Pêl-droed yng Nghymru 2014-15
Tymor 2014-15 ydi'r 130ain tymor i dîm cenedlaethol Cymru, 23ain tymor yn hanes Uwch Gynghrair Cymru a'r 128fed tymor o Gwpan Cymru.
Pêl-droed yng Nghymru 2014-15 | |||
---|---|---|---|
Uwch Gynghrair Cymru | Y Seintiau Newydd | ||
Cwpan Cymru | Y Seintiau Newydd | ||
Cwpan Word | Y Seintiau Newydd | ||
|
Timau Cenedlaethol Cymru
golyguDynion
golyguGyda Chris Coleman wrth y llyw, cychwynodd Cymru eu hymgyrch i gyrraedd Euro 2016 yn Ffrainc. Cymru oedd y pedwerydd detholyn yng Ngrŵp B[1] gyda Bosnia a Hercegovina, Gwlad Belg, Israel, Cyprus ac Andorra hefyd yn y grŵp[2].
Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru wynebu Andorra mewn gêm bêl-droed ar y lefel uchaf.
Capiau cyntaf
golyguCasglodd Jake Taylor[3] ei gap cyntaf dros Gymru yn ystod y tymor.
Canlyniadau
golyguEuro 2016 Grŵp B Gêm 1 |
9 Medi 2014 |
Andorra | 1 – 2 | Cymru |
---|---|---|
Lima 6' (c.o.s.) | (Saesneg) Manylion | Bale 22', 81' |
Euro 2016 Grŵp B Gêm 3 |
13 Hydref 2014 |
Cymru | 2 – 1 | Cyprus |
---|---|---|
Cotterill 13' Robson-Kanu 23' |
(Saesneg) Manylion | Laban 36' |
Merched
golyguGorffenodd Cymru, o dan reolaeth Jarmo Matikainen, yn drydydd yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2015 yng Nghanada. Cymru oedd y pedwerydd detholyn yng Ngrŵp 6[4] gyda Lloegr, Wcrain, Belarws, Twrci a Montenegro hefyd yn y grŵp.
Ym mis Ionawr 2014, cyhoeddodd Matikainen y byddai'n gadael ei swydd gyda Chymru wedi i'r ymgyrch ddod i ben[5] ac ym mis Hydref 2014, penodwyd Jayne Ludlow yn olynydd iddo fel rholwr y timau merched cenedlaethol[6].
Canlyniadau
golyguCwpan y Byd 2015 Grŵp 6 Gêm 9 |
21 Awst 2014 |
Cymru | 0 – 4 | Lloegr |
---|---|---|
(Saesneg) Adroddiad | Carney 16' Aluko 39' Bassett 44' Sanderson 45' |
Grŵp 6
golyguGrŵp Rhagbrofol 6 yng ngemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2015 yng Nghanada
Tîm | Ch | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1. | Lloegr | 10 | 10 | 0 | 0 | 52 | 1 | +51 | 30 |
2. | Wcrain | 10 | 7 | 1 | 2 | 34 | 29 | +5 | 22 |
3. | Cymru | 10 | 6 | 1 | 3 | 18 | 9 | +9 | 19 |
4. | Twrci | 10 | 4 | 0 | 6 | 12 | 31 | -19 | 12 |
5. | Belarws | 10 | 2 | 0 | 8 | 12 | 31 | -19 | 6 |
5. | Montenegro | 10 | 0 | 0 | 10 | 6 | 53 | -47 | 0 |
Llwyddodd Lloegr i gyrraedd Cwpan y Byd 2015 yng Nghanada gyda Wcrain yn colli yn erbyn Yr Eidal yn y gemau ail gyfle.
Clybiau Cymru yn Ewrop
golyguRoedd Aberystwyth yn cynrychioli Cymru yn Ewrop am y tro cyntaf ers ymddangos yn Nhlws Intertoto 2003-04 gydag Airbus UK yn ymddangos yn y gystadleuaeth am yr ail flwyddyn o'r bron a Bangor yn ymddangos yn Ewrop am y 15ed tro. Colli yn drwm oedd hanes Aberystwyth a Bangor yn erbyn Derry City o Gynghrair Iwerddon a Stjarnan o Wlad yr Iâ ond roedd Airbus UK yn anlwcus i golli o 3-2 dros y ddau gymal yn erbyn FK Haugesund o Norwy.
