Tomáš Masaryk

gwleidydd Tsiecoslofacia, gwladweinydd ac athronydd ; arlywydd cyntaf Tsiecoslofacia (1850-1937)

Gwleidydd ac athronydd Tsiecoslofacaidd oedd Tomáš Garrigue Masaryk (7 Mawrth 185014 Medi 1937) a wasanaethodd yn arlywydd cyntaf Tsiecoslofacia o 1918 i 1935.

Tomáš Masaryk
FfugenwThomas George Marsden Edit this on Wikidata
GanwydTomáš Jan Masaryk Edit this on Wikidata
7 Mawrth 1850 Edit this on Wikidata
Hodonín Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd8 Mawrth 1850 Edit this on Wikidata
Bu farw14 Medi 1937 Edit this on Wikidata
Lány Edit this on Wikidata
Man preswylhouse of Tomáš Garrigue Masaryk, Mutěnice, Čejč, Brno, Fienna, Leipzig, Fienna, Prag, Llundain, Prague Castle, Lány Castle Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, athronydd, ysgrifennwr, academydd, athro, golygydd cyfrannog Edit this on Wikidata
SwyddPresident of Czechoslovakia Edit this on Wikidata
TadJozef Maszárik Edit this on Wikidata
MamTerezie Masaryková Edit this on Wikidata
PriodCharlotte Garrigue Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Seren Karađorđe, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Croes Urdd Siarl III, Urdd yr Eliffant, Urdd yr Eryr Gwyn, Uwch Groes Urdd y Gwaredwr, Urdd y Tair Seren, Dosbarth 1af, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Uwch Groes Urdd Cleddyf Sant'Iago, 1st Class of the Order of the Cross of the Eagle, honorary doctor of Protestant Theological Faculty – Charles University, Honorary citizenship of Strakonice, Dinasyddiaeth anrhydedd Třebíč, Honorary citizenship of Moravské Budějovice, Honorary citizenship of Strakonice, Honorary citizenship of Brno, honorary citizen of Kladno, Honorary citizenship of Nové Město na Moravě, Honorary citizenship of Kopřivnice, honorary citizen of Nové Město nad Metují Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Hodonín, Morafia, yn Ymerodraeth Awstria, a chafodd ei fagu mewn teulu dosbarth-gweithiol. Astudiodd athroniaeth, hanes a chymdeithaseg ym Mhrifysgol Fienna. Daeth i'r amlwg fel academydd uchel ei barch ac ysgolhaig dylanwadol ym meysydd cymdeithaseg, moeseg, ac athroniaeth y gyfraith. Er iddo ymdrin yn feirniadol â chenedlaetholdeb, dadleuodd dros barchu hawliau'r lleiafrifoedd cenedlaethol yn Awstria-Hwngari, yn enwedig y Tsieciaid a'r Slofaciaid. Yn ei ysgrifau, pwysleisiai bwysigrwydd democratiaeth ac iawnderau dynol.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18), pan oedd Awstria-Hwngari yn un o'r Pwerau Canolog, ymgysylltodd Masaryk â'r Cynghreiriaid i hyrwyddo'r ddadl dros wladwriaeth annibynnol i'r Tsieciaid a'r Slofaciaid. Derbyniodd gefnogaeth oddi ar Ffrainc, yr Unol Daleithiau, a'r Deyrnas Unedig. Wrth i ddiwedd y rhyfel nesu, ac Awstria-Hwngari chwalu, datganwyd annibyniaeth Tsiecoslofacia ar 28 Hydref 1918 dan arweinyddiaeth Masaryk a'i lywodraeth dros dro. Ar 14 Tachwedd fe'i etholwyd yn arlywydd cyntaf y wlad gan y Cynulliad Cenedlaethol ym Mhrag.

Byddai Masaryk yn Arlywydd Tsiecoslofacia am y rhan fwyaf o'r cyfnod rhwng y rhyfeloedd, a nodweddir ei arlywyddiaeth gan ymdrechion i fantoli buddiannau'r amryw grwpiau ethnig yn y wlad. Ymddiswyddodd Masaryk o'r arlywyddiaeth ym 1935, a dwy flynedd yn ddiweddarach bu farw yn Lány, Tsiecoslofacia, yn 87 oed.

Bywyd cynnar ac addysg (1850–78) golygu

Ganed Tomáš Garrigue Masaryk ar 7 Mawrth 1850 yn nhref Hodonín (Göding yn Almaeneg) yn neheubarth Morafia, Ymerodraeth Awstria (Awstria-Hwngari wedi 1867), a leolir heddiw yn y Weriniaeth Tsiec nid nepell oddi wrth y ffin â Slofacia. Gyrrwr coetsh o dras Slofacaidd oedd ei dad, a morwyn Forafaidd oedd ei fam o deulu Almaeneg. Yn ei ieuenctid cafodd ei hyfforddi'n athro ac aeth yn brentis i saer glo, ond cychwynnodd ar yrfa academaidd wedi iddo gael ei dderbyn i'r coleg Almaeneg yn Brno ym 1865. Enillodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Fienna, prif Hochschule yr ymerodraeth, ym 1876. Astudiodd am un flwyddyn ym Mhrifysgol Leipzig, Ymerodraeth yr Almaen, ac yno cyfarfu â Charlotte Garrigue, myfyrwraig cerddoriaeth o Americanes, a phriodasant ym 1878.[1]

Gyrfa academaidd a'i ysgolheictod a meddwl (1879–) golygu

Dychwelodd Masaryk i Fienna a fe'i penodwyd yn ddarlithydd athroniaeth gan y brifysgol ym 1879. Fe'i penodwyd yn athro athroniaeth ym Mhrifysgol Prag ym 1882.

