Simone Biles
Gymnast artistig o'r Unol Daleithiau yw Simone Arianne Biles Owens (ganwyd 14 Mawrth 1997). Mae ganddi 10 medal Olympaidd a 30 medal o Bencampwriaeth y Byd. Mae hi'n cael ei chydnabod fel y gorau erioed yn gymnasteg.
Simone Biles | |
---|---|
Ganwyd | Simone Arianne Biles 14 Mawrth 1997 Columbus |
Man preswyl | Spring |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | jimnast artistig |
Taldra | 142 centimetr |
Priod | Jonathan Owens |
Partner | Jonathan Owens |
Gwobr/au | Associated Press Athlete of the Year, Associated Press Athlete of the Year, Gwobr Time 100, Gwobr 100 Merch y BBC, Medal Rhyddid yr Arlywydd |
Gwefan | http://www.simonebiles.com |
Chwaraeon | |
Tîm/au | United States women's national gymnastics team |
Gwlad chwaraeon | Unol Daleithiau America |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Biles yn Columbus, Ohio, y trydydd o bedwar plentyn.[1] Roedd hi a'i brodyr a chwiorydd yn mynd mewn ag allan o ofal rhieni maeth. Yn 2003, cafodd ei mabwysiadu gan ei thadcu a mamgu. Dechreuodd gymnasteg pan oedd yn chwech oed.
Mynychodd Biles Ysgol Benfer yn Texas. Yn 2012, dechreuodd Biles cael addysg adref er mwyn codi ei hamser hyfforddi o 20 awr yr wythnos i 32.
Gyrfa
golyguYng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn Rio de Janeiro, cipiodd y fedal aur gyda thîm Unol Daleithiau America, ac yn y gystadleuaeth gyffredinol, ac ar y llofnaid a'r llawr. Enillodd y fedal efydd ar y trawst. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Tokyo, tynnodd yn ôl o'r cystadlu oherwydd cafodd y 'twisties' (sef colli hyder). Enillodd y fedal arian gyda thîm Unol Daleithiau America ac efydd ar y trawst. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 ym Mharis,[2] hi oedd yr Americanes gyntaf i ennill dwy fedal aur gyffredinol ac ar y llofnaid.[3] Enillodd Biles y fedal aur hefyd gyda thîm Unol Daleithiau America.
Mae Biles wedi ennill Cystadleuaeth unigol gyffredinol 6 gwaith (2013, 2014, 2015, 2018, 2019 a 2023) ym Mhencampwriaeth y Byd Gymnasteg Arsistig. Mae hi'n bencampwr llawr y byd 6 gwaith (2013, 2014, 2015, 2018, 2019, 2023), pencampwr trawst y byd 4 gwaith (2014, 2015, 2019, 2023), pencampwr llofnaid y byd 2 waith (2018, 2019). Roedd hi'n rhan o dîm Unol Daleithiau America a enillodd y fedal aur yn 2014, 2015, 2018, 2019 a 2023.
Yn 2019, torrodd Biles y record am y nifer fwyaf o fedalau Pencampwriaeth y Byd. Yn 2024, roedd ganddi 30 medal Pencampwriaeth y Byd.
Yn 2022, gwobrwyodd Joe Biden arlywydd y Unol Daleithiau America Medal Rhyddid yr Arlywydd iddi.[4]
Hanes Cystadlu
golyguCystadlaethau iau
golyguBlwyddyn | Digwyddiad | Tîm | Yn
Gyffredinol |
Llofnaid | Barrau | Trawst | Llawr |
---|---|---|---|---|---|---|---|
2011 | American Classic | 8 | 4 | ||||
U.S. Classic | 20 | 5 | 5 | ||||
Pencampwriaeth U.D.A. | 14 | 7 | 22 | 10 | 12 | ||
2012 | U.S. Classic | 6 | |||||
Pencampwriaeth U.D.A. | 6 | 6 | 6 |
Cystadleuthau hŷn
golyguBlwyddyn | Digwyddiad | Tîm | Yn
Gyffredinol |
Llofnaid | Barrau anghyflin | Trawst | Llawr |
---|---|---|---|---|---|---|---|
2013 | Cwpan America | ||||||
City of Jesolo Trophy | |||||||
Chemnitz Friendly | |||||||
U.S. Classic | 7 | 8 | |||||
Pencampwriaeth U.D.A. | |||||||
Pencampwriaeth y Byd | 4 | ||||||
2014 | U.S. Classic | 4 | |||||
Pencampwriaeth U.D.A. | 4 | ||||||
Pencampwriaeth y Byd | |||||||
2015 | American Cup | ||||||
City of Jesolo Trophy | |||||||
U.S. Classic | 4 | ||||||
Pencampwriaeth U.D.A. | 5 | ||||||
Pencampwriaeth y Byd | |||||||
2016 | Pencampwriaeth Pacific Rim | ||||||
U.S. Classic | 5 | ||||||
Pencampwriaeth U.D.A. | 4 | ||||||
Treialon Gemau Olympaidd | 4 | 4 | |||||
Gemau Olympaidd | |||||||
2017 | heb gystadlu | ||||||
2018 | U.S. Classic | 10 | |||||
Pencampwriaeth U.D.A. | |||||||
Worlds Team Selection Camp | 4 | ||||||
Pencampwriaeth y Byd | |||||||
2019 | Cwpan Byd Stuttgart | ||||||
U.S. Classic | 5 | ||||||
Pencampwriaeth U.D.A. | |||||||
Worlds Team Selection Camp | 4 | ||||||
Pencampwriaeth y Byd | 5 | ||||||
2020 | heb gystadlu oherwydd pandemig COVID-19 | ||||||
2021 | U.S. Classic | 15 | |||||
Pencampwriaeth U.D.A. | |||||||
Treialon Gemau Olympaidd | |||||||
Gemau Olympaidd | |||||||
2022 | heb gystadlu | ||||||
2023 | U.S. Classic | ||||||
Pencampwriaeth U.D.A. | |||||||
Worlds Team Selection Camp | 13 | ||||||
Pencampwriaeth y Byd | 5 | ||||||
2024 | U.S. Classic | ||||||
Pencampwriaeth U.D.A. | |||||||
Treialon Gemau Olympaidd | 4 | ||||||
Gemau Olympaidd | 5 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Simone Biles". Olympics.
- ↑ "Tim UDA Paris 2024". Olympics.
- ↑ "Olympics gymnastics: Simone Biles wins vault for third gold medal of Paris 2024". BBC Sport (yn Saesneg). 2024-08-03. Cyrchwyd 2024-08-04.
- ↑ "Simone Biles". www.teamusa.com (yn Saesneg). 2023-02-25. Cyrchwyd 2024-08-04.