Yng Nghynghrair y Pencampwyr, roedd Y Seintiau Newydd yn ymddangos yn Ewrop am y 15ed tymor o'r bron ond colli 3-0 dros y ddau gymal yn erbyn ŠK Slovan Bratislava o Slofacia oedd eu hanes. Llwyddodd Scott Ruscoe i dorri'r record am y nifer fwyaf o ymddangosiadau yn Ewrop gan chwaraewr o Uwch Gynghrair Cymru pan ddaeth i'r maes yn ystod y cymal cyntaf o'r gêm yn erbyn Slovan Bratislava i wneud ei 30ed ymddangosiad Ewropeaidd.
Yng Nghynghrair Pencampwyr y Merched roedd Met Caerdydd yn cynrychioli Cymru am yr ail dro ar ôl cipio Uwch Gynghrair Merched Cymru 2013-14. Daeth Met Caerdydd allan o'r het i wynebu Atlético Ouriense o Bortiwgal, Standard Liège o Wlad Belg a Phrifysgol Tel Aviv o Israel gyda'r gemau yn cael eu cynnal ym Mhortiwgal.
Cynghrair Y Pencampwyr
golyguAil Rownd Rhagbrofol
golygu15 Gorffennaf 2014 18:45 |
ŠK Slovan Bratislava | 1 – 0 | Y Seintiau Newydd |
---|---|---|
Erik Čikoš 52' | (Saesneg) Adroddiad |
2 Gorffennaf 2014 1:45 |
Y Seintiau Newydd | 0 – 2 | ŠK Slovan Bratislava |
---|---|---|
(Saesneg) Adroddiad | Milinković 74', 89' |
ŠK Slovan Bratislava yn ennill 3-0 dros ddau gymal
Cynghrair Europa
golyguRownd Rhagbrofol Gyntaf
golygu10 Gorffennaf 2014 18:00 |
FK Haugesund | 2 – 1 | Airbus UK |
---|---|---|
Agdestein 7' Sema 56' |
(Saesneg) Adroddiad | Pearson 14' |
FK Haugesund yn ennill 3-2 dros ddau gymal
3 Gorffennaf 2014 19:45 |
Derry City | 4 – 0 | Aberystwyth |
---|---|---|
McEleney 15' Patterson 25' (c.o.s.) Timlim 47' B. McNamee 86' |
(Saesneg) Adroddiad |
10 Gorffennaf 2014 19:45 |
Aberystwyth | 0 – 5 | Derry City |
---|---|---|
(Saesneg) Adroddiad | Duffy 11' B. McNamee 14' Patterson 60', 84', 86' (c.o.s.) |
Derry City yn ennill 9-0 dros ddau gymal
3 Gorffennaf 2014 20:15 |
Stjarnan | 4 – 0 | Bangor |
---|---|---|
Finsen 14' (c.o.s.), 54' Gunnarsson 16' Björgvinsson 70' |
(Saesneg) Adroddiad |
10 Gorffennaf 2014 19:45 |
Bangor | 0 – 4 | Stjarnan |
---|---|---|
(Saesneg) Adroddiad | Rauschenburg 53' Björgvinsson 70', 81' A. Jóhannsson 85' |
Stjarnan yn ennill 8-0 dros ddau gymal
Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA
golygu9 Awst 2014 17:00 |
Prifysgol Tel Aviv | 2 – 0 | Met Caerdydd |
---|---|---|
Lavi 34' (c.o.s.) Shenar 85' |
(Saesneg) Adroddiad |
11 Awst 2014 17:00 |
Standard Liège | 10 – 0 | Met Caerdydd |
---|---|---|
Zeler 45', 54', 56', 58' Lewerissa 25' Coutereels 33', 83' De Gernier 74' |
(Saesneg) Adroddiad |
14 Awst 2014 17:00 |
Met Caerdydd | 2 – 1 | Atlético Ouriense |
---|---|---|
Allen 35' Sargeant 90' |
(Saesneg) Adroddiad | Coelho 14' |
Grŵp 8
golyguGrŵp Rhagbrofol 8 yn rownd rhagbrofol Cynghrair Pencampwyr y Merched
Tîm | Ch | E | Cyf | C | + | - | GG | Pt | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1. | Atlético Ouriense | 3 | 2 | 0 | 1 | 4 | 3 | +1 | 6 |
2. | Standard Liège | 3 | 2 | 0 | 1 | 11 | 1 | +10 | 6 |
3. | Prifysgol Tel Aviv | 3 | 1 | 0 | 2 | 3 | 3 | 0 | 3 |
4. | Met Caerdydd | 3 | 1 | 0 | 2 | 2 | 13 | -11 | 3 |
Uwch Gynghrair Cymru
golyguCychwynodd tymor Uwch Gynghrair Cymru ar 22 Awst 2014 gyda Derwyddon Cefn yn cymryd eu lle ymysg y 12 Disglair ar ôl sicrhau dyrchafiad o Gynghrair Undebol Huws Gray gyda Lido Afan yn colli eu lle yn yr Uwch Gynghrair ar ôl gorffen ar waelod tabl 2013-14. Gan nad oedd clybiau Trefynwy na Ffynnon Taf, a orffennodd yn safleoedd dyrchafiad Cynghrair McWhirter's De Cymru, wedi sicrhau Trwydded Ddomestig, cadwodd Prestatyn eu lle yn yr Uwch Gynghrair er gorffen yn safleoedd y cwymp yn nhymor 2013-14[7].
