Agor y brif ddewislen

Pentref bychan a phlwyf ym Mro Morgannwg yw Merthyr Dyfan. Fe'i lleolir ar gwrr gogleddol Y Barri ar bwys y ffordd A4050, tua 6 milltir i'r de-orllewin o ddinas Caerdydd.

Merthyr Dyfan
Merthyr Dyfan parish church.jpg
Math cymdogaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Bro Morgannwg Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.4206°N 3.2708°W Edit this on Wikidata
Cod post CF62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Jane Hutt (Llafur)
AS/au Alun Cairns (Ceidwadwr)

Enwir y pentref ar ôl Sant Dyfan a cheir eglwys a gysegrir iddo yn y pentref. Gall y gair merthyr yn y Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)" a dyna a geir yma; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Tudful, Merthyr Cynog, a Merthyr Mawr, a cheir yr enwau cytras merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[1]

Honnir mai dyma un o'r canolfannau Cristnogol cynharaf yng Nghymru. Yn ôl traddodiad, cafodd ei seyfydlu yn 180 OC pan anfonwyd Dyfan a Ffagan i Gymru gan y Pab Eleutherius. Cysylltir yr eglwys gyda Sant Teilo hefyd, sy'n nawddsant y plwyf gyda Dyfan. Cafodd ei difrodi yn sylweddol yng nghyfnod y Diwygiad Protestannaidd a'i hadfer yn y 19g.[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Jane Hutt (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alun Cairns (Ceidwadwr).[3][4]

CyfeiriadauGolygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol III, tud. 2436.
  2. MerthyrDyfan.org
  3. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Dolenni allanolGolygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.