes bresennol yn caniatáu’r arferiad o ddefnyddio’r acen grom i gyfleu llafariad hir mewn achosion amheus, heb ystyried canllawiau’r gramadegwyr o’r ganrif ddiwethaf. Wrth gwrs, mae’n rhaid derbyn datblygiadau mewn iaith, a symud gyda’r oes, ac mae’n ddigon posib mai datblygiad felly a roes yr enw 'Glyn Dŵr' yn lle 'Glyndyfrdwy'. Yn anffodus, er bod yr enw cywasgedig 'Glyndŵr' yn eithaf derbyniol fel delwedd gyfoes, mae hefyd yn dilyn y drefn o gyfenwau Seisnig yn slafaidd. Tybed a fyddai 'Owen Glen–Dower' wedi bod yn well i gyfleu llinach grachaidd yn hytrach nag 'Owen Glendower'? ApGlyndwr (sgwrs) 12:36, 3 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Cynnig Owain Glyn Dŵr yn yr erthygl arno, gyda chyfeiriad at yr enwau eraill ar y dechrau. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:31, 4 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Dwi'n eilio hynny, ac yn gofyn am ystyriaeth mai cyfeirio at 'Owain' fyddai'n well drwy'r erthygl, yn hytrach na 'Glyndŵr'. ApGlyndwr (sgwrs) 10:42, 4 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Dwi'n cefnogi'r cynnig ac yn eilio'r "gwelliant" o gadw at 'Owain' drwy'r erthygl. O ddiddordeb, yn ei gyfrol Crwydro Gorllewin Dinbych' (1969), mae Frank Price Jones yn cyfeirio at Bwrdd y Tri Arglwydd hefyd fel Carreg Glyn Dŵr a'r dyn ei hun fel 'Owain Glyn Dŵr'. Ond, mae hefyd yn cyfeirio at 'Glyn Dyfrdwy' a 'Bryn Eglwys', y ddau erbyn hyn yn 'Glyndyfrdwy' a 'Bryneglwys'. Tra bod datblygiad enwau lleoedd sy'n bodoli yn naturiol, dwi'm yn meddwl ei fod yn naturiol i enw person parhau i 'ddatblygu' wedi eu marwolaeth. Cymrodor (sgwrs) 10:06, 7 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Byddai’n syniad i beidio eithrio 'Owen Glendower' wrth restru’r enwau yn y frawddeg agoriadol. Hefyd, byddaf yn barod i ymgymryd â golygu’r erthygl pe bai un o’r gweinyddwyr yn cychwyn y gwaith. ApGlyndwr (sgwrs) 13:04, 7 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Beth am y canlynol i agor yr erthygl?

Yn ddisgynnydd i dywysogion Powys, Owain Glyn Dŵr neu Owain ap Gruffudd (1354 - tua 1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Defnyddir yr enw Owain Glyndŵr hefyd, ac Owen Glendower yn Saesneg. ApGlyndwr (sgwrs) 13:00, 8 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Cytuno â hyn. (ON: Mae'n ddiddorol gweld – o'r nodyn awdurdod ar droed yr erthygl – bod llyfrgelloedd cenedlaethol yr Almaen ac America, a llyfrgelloedd prifysgolion Ffrainc, yn ystyried mai "Owen Glendower" yw'r ffurf safonol. Mae'r "ffeiliau awdurdodi" rhyngwladol ar ei hôl hi – mae Wicipedia ym mhob iaith ond un yn ei alw'n "Owain Glyndŵr", ac "Owain ap Gruffydd" sydd gan y Catalwniaid! Wedyn, yn groes i'r gweddill, "Owain Glyn Dŵr" sydd yn yr ODNB, a hynny mae'n siwr am mai Cymraes sydd wedi ysgrifennu'r erthygl yno.) Ham II (sgwrs) 16:16, 8 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Dyna ddiddorol, Ham II! A diolch i ApGlyndwr am godi'r sgwarnog tywysogaidd yma! Ham - mae angen rhoi hyn ar yr erthygl, neu ar yr erthygl am Wicipedia Cymraeg! Cytuno mai mewn tair rhan y dylai fod. Syndod fel mae geiriau'n newid dros y blynyddoedd! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:46, 8 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Rwyf wedi golygu’r erthygl yn ôl yr awgrymiadau uchod. Wrth gwrs, mae hyn yn achosi’r angen i gymhwyso mewn mannau eraill e.e. y pennawd a’r dolenni at erthyglau eraill ar Wici (a Wikipedia efallai). Gobeithiaf fod hyn yn bosib. ApGlyndwr (sgwrs) 10:02, 15 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Diolch am dy waith trwyadl! Newidiwyd y teitl; erys y gwaith o newid yr enw ar erthyglau eraill. Mae ar fy rhestr! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:57, 16 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Dwi'n dallt bod penderfyniad wedi ei gymryd, ond does dim drwg ychwanegu ffynhonnell aros i gryfhau'r achos. Mae Heini Gruffudd yn defnyddio "Owain Glyn Dŵr" yn ei gyfrol Enwau'r Cymry (Welsh First Names) (Y Lolfa, 2003). --Cymrodor (sgwrs) 09:43, 16 Hydref 2015 (UTC)Ateb

Dyddiad geni golygu

Mae Hafina Clwyd yn ei chyfrol Rhywbeth bob dydd yn nodi 28 Mai 1349 fel dyddiad geni. Does ganddi ddim ffynhonnell. Unrhyw syniad? Llywelyn2000 (sgwrs) 22:24, 23 Mai 2017 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Owain Glyn Dŵr".