Llwyddodd Y Seintiau Newydd i gipio'r bencampwriaeth am y nawfed tro yn eu hanes[8] gyda'r Bala yn sicrhau yr ail safle a'u lle yng Nghynghrair Europa ar gyfer tymor 2015-16.
Saf |
Tîm |
Ch |
E |
Cyf |
Coll |
+ |
- |
GG |
Pt |
Cyrraedd Ewrop neu ddisgyn |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Y Seintiau Newydd (P) | 32 | 23 | 8 | 1 | 90 | 24 | +66 | 77 | Rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Pencampwyr Uefa 2015-16 |
2 | Y Bala | 32 | 18 | 5 | 9 | 67 | 42 | +25 | 59 | Rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Europa Uefa 2015-16 |
3 | Airbus UK | 32 | 18 | 4 | 10 | 62 | 34 | +28 | 58 | |
4 | Aberystwyth | 32 | 14 | 10 | 8 | 69 | 61 | +8 | 52 | Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa |
5 | Port Talbot | 32 | 13 | 4 | 15 | 46 | 48 | −2 | 43 | |
6 | Y Drenewydd (G) | 32 | 11 | 5 | 16 | 43 | 49 | −6 | 38 | |
7 | Cei Connah | 32 | 11 | 10 | 11 | 44 | 53 | −9 | 43 | Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa |
8 | Y Rhyl | 32 | 11 | 9 | 12 | 41 | 49 | −8 | 42 | |
9 | Caerfyrddin | 32 | 12 | 6 | 14 | 48 | 57 | −9 | 42 | |
10 | Bangor | 32 | 9 | 8 | 15 | 48 | 62 | −14 | 35 | |
11 | Derwyddon Cefn (C) | 32 | 7 | 6 | 19 | 38 | 64 | −26 | 27 | Cwympo i Gynghrair Huws Gray |
12 | Prestatyn (C) | 32 | 4 | 6 | 22 | 43 | 86 | −43 | 18 |
Source: Sgorio
Rheolau ar gyfer dethol safleoedd:
1) pwyntiau; 2) gwahaniaeth goliau; 3) goliau o blaid.
(P) = Pencampwyr; (C) = Cwympo; (D) = Dyrchafiad; (Y) = Ymadael o'r gystadleuaeth; (G) = Ennill gemau ail gyfle; (A) = Camu ymlaen i'r rownd nesaf.
Gemau Ail Gyfle Cynghrair Europa
golyguGan fod Y Seintiau Newydd wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair y Pencampwyr yn ogystal ag ennill Cwpan Cymru llwyddodd Airbus UK, orffennodd yn drydydd, i sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa ac osgoi'r gemau ail gyfle. O'r herwydd, cyfarfu Aberystwyth, orffennodd yn bedwerydd, gyda Cei Connah oedd yn seithfed tra bo Port Talbot, oedd yn bumed, yn wynebu Y Drenewydd orffennodd yn chweched.
Roedd buddugoliaeth Y Drenewydd yn y rownd derfynol yn sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europ ar gyfer tymor 2015-16.
- Rownd Gynderfynol
10 Mai 2014 12:45 |
Aberystwyth | 3-2 | Cei Connah |
---|---|---|
Venables 19' (c.o.s.) S. Evans 84' (g.e.h.) Jones 90+2' |
Uchafbwyntiau | Miller 15' S. Evans 69' |
- Rownd Derfynol
17 Mai 2014 12:45 |
Aberystwyth | 1-2 | Y Drenewydd |
---|---|---|
Venables 28' (c.o.s.) | Uchafbwyntiau | Goodwin 9' Hearsey 43' |
Cwpan Cymru
golyguCafwyd 205 o dimau yng Nghwpan Cymru 2014-15[9] gyda'r Y Drenewydd yn llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf ers 1896-97[10] , ond cipiodd Y Seintiau Newydd y trebl ddomestig â dwy gôl gan Matty Williams.
