Plas Tan y Bwlch

adeilad rhestredig Gradd II* ym Maentwrog
(Ailgyfeiriad o Tan y Bwlch)

Plasdy sy'n dyddio nôl i 1634 yw Plas Tan y Bwlch (hen enw: Tanybwlch neu Bwlch Coed y Dyffryn[1]) sydd wedi'i gofrestru ers Ebrill 1965 gan Cadw fel adeilad Gradd II*; ceir nifer o adeiladau eraill ar y tir sydd hefyd wedi'u cofrestru. Mae'n cael ei ddefnyddio ers 1975 fel Canolfan Addysg gan Barc Cenedlaethol Eryri, sef y perchnogion. Credir mai Plas Tan y Bwlch oedd y tŷ cyntaf yng ngogledd Cymru i gael golau trydan o’i ffynhonnell trydan hydro ei hun, yn y 1890au.

Plas Tan y Bwlch
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadMaentwrog Edit this on Wikidata
SirMaentwrog Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr56.6 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.9462°N 4.0024°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Cyn agor fel Canolfan Astudio ac atyniad twristaidd, roedd Plas Tan y Bwlch yn gartref i rai o deuluoedd cyfoethocaf Gogledd Cymru ac yn eu plith rhwng 1789 a 1961, roedd teulu'r Oakleys. Ym 1969 prynwyd y tŷ a'r gerddi gan Gyngor Sir Meirionnydd.

Yn yr 16g roedd y tir lle saif ystâd Tan y Bwlch heddiw, yn ogystal â llawer o diroedd yn y cyffiniau'n eiddo i Ieuan ap Iorwerth ap Adda. Ef a'i ddisgynyddion a gododd y plasdy cyntaf. Roedd y teulu'n hanu o linach Collwyn ap Tangno, un o bymtheg llwyth Gwynedd ac roedd ganddynt gysylltiadau gyda'r Tywysog enwog Gruffudd ap Cynan a lwyddodd i oresgyn y Saeson mewn brwydr ger Gellilydan, tua phedair milltir o Blas Tan y Bwlch. Oherwydd hyn, roedd gan y trigolion lleol barch mawr at berchnogion y Plas.

Adeiladwyd y plasdy cyntaf yma yn 1634 gan Evan Evans a oedd yn Siryf Meirionnydd ac yn fab i Robert a Lowri (neé Prys). Mae'r cyfeiriad cyntaf at stâd Tan y Bwlch i'w gael yn ewyllys gŵr o'r enw Robert Evans yn 1602. Roedd mab Robert Evans, a oedd o'r un enw yn briod ag wyres Edmwnd Prys sef Lowri Prys, Tyddyn Du, rheithor Maentwrog ac Archddiacon Meirionnydd. Lowri a etifeddodd tiroedd Rhywbryfdir ger Blaenau Ffestiniog; yma, yn ddiweddarach, y sefydlwyd Chwarel yr Oakeley a ddaeth a chyfoeth mawr i'r teulu.

Yn 1634, daeth mab Robert a Lowri, Evan Evans, yn Siryf Meirionnydd ac mae'n debyg mai ef a adeiladodd y tŷ cyntaf yn y man lle saif Plas Tan y Bwlch heddiw.

Roedd Ellis Rowlands a ganai yn 1722 yn hael ei ganmoliaeth o'r tŷ, ei safle bendigedig, y teulu a'u lletygarwch:

Tŷ gwinoedd wyt mewn gwenallt
gwydrog wych mewn godre gallt
a'th goed a'th gaeau ydynt
hapus gaer rhag pwys y gwynt.

Canodd sawl bardd arall eu clod i deulu Evans, gan gynnwys e.e. Siôn Dafydd Lâs, Huw Morus, Evan Williams, John Prichard Prys ac Ellis Rowland, Harlech.

Yr Oakeleys

golygu
 
Beddau rhai o deulu'r Oakeley ym mynwent Eglwys Sant Twrog, Maentwrog:William Edward Oakeley, Mary ei wraig ac Edward Clifford William Oakeley.

Aeres y teulu Evans oedd Catherine, a phriododd Robert Griffith o Fach y Saint ger Cricieth, gan ychwanegu at y stâd.

Penderfynodd eu hŵyr, Robert Griffith, ymestyn y tŷ yn 1748. Ei fab ef, Evan Griffith oedd gwryw diwethaf y teulu Griffith ac felly priododd yr aeresau gwŷr â phres a thir newydd. Priododd Margaret, merch Evan Griffith William Oakeley (1750-1811), gŵr ifanc cyfoethog o Forton, Swydd Stafford yn 1789. Parhaodd y stâd yn nwylo teulu'r Oakeleys am bron i 200 mlynedd.

