Pendeulwyn
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Pendeulwyn (llurguniad Saesneg: Pendoylan). Saif yng ngogledd y sir rhwng yr A48 a thraffordd yr M4, tua 7 milltir i'r gorllewin o ganol Caerdydd a thua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Bont-faen. Y pentref agosaf yw Llanddunwyd.
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 464, 522 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,490.01 ha |
Cyfesurynnau | 51.481°N 3.355°W |
Cod SYG | W04000921 |
Cod OS | ST060767 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Alun Cairns (Ceidwadwr) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Alun Cairns (Ceidwadwr).[2]
Lleolir ysgol gynradd yn y pentref a reolir gan yr Eglwys yng Nghymru. Canolfan y pentref yw Eglwys Sant Cadog. Ceir hefyd gapel a neuadd y pentref.
Saif Castell Felin Isaf, sef hen domen a beili o'r Oesoedd Canol tua 2 kilometr i'r gogledd.
Gorwedd Castell Hensol o fewn y plwyf a godwyd i'r barnwr brenhinol David Jenkins (1582-1663). Fe'i hetifeddwyd gan William Talbot ac ychwanegwyd dwy adain yn 1735, ac maent ymhlith yr enghreifftiau cynharaf yng ngwledydd Prydain o adeiladu yn y dull neo-Gothig.
Gwinllan
golyguI'r gogledd o Bendeulwyn mae gwinllan mwyaf llwyddiannus Cymru, sef "Llannerch".[3]
Enwogion
golygu- Y Barnwr David Jenkins (1582-1663).
- Charles Talbot, Baron 1af Talbot (1685-1737), a ddaeth yn Arglwydd Ganghellor yn 1733.
- Benjamin Hall (1778-1817), meistr gwaith dur.
- William Crawshay II (1788-1867), meistr Gwaith Haearn Cyfarthfa
- Rowland Fothergill (1794-1871).
- Tom Haines, gyrrwr ceir rasio.
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-22.
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 701
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Dolen allanol
golyguTrefi
Y Barri · Y Bont-faen · Llanilltud Fawr · Penarth
Pentrefi
Aberogwr · Aberddawan · Aberthin · City · Clawdd-coch · Corntwn · Dinas Powys · Eglwys Fair y Mynydd · Ewenni · Ffontygari · Gwenfô · Larnog · Llanbedr-y-fro · Llancarfan · Llancatal · Llandochau · Llandochau Fach · Llandŵ · Llanddunwyd · Llan-faes · Llanfair · Llanfihangel-y-pwll · Llanfleiddan · Llangan · Llansanwyr · Llwyneliddon · Llyswyrny · Marcroes · Merthyr Dyfan · Ogwr · Pendeulwyn · Pen-llin · Pennon · Pen-marc · Y Rhws · Sain Dunwyd · Saint Andras · Sain Nicolas · Sain Siorys · Sain Tathan · Saint-y-brid · Sili · Silstwn · Southerndown · Trebefered · Trefflemin · Tregatwg · Tregolwyn · Tresimwn · Y Wig · Ystradowen