Tîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen

tîm pêl-droed cymdeithas genedlaethol dynion yn cynrychioli Sbaen

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen (Sbaeneg: Selección de fútbol de España) yn cynrychioli Sbaen yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen (Sbaeneg: Real Federación Española de Fútbol) (RFEF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r RFEF yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA). Ymysg eu llysenwau mae, La Roja (y coch) a La Furia Roja (y coch ffyrnig).

Sbaen
[[Delwedd: Bathodyn y Crys/Arfbais y Gymdeithas]]
Llysenw La Selección, La Furía Roja
Cymdeithas Real Federación Española de Fútbol
Conffederasiwn UEFA
Prif Hyfforddwr Luis Enrique Martínez
Capten Sergio Busquets
Mwyaf o Gapiau Sergio Ramos (180)
Prif sgoriwr David Villa (59)
Stadiwm cartref amrywiol
Cod FIFA ESP
Safle FIFA 1
Gêm ryngwladol gyntaf
Baner Sbaen Sbaen 1–0 Denmarc Baner Denmarc
(Brwsel, Gwlad Belg; 28 Awst 1920)
Buddugoliaeth fwyaf
Baner Sbaen Sbaen 13-0 Bwlgaria Baner Bwlgaria
(Madrid, Sbaen; 21 Mai 1933)
Colled fwyaf
Baner Sbaen 1-7 Yr Eidal Baner Yr Eidal
(Amsterdam, Yr Iseldiroedd; 4 Mehefin 1928)
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau 14 (Cyntaf yn 1934)
Canlyniad Gorau Enillwyr, 2010
Pencampwriaeth Ewrop
Ymddangosiadau 9 (Cyntaf yn 1964)
Canlyniad Gorau Enillwyr, 1964, 2008, 2012


Diweddarwyd 17 Mehefin 2010.

Mae Sbaen wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd pedairarddeg o weithiau gan gynnal y gysatdleuaeth ym 1982 ac ennill y gystadleuaeth yn 2010. Mae Sbaen hefyd wedi bod yn bencampwyr Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop deirgwaith yn 1964, 2008 a 2012.

Llwyddodd Sbaen i gipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd Barcelona 1992.

Record Cwpan y Byd golygu

Cwpan y Byd
Blwyddyn Rownd Safle Ch E Cyf * Coll + -
  1930 Heb gymryd rhan
  1934 Rownd yr Wyth Olaf 5ed 3 1 1 1 4 3
  1938 Tynnu yn ôl
  1950 Pedwerydd 4ydd 6 3 1 2 10 12
  1954 Heb gyrraedd
  1958
  1962 Rownd y Grwpiau 13eg 3 1 0 2 2 3
  1966 Rownd y Grwpiau 10ed 3 1 0 2 4 5
  1970 Heb gyrraedd
  1974
  1978 Rownd y Grwpiau 10ed 3 1 1 1 2 2
  1982 Ail Rownd 12ed 5 1 2 2 4 5
  1986 Rownd yr wyth olaf 7ed 5 3 1 1 11 4
  1990 Rownd yr 16 10ed 4 2 1 1 6 4
  1994 Rownd yr wyth olaf 8ed 5 2 2 1 10 6
  1998 Rownd y Grwpiau 17eg 3 1 1 1 8 4
    2002 Rownd yr Wyth Olaf 5ed 5 3 2 0 10 5
  2006 Rownd yr 16 9ed 4 3 0 1 9 4
  2010 Pencampwyr 1af 7 6 0 1 8 2
  2014 Rownd y Grwpiau 23in 3 1 0 2 4 7
Cyfanswm 1 Pencampwriaeth 14/20 59 29 12 18 92 66

* Yn dynodi gemau cyfartal gan gynnwys gemau gemau a benderfynwyd ar giciau o'r smotyn.

Chwaraewyr Nodedig golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.