Rownd yr Wyth Olaf | Rownd Gynderfynol | Rownd Derfynol | ||||||||
7 Mawrth, Stadiwm Glannau Dyfrdwy | ||||||||||
Cei Connah | 0 | |||||||||
5 Ebrill Parc Latham | ||||||||||
Y Seintiau Newydd | 1 | |||||||||
Y Seintiau Newydd | 4 | |||||||||
7 Mawrth Coedlan y Parc | ||||||||||
Airbus UK | 2 | |||||||||
Aberystwyth | 1 (2) | |||||||||
2 Mai, Parc Latham | ||||||||||
Airbus UK (c.o.s.) | 1 (4) | |||||||||
Y Seintiau Newydd | 2 | |||||||||
7 Mawrth, Nantporth | ||||||||||
Y Drenewydd | 0 | |||||||||
Bangor | 1 | |||||||||
5 Ebrill Y Graig | ||||||||||
Y Drenewydd | 2 | |||||||||
Y Drenewydd | '2 | |||||||||
8 Mawrth, Parc Waun Dew | ||||||||||
Y Rhyl | 1 | |||||||||
Caerfyrddin | 1 | |||||||||
Y Rhyl | 2 | |||||||||
Rownd Derfynol
golyguCwpan Word
golyguRoedd 28 o dimau yng Nghwpan Word 2014-15[11] gyda'r Barri, Dinbych, Llanidloes a Merthyr yn ymuno â chlybiau Uwch Gynghrair Cymru a chwe chlwb o Gynghrair Huws Gray a Chynghrair Cymru'r De yn y rownd gyntaf.
Rownd yr Wyth Olaf | Rownd Gynderfynol | Rownd Derfynol | ||||||||
23 Medi, Maes Tegid | ||||||||||
Y Bala | 3 | |||||||||
18 Tachwedd, Maes Tegid | ||||||||||
Llandudno | 1 | |||||||||
Y Bala | 2 | |||||||||
23 Medi, Gerddi Bastion | ||||||||||
Prestatyn | 0 | |||||||||
Prestatyn | 1 | |||||||||
25 Ionawr, Parc Latham | ||||||||||
Bangor | 0 | |||||||||
Y Bala | 0 | |||||||||
23 Medi, Neuadd y Parc | ||||||||||
Y Seintiau Newydd | 3 | |||||||||
Y Seintiau Newydd | 3 | |||||||||
18 Tachwedd, Neuadd y Parc | ||||||||||
Penybont | 0 | |||||||||
Y Seintiau Newydd (w.a.y.) | 2 | |||||||||
24 Medi, Stadiwm Genquip | ||||||||||
Port Talbot | 1 | |||||||||
Port Talbot | 2 | |||||||||
Merthyr | 1 | |||||||||
Rownd Derfynol
golyguUwch Gynghrair Merched Cymru
golyguTabl Uwch Gynghrair Merched Cymru
Saf |
Tîm |
Ch |
E |
Cyf |
Coll |
+ |
- |
GG |
Pt |
Cyrraedd Ewrop neu ddisgyn |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Met Caerdydd (P) | 20 | 16 | 2 | 2 | 97 | 11 | +86 | 50 | Cynghrair Pencampwyr y Merched Uefa 2015-16 |
2 | Merched Dinas Abertawe | 20 | 16 | 2 | 2 | 73 | 16 | +57 | 50 | |
3 | Pontyfelin (PILCS) | 20 | 14 | 1 | 5 | 69 | 35 | +34 | 43 | |
4 | Dinas Caerdydd | 20 | 13 | 3 | 4 | 60 | 24 | +36 | 42 | |
5 | Merched Port Talbot | 20 | 9 | 3 | 8 | 36 | 31 | +5 | 30 | |
6 | Merched Wrecsam | 20 | 9 | 2 | 9 | 42 | 40 | +2 | 29 | |
8 | Merched Celtiaid Cwmbrân | 20 | 7 | 4 | 9 | 48 | 42 | +6 | 25 | |
9 | Merched Llandudno | 20 | 8 | 1 | 11 | 31 | 45 | −14 | 25 | |
10 | Merched Rhyl a Phrestatyn | 20 | 6 | 0 | 14 | 23 | 74 | −51 | 18 | |
11 | Castell Newydd Emlyn | 20 | 3 | 0 | 17 | 24 | 92 | −68 | 9 | |
12 | Merched Aberystwyth | 20 | 1 | 0 | 19 | 13 | 106 | −93 | 3 |
Source: Sgorio
Rheolau ar gyfer dethol safleoedd:
1) pwyntiau; 2) gwahaniaeth goliau; 3) goliau o blaid.
