Edward Breese
Cyfreithiwr a hynafiaethydd o Gymru oedd Edward Breese (13 Ebrill 1835 - 10 Mawrth 1881).
Edward Breese | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1835 Caerfyrddin |
Bu farw | 10 Mawrth 1881 Penrhyndeudraeth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hynafiaethydd, cyfreithiwr |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Edward Breese yng Nghaerfyrddin 13 Ebrill 1835 yn ail fab i John Breese, gweinidog gyda'r Annibynwyr a Margaret Williams (chwaer i David Williams AS Castell Deudraeth). Cafodd ei dad alwad i wasanaethu capel yn Lerpwl ac yno y magwyd Edward am y mwyafrif o'i blentyndod.[1]
Byd y gyfraith
golyguCafodd ei addysg yng Ngholeg Lewisham cyn cael ei erthyglu yn swyddfa gyfreithiol ei ewyrth ym Mhorthmadog lle y cymhwysodd fel cyfreithiwr ym 1857. Ym 1859 olynodd ei ewythr fel Clerc yr Heddwch ar gyfer Sir Feirionnydd. Gan fod David Williams yn brif reolydd Ystâd William Alexander Madocks, bu Breese hefyd yn chware rhan bwysig yng nghynllunio a datblygu tref newydd Porthmadog.
Sefydlodd cwmni cyfreithiol Breese, Jones & Casson ym Mhorthmadog, lle ddaeth David Lloyd George i gyflawni ei erthyglau. Gwasanaethodd Breese fel asiant y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Meirionnydd yn ystod etholiad 1880.
Yr hynafiaethydd
golyguYsgrifennodd nifer o erthyglau i'r cylchgrawn hynafiaethol Archaeologia Cambrensis, a chylchgronau hynafiaethol eraill ond daeth yn fwyaf adnabyddus fel awdur, ar y cyd â Mr R M Wynne, Peniarth, o Kalendars of Gwynedd, cyfrol yn cynnwys rhestrau llawn o Raglawiaid, Custos Rotulorum, Siryfion, ac Aelodau Seneddol etholaethau Siroedd Môn, Caernarfon, Meirionnydd, a Bwrdeistrefi Caernarfon a Biwmares, a nifer o swyddi cyhoeddus eraill.[2] Mae'r gyfrol, a gyhoeddwyd ym 1873, yn parhau i gael ei ystyried yn waith safonol a dibynadwy hyd heddiw.[3]
Bywyd personol
golyguPriododd ym 1863 a Margaret Jane, merch Lewis Williams, Dolgellau, (Uchel siryf Sir Feirionnydd ym 1865). Bu iddynt chwech o blant (pedwar mab a dwy ferch). Bu un o'i feibion, Charles Edward Breese yn aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Gaernarfon o 1918 i 1922.
Bu farw 10 Mawrth 1871 a'i gladdu ym mynwent eglwys Penrhyndeudraeth ar y 15fed o'r un mis.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Breese, Edward", yn Eminent Welshmen (1908); adalwyd 17 Chwefror 2014
- ↑ Kalendars of Gwynedd gan Edward Breese ac R M Wynne; J. C. Hotten ynys Môn 1873
- ↑ Breese, Edward yn y Bywgraffiadur ar lein