Cyhoeddodd Masaryk astudiaethau o'r Diwygiad ym Mohemia yn yr 16g a'r adfywiad Tsiecaidd yn nechrau'r 19g, gan gyfrannu'n sylweddol at ddealltwriaeth y Tsieciaid o'u hetifeddiaeth grefyddol. Ysgrifennodd draethawd ar waith yr hanesydd František Palacký, gan gynnig dadansoddiad craff o gysylltiadau rhwng y Tsieciaid a llywodraeth Awstria. Ymchwiliodd hefyd i lenyddiaeth Tsieceg, ac yn ei gyfnodolyn llenyddol cyhoeddodd ei dystiolaeth bod dwy arwrgerdd Tsiecaidd a briodolir i'r Oesoedd Canol yn wir wedi eu ffugio yn nechrau'r 19g gan fardd gwladgarol.

O ran ei athroniaeth a chrefydd, meddyliwr neo-Kantaidd oedd Masaryk, a ddylanwadwyd yn gryf arno hefyd gan foeseg y Piwritaniaid Seisnig a dysgeidiaeth yr Husiaid.

Gyrfa wleidyddol gynnar (1889–1914) golygu

Cychwynnodd Masaryk ar ei yrfa wleidyddol ym 1889, pan penderfynodd drawsnewid ei gyfnodolyn llenyddol yn gylchgrawn gwleidyddol. Ar y cychwyn, cefnogodd Masaryk fudiad Awstro-Slafiaeth, a luniai ffederasiwn i sicrhau cynrychiolaeth i'r bobloedd Slafig yn Awstria-Hwngari (y Tsieciaid, Slofaciaid, Pwyliaid, Croatiaid, a Slofeniaid). O ganlyniad i gryfder ei daliadau democrataidd, gwyrai Masaryk oddi ar geidwadaeth yr Hen Blaid Tsiecaidd ac ymaelododd â'r Blaid Tsiecaidd Ifanc. Fe'i etholwyd i'r Reichsrat ym 1891, ond ymddiswyddodd ym 1893 yn sgil anghytundeb â'i blaid. Trodd ei sylw at sefyllfa'r Slofaciaid yng ngogledd Hwngari, gan ladd ar dra-arglwyddiaeth y Magyariaid a phan-Slafiaeth y gwleidyddion Slofacaidd ill dau. Daeth felly yn boblogaidd ymhlith yr ymgyrchwyr blaengar ifainc a fyddai'n cefnogi uno'r Tsieciaid a'r Slofaciaid dan un wladwriaeth annibynnol.

Ym Mawrth 1900 sefydlodd Masaryk blaid ei hun, y Blaid Realaidd, a chafodd ei ethol i'r Reichsrat unwaith eto. Yn y blynyddoedd cyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, gwrthwynebodd y gynghrair filwrol rhwng Awstria-Hwngari a'r Almaen, a dadleuodd yn chwerw yn erbyn imperialaeth yn y Balcanau.

Yr ymgyrch am annibyniaeth (1914–18) golygu

Yn sgil dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, aeth Masaryk i Orllewin Ewrop i ennill cefnogaeth i'w ymgyrch yn erbyn rhan Awstria-Hwngari yn y rhyfel a thros annibyniaeth i'r Tsieciaid a'r Slofaciaid. Cydnabuwyd Masaryk yn gynrychiolydd dros fudiad annibyniaeth y Tsieciaid, ac elwodd ar gysylltiadau ei gyfeillion yn Ffrainc a Phrydain i gyfathrebu ag arweinwyr y Cynghreiriaid. Teithiodd i'r Unol Daleithiau ym 1917 i drafod ei achos â'r Arlywydd Woodrow Wilson a'r Ysgrifennydd Tramor Robert Lansing. Ym Mai 1918, datganodd Lansing gefnogaeth yr Unol Daleithiau i annibyniaeth Tsiecoslofacia, a chadarnhawyd hynny gan y Pedwar Pwynt ar Ddeg.

Cydnabuwyd Tsiecoslofacia yn un o'r Cynghreiriaid ar 3 Mehefin 1918, a lluniwyd ffiniau'r wlad i fod yn unol â syniadau Masaryk. Wrth i ddiwedd y rhyfel nesu, ac Awstria-Hwngari chwalu, datganwyd annibyniaeth Tsiecoslofacia ar 28 Hydref 1918 dan arweinyddiaeth Masaryk a'i lywodraeth dros dro.

Byddai Masaryk yn Arlywydd Tsiecoslofacia am y rhan fwyaf o'r cyfnod rhwng y rhyfeloedd, a nodweddir ei arlywyddiaeth gan ymdrechion i fantoli buddiannau'r amryw grwpiau ethnig yn y wlad.

Arlywyddiaeth (1918–35) golygu

Ar 14 Tachwedd 1918 etholwyd Masaryk yn arlywydd cyntaf Tsiecoslofacia gan y Cynulliad Cenedlaethol ym Mhrag. Fe'i ail-etholwyd ym 1920, 1927, a 1934.

Diwedd ei oes (1935–37) golygu

Ymddeolodd Masaryk o'r arlywyddiaeth ym 1935. Bu farw Tomáš Masaryk yn Lány, Tsiecoslofacia, ar 14 Medi 1937 yn 87 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Tomáš Masaryk. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2023.