(P) = Pencampwyr; (C) = Cwympo; (D) = Dyrchafiad; (Y) = Ymadael o'r gystadleuaeth; (G) = Ennill gemau ail gyfle; (A) = Camu ymlaen i'r rownd nesaf.
Cwpan Merched Cymru
golyguCafwyd 23 o glybiau yn cystadlu yng Nghwpan Merched Cymru ar gyfer 2014-15[12] gyda Merched Dinas Abertawe yn cipio'r tlws am yr ail dro yn eu hanes.
Rownd yr Wyth Olaf | Rownd Gynderfynol | Rownd Derfynol | ||||||||
15 Chwefror | ||||||||||
Llandudno | 1 | |||||||||
22 Mawrth | ||||||||||
Merched Cyncoed (w.a.y.) | 3 | |||||||||
Merched Dinas Abertawe | 5 | |||||||||
15 Chwefror | ||||||||||
Merched Cyncoed | 0 | |||||||||
Merched Dinas Abertawe | 1 | |||||||||
19 Ebrill | ||||||||||
Met Caerdydd | 0 | |||||||||
Dinas Caerdydd | 2 | |||||||||
15 Chwefror | ||||||||||
Merched Dinas Abertawe | 4 | |||||||||
Merched Wrecsam(w.a.y.) | 3 | |||||||||
22 Mawrth | ||||||||||
Merched Pontypridd | 2 | |||||||||
Merched Wrecsam | 1 | |||||||||
15 Chwefror | ||||||||||
Dinas Caerdydd (w.a.y.) | 4 | |||||||||
Dinas Caerdydd | 5 | |||||||||
Dinbych | 0 | |||||||||
Rownd Derfynol
golygu19 Ebrill 2015 17:30 |
Dinas Caerdydd | 2-4 | Merched Dinas Abertawe |
---|---|---|
Martins 25' Bird 66' |
(Saesneg) adroddiad | Hosford 14', 45' Adams 43', 87' |
Super Cup Uefa
golyguCynhaliwyd Super Cup Uefa yn Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd ar 12 Awst rhwng deiliaid Cynghrair y Pencampwyr, Real Madrid a deiliad Cynghrair Europa, Sevilla.
Gwobrau
golyguUwch Gynghrair Cymru
golyguRheolwr y Flwyddyn: Craig Harrison (Y Seintiau Newydd)[13]
Chwaraewr y Flwyddyn: Chris Venables (Aberystwyth)[13]
Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: Sean Miller (Cei Connah)[13]
Uwch Gynghrair Merched Cymru
golyguChwaraewr y Flwyddyn: Ellie Sargent (Met Caerdydd)[14]
Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: Chloe Lloyd (Merched Dinas Abertawe)[14]
Marwolaethau
golygu- 23 Tachwedd 2014: John Neal, 82, cyn chwaraewr Hull City, Swindon Town, Aston Villa a Southend United a chyn reolwr Wrecsam, Middlesbrough a Chelsea.[15]
- 26 Mawrth 2015: Ian Moir, 71, cyn chwaraewr Manchester United, Blackpool, Dinas Caer, Wrecsam ac Amwythig.[16]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "UEFA EURO 2016 Qualifying Draw Procedure" (pdf). Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Qualifying Draws". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Wales 2-1 Cyprus". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Women's World Cup qualifying draw made". uefa.com. 2013-04-16.
- ↑ "Wales boss Jarmo Matikainen could stay on". 2014-08-14. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Penodi Ludlow'n reolwraig ar dimau'r merched". 2014-10-6. Unknown parameter
|published=
ignored (help); Check date values in:|date=
(help) - ↑ "Prestatyn lose out but get a reprieve". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Y Seintiau yn selio'r tlws". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Welsh Cup results". Unknown parameter
|published=
ignored (help)[dolen farw] - ↑ "Welsh Cup Final 1897". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Word Cup Draw and Wildcards Announced". Unknown parameter
|published=
ignored (help)[dolen farw] - ↑ "FAW Women's Cup 2014/15". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-08. Cyrchwyd 2015-01-27. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ 13.0 13.1 13.2 "Venners retains player of the season trophy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-15. Cyrchwyd 2015-06-15. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ 14.0 14.1 "Welsh Premier Women's League end-of-season awards showcases best of the game". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Tributes paid to former Wrexham FC manager John Neal who has died at the age 82". Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ "Ian Moir: Tributes to former Wrexham FC midfield star". Unknown parameter
|published=
ignored (help)
Wedi'i flaenori gan: Tymor 2013-14 |
Pêl-droed yng Nghymru Tymor 2014-15 |
Wedi'i olynu gan: Tymor 2015-16 |