Statud Ymreolaeth Galisia (1936)
- Gofal: Cafwyd Statud Ymreolaeth diweddarach yn 1981.
Statud a ddiffiniodd annibyniaeth i Galisia ac a grewyd gan Partido Galeguista (neu 'Blaid Galisia') ym 1936 yw Statud Ymreolaeth Galisia (1936). Fe'i derbyniwyd yn bennaf gan iddo gael ei gynnig yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ond ni ddaeth i rym oherwydd Llywodraeth unbeniaethol Sbaen, dan arweiniad Francisco Franco.
Yr ysbrydoliaeth gwreiddiol y tu ôl i'r Statud oedd y Mudiad Gweriniaethol dros Annibyniaeth Galisia (Organización Republicana Gallega Autónoma (neu'r ORGA)) a'r cenedlaetholwyr Villar Ponte a Lois Peña Novo.[1][1] Ond erbyn diwedd 1932, cymrwyd y gwaith drosodd gan 'Gynulliad y Rhabarthau' a'r blaid genedlaethol, y 'Partido Galeguista', a baratodd y drafft terfynol. Ar gychwyn y 1930au awgrymodd sawl person y byddai datganoli pwer, drwy greu clwstwr ffederal o wledydd yn fanteisiol i Sbaen hefyd.[2]
Yn 1932 galwodd Raimundo López Pol, Maer Santiago de Compostela, cynghorwyr holl Ranbarthau Galisia at ei gilydd i drafod y drafft hwn ac yn Rhagfyr y flwyddyn honno, fe'i derbyniwyd gan gynrychiolwyr 84.7% o'r boblogaeth. Ar 28 Mehefin, cafwyd Refferendwm cenedlaethol ar y fersiwn terfynol a chafwyd 993,351 o bleidleisiau o'i blaid, sef 74.56 o'r etholaeth a dim ond 6161 yn ei erbyn. O'r dinasyddion hynny a fwrwodd eu pleidlais, roedd 99% o blaid Annibyniaeth. Ar 15 Gorffennaf, fe'i cyflwynwyd gan Román Gómez (Ysgrifennydd Cyffredinol Partido Galleguista) ac AS Castelao i Lywydd y Llywodraeth.[3]
Roedd y Statud yn gwneud y Galisieg a'r Sbaeneg yn ieithoedd swyddogol, a nodwyd y byddai'n rhaid i weision sifil allu'r ddwy iaith.[4] Rhoddai hefyd yr hawl i Galisia ethol ei senedd ei hun a bod yn gyfrifol am ei system etholaethol ei hun yn ogystal â chodi trethi ayb.[5]
Ni ddaeth y Statud i rym, fodd bynnag, oherwydd Llywodraeth unbeniaethol Sbaen, dan arweiniad Francisco Franco.
Y Cyd-destun Ewropeaidd
golyguI'w roi yn ei gyd-destun Ewropeaidd: ar 21 Ionawr 1919 cafwyd Cyhoeddiad o Annibyniaeth Dáil Éireann (Gweriniaeth Iwerddon), ffurfiwyd Plaid Cymru yn 1925 a llosgwyd Penyberth ar 8 Medi 1936. Ffurfiwyd Plaid Genedlaethol yr Alban yn 1934 ac yn 1931 daeth Esquerra Republicana de Catalunya (Plaid Genedlaethol Catalonia) yn fuddugol yn yr Etholiad Cyffredinol, ffurfiwyd Generalitat de Catalunya, gan fynnu annibyniaeth ffederal oddi wrth Sbaen. Yn 1936 hefyd, crewyd llywodraeth ymreolaethol Fasgaidd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Quen, en 1921, publicara o libro La Mancomunidad Gallega, obra de referencia dos galeguistas á hora de concretar o autogoberno.
- ↑ Castelao (1944): Sempre en Galiza, ac eraill.
- ↑ Henrique Monteagudo: [dolen farw] Obras [Castelao], cyfrol 2, tud. 117, Editorial Galaxia, rhifyn 1af 2000.
- ↑ A Autonomía galega (1846–1981), tud. 228–229, Consellería da Presidencia (Xunta de Galicia), Santiago de Compostela, 1986.
- ↑ Enciclopedia Galega Universal Archifwyd 2008-08-13 yn y Peiriant Wayback, Ir Indo Edicións.