Uttanasana
Safle'r corff (neu asana) mewn ioga yw Uttanasana (Sansgrit: उत्तानासन; IAST uttānāsana) neu Sefyll a Phlygu Ymlaen,[1] gydag amrywiadau fel Padahastasana lle gafaelir ym mysedd y traed. Asana sefyll ydyw, a chaiff ei ddefnyddio mewn ioga modern fel ymarfer corff.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw o'r geiriau Sansgrit उत्तान uttāna, "ymestyn gryn dipyn";[2] ac आसन; âsana, "osgo neu siap (y corff)".[3]
Mae Uttanasana yn asana modern, a welwyd gyntaf yn yr 20g. Darlunnir osgo debyg o'r enw Uttānāsana yn y gyfrol Sritattvanidhi o'r 19g ond mae'n wahanol i'r ystum modern (yn gorwedd ar y cefn, gyda'r penelinoedd yn cyffwrdd â'r pengliniau a'r dwylo y tu ôl i'r gwddf).[4] Disgrifir yr osgo fodern yn Yoga Makaranda 1934 Krishnamacharya,[5] ac yng ngweithiau ei ddisgyblion, Light on Yoga ganBKS Iyengar ym 1966[6] ac Ioga ashtanga vinyasa gan Pattabhi Jois.[2][7] Fodd bynnag, mae Theos Bernard yn darlunio'r asana cysylltiedig "Padhahasthasana" yn ei adroddiad ym 1944 o'i brofiad o ioga hatha ar y ffin rhwng India a Tibet, gan awgrymu bodolaeth traddodiad ar wahân.[8]
Gellir llithro'n llyfn i fewn i'r asana yma o safle sefyll y Tadasana, gan blygu ymlaen yn y cluniau nes y gellir gosod cledrau'r dwylo ar y llawr, ac yn y pen draw y tu ôl i'r sodlau.[6]
Amrywiadau
golyguMae Ardha Uttanasana yn gam hanner ffordd, gyda'r torso'n llorweddol a'r cledrau yn gorffwys ar y migyrne.[9]
Mae gan Niralamba Uttanasana y dwylo'n cyffwrdd â chanol y corff yn hytrach nag yn ymestyn i lawr.[10]
Yn Padahastasana mae'r dwylo o dan fysedd y traed a'r traed eu hunain, gyda chledrau'r dwyl ar i fyny.[11]
Gweler hefyd
golygu- Paschimottanasana, tro eistedd ymlaen
- Rhestr o safleoedd ioga
Darllen pellach
golygu- Iyengar, B. K. S. (1 Hydref 2005). Illustrated Light On Yoga. HarperCollins. ISBN 978-81-7223-606-9.
- Saraswati, Swami Janakananda (1 Chwefror 1992). Yoga, Tantra and Meditation in Daily Life. Weiser Books. ISBN 978-0-87728-768-1.
- Saraswati, Swami Satyananda (2003). Asana Pranayama Mudra Bandha. Nesma Books India. ISBN 978-81-86336-14-4.
- Saraswati, Swami Satyananda (January 2004). A Systematic Course in the Ancient Tantric Techniques of Yoga and Kriya. Nesma Books India. ISBN 978-81-85787-08-4.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Standing Forward Bend". Yoga Journal. Cyrchwyd 11 April 2011.
- ↑ 2.0 2.1 "Uttanasana A". Ashtanga Yoga. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-15. Cyrchwyd 11 April 2011.
- ↑ Sinha, S. C. (1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
- ↑ Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 69, plate 1 (pose 2). ISBN 81-7017-389-2.
- ↑ Krishnamacharya, Tirumalai (2006) [1934]. Yoga Makaranda. tt. 51, 55–56.
- ↑ 6.0 6.1 Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks. tt. 91–93. ISBN 978-1855381667.
- ↑ Singleton, Mark (2010). Yoga Body : the origins of modern posture practice. Oxford University Press. tt. 175–210. ISBN 978-0-19-539534-1. OCLC 318191988.
- ↑ Bernard, Theos (2007) [1944]. Hatha yoga : the report of a personal experience. Harmony. t. 132. ISBN 978-0-9552412-2-2. OCLC 230987898.
- ↑ Calhoun, Yael; Calhoun, Matthew R.; Hamory, Nicole (2008). Yoga for Kids to Teens. Sunstone Press. t. 167. ISBN 978-0-86534-686-4.
- ↑ Ramaswami, Srivatsa; Krishnamacharya, Tirumalai (2005). The complete book of vinyasa yoga: an authoritative presentation, based on 30 years of direct study under the legendary yoga teacher Krishnamacharya. Da Capo Press. t. 16. ISBN 978-1-56924-402-9.[dolen farw]
- ↑ "Witold Fitz-Simon - Padahastasana". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-04. Cyrchwyd 9 April 2011.
Dolenni allanol
golygu- "Witold Fitz-Simon - Uttanasana". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-21. Cyrchwyd 2022-01-13.