William Oakeley (1750-1811)

golygu

Perchennog y Plas rhwng 1789-1822. Gyda dyfodiad William Oakeley daeth cyfnod llewyrchus i’r stâd a oedd wedi cynyddu llawer trwy briodasau ac ewyllysiau. Roedd William Oakeley yn ŵr poblogaidd ac fe’i adnabyddid yn lleol fel ‘Oakeley Fawr’. Roedd yn siarad Cymraeg.

Caiff ei gofio'n bennaf am wella’r tir amaethyddol gwael yn y dyffryn o dan y Plas drwy ymgymryd â phrosiect enfawr a fyddai’n gwella’r tir trwy godi clawdd llanw bron i filltir o hyd. Costiodd y clawdd hwn £309, (£22,000 heddiw).

William Griffith Oakeley (1790-1835)

golygu

Perchennog y Plas rhwng 1811-1835. Llwyddodd William Griffith Oakeley i ddatblygu Chwarel yr Oakeley i fod y chwarel danddaearol mwya'r byd, gan gyflogi mwy na 1,600 o ddynion. Enillodd achos cyfreithiol arwyddocaol pan aeth ati i erlyn ac ennill achos yn erbyn yr Iddew Nathan Rothschild (a'r Goron) am dresbasu ar dir Tan y Bwlch wrth iddo chwilio am fwynau a llechi. Drwy ennill yr achos hwn, dim ond y teulu Oakeley allai elwa o’r llechi ar eu tir.

Adeiladodd sawl cei llechi ar yr afon Dwyryd er mwyn hwyluso’r system o gludo’r llechi a chyfrannodd at y gwaith o greu Rheilffordd Ffestiniog er mwyn gallu cludo’r llechi yn gyflymach.

Bu farw William Griffith Oakeley yn ddi-blant a’i wraig, Louisa Jane Oakeley fu wrth y llyw nes i’r stâd gael ei throsglwyddo i fab ei gefnder sef William Edward Oakeley yn 1879.

Lousia Jane Oakeley

golygu

Perchennog y Plas rhwng 1835-1879. Parhaodd Louisa Jane â gwaith ei gŵr ac aeth ati i ddatblygu ymhellach dref lechi Blaenau Ffestiniog trwy adeiladu ysbyty yn y dref ar gyfer ei chwarelwyr. Yn 1868, gadawodd Louisa Jane y Plas yn sydyn, gan ei drosglwyddo i ofal William. Ni ddaeth yn ôl i Gymru ac ni chafodd ei chladdu gyda’i gŵr.

William Edwards Oakeley (1 Awst 1828–1 Chwefror 1912 )

golygu

Perchennog y Plas rhwng 1879-1912. Mab i gefnder William Oakeley oedd wrth y llyw wedi 1879: William Edward Oakeley. Adeiladodd y ffenestri bwa sy’n edrych dros y lawnt, yr estyniad yn y de-orllewin sydd bellach yn dderbynfa a swyddfeydd ac adeiladodd bont i gysylltu’r prif dŷ gydag ystafelloedd y gweision a'r morynion. Ar ben hyn ailadeiladodd lawer ar bentref Maentwrog gan gynnwys yr Eglwys, tai newydd, cododd ysgol newydd a pharhaodd y cynllun adfer tir yn y dyffryn. Derbyniodd wobr am y gwaith adfer hwn gan Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau yn 1897. Bu'n [[Siryfion Meirionnydd yn y 19eg ganrif#1870au|Siryf Sir Feirionnydd yn 1874.

Ond roedd ei ddiffyg dylanwad ar chwareli’r teulu yn echrydus ac arweiniodd hynny, yn y pen draw, at eu dirywiad ac at golledion ariannol yn yr 20g.

Credir mai Plas Tan y Bwlch oedd y tŷ cyntaf yng ngogledd Cymru i gael golau trydan o’i ffynhonnell trydan hydro ei hun yn y 1890au. Cynhyrchid y trydan gan olwyn pelton, gyda dŵr yn cael ei gludo drwy pibell o Lyn Mair (llyn artiffisial a grëwyd gan Mary Oakeley). Roedd y pwerdy bychan ar y bryn y tu ôl i’r tŷ a dywedir fod y system ar waith hyd 1928.[2]

Yn 'Cliffe House', ger Atherstone, (Swydd Gaerloyw) y treuliodd y rhan fwyaf o'i amser.[3]

Bu farw ar 1 chwefror 1912 a'i gladdu ar 6 Chwefror. Cofnodwyd hyn y Times lle disgrifir ei angladd yn Eglwys Sant Twrog, Maentwrog ac fel y cludwyd ei arch o 'Cliffe House' i Flaenau Ffestiniog ar y tren ac oddi yno i Faentwrog mewn lori. Cerddodd cannoedd o chwarelwyr y tu ôl i'r lori.[4]

Edward de Clifford Oakeley (1864-1919)

golygu

Ef oedd y perchennog rhwng 1912-1915. Afradodd Edward de Clifford lawer o arian y teulu drwy fetio a phartïo yn Llundain. Honnir iddo unwaith wario £50,000 ar un bet, (£3 miliwn heddiw). Etifeddodd y Plas a’r stâd ar ochr ogleddol yr afon; etifeddwyd y tir i’r de gan ei chwaer, Mary Caroline.

Erbyn 1915 roedd wedi gwerthu ei stâd i’w nith Margaret Inge am £25,000. Gydag arian adawyd iddi gan ei thad mae’n debyg, talodd Margaret hefyd y £40,000 o forgeisi dyledus. Bu farw Edward yn ddi-briod ym 1919 gan adael swm o £88,000.

 
Chwarel y Foty (un o chwareli'r 'Oakeley'), Blaenau Ffestiniog, Chwefror 1950.

Mary "Inge" Oakeley

golygu

Bu'n berchennog y Plas rhwng 1912-1961. Priododd ŵr cyfoethog o’r enw William Frederick Inge o Thorpe Hall ger Tamworth ym 1893. 10 mlynedd yn ddiweddarach, canfuwyd William wedi crogi'i hun yng nghartref ei deulu; roedd yn dioddef o salwch meddwl etifeddol. Roedd Mary felly'n wraig weddw pan etifeddodd ei rhan o’r stâd gan ei thad.

Cawsant dri phlentyn: Margaret, Hilda ac Edith. Roedd Edith yn dioddef o salwch meddwl y teulu Inge a threuliodd y rhan fwyaf o'i hoes mewn ysbyty meddwl. Rheolwyd y stâd gan Hilda am y 30 mlynedd nes iddi farw'n ddibriod ym 1953 gan adael rhan ogleddol y stâd i’w mam Mary Caroline Inge, (1865-1961) a oedd felly yn berchen ar y cyfan.

Yn ystod y 1920au a’r 30au bu Mrs Inge yn magu merlod Cymreig Tan y Bwlch, er mwyn cael merlod i’r plant eu marchogaeth. Daeth ei stablau i fod yn bwysig iawn yn y cyfnod. Helpodd merlod Tan y Bwlch sefydlu’r 'Stablau Coed Coch' byd enwog yn Abergele a oedd yn eiddo i’r diweddar Miss Broderick MBE.

Wedi marwolaeth Mary Inge, etifeddwyd y stâd gan y teulu Russell ond fe’u gorfodwyd i werthu ym 1962 oherwydd tollau marwolaeth. Prynwyd y stâd gan un o aelodau teulu blawd a phorthiant Bibby o Lerpwl gyda’r bwriad o agor Clwb Gwledig ac mae’r bythynnod gwyliau ar dir y Plas yn dyst o’r bwriad hwnnw.

Heddiw

golygu

Yn 2015 dathlwyd 40 mlynedd ers ei sefydlu fel Canolfan i'r Parc Cenedlaethol a lansiwyd llyfr fel rhan o'r dathliadau: Hanes Plas Tan y Bwlch gan Merfyn Williams, un o gyn-benaethiaid y Ganolfan a chyn-ddarlithydd ym Mhlas Tan y Bwlch, Twm Elias. Ers 1975, mae o leiaf hanner can mil o oedolion a thros 100,000 o blant wedi ymweld â'r Plas ar gyrsiau, cynadleddau a darlithoedd er wmyn astudio a deall mwy am gefn gwlad, yn gallu gwerthfawrogi cefn gwlad ac yn parchu’r amgylchedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 2015
  2. www.eryri-npa.gov.uk - Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri; Archifwyd 2016-03-26 yn y Peiriant Wayback adalwyd 2015
  3. Gweler Cyfrifiad 1881 - Cliff House, Twycross, Leicester (RG11 3134/129 Tud 2) Gwaith: Landed Proprietor
  4. The Times, 5 Chwefror 1912:
    "Oakeley. - On the 1st. Feb., at Cliff House, near Atherstone, William Edward Oakeley, in his 84th year. No flowers."