Mae Va, pensiero ( Eidalaidd: [va pensjɛːro] ), sy'n cael ei alw yn Gymraeg "Cytgan y Caethweision" neu "Gytgan y Caethweision Hebreig" yn ddarn corawl o drydedd act yr opera Nabucco (1842) gan Giuseppe Verdi, gyda libreto gan Temistocle Solera, wedi'i ysbrydoli gan Salm 137. Mae'n cofio cyfnod caethiwed yr Israeliaid ym Mabilon ar ôl dymchwel y Deml Gyntaf yn Jerwsalem tua 500 CC. Bu'r opera gyda'i chorws pwerus yn gyfrifol am sefydlu Verdi fel un o gyfansoddwyr mawr yn yr Eidal yn y 19 ganrif.

Va, pensiero
Alaw ac adnod cyntaf "Va, pensiero"
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1842 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGiuseppe Verdi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rôl yn hanes gwleidyddol Eidalaidd golygu

Mae rhai ysgolheigion wedi honni bod y corws wedi ei fwriadu i fod yn anthem ar gyfer cenedlaetholwyr Eidaleg, oedd yn ceisio uno eu gwlad a'u rhyddhau o reolaeth dramor yn y blynyddoedd cyn 1861[1] (credid bod thema'r corws o alltudion yn canu am eu mamwlad, a'i linellau fel O mhia patria, si bella e perduta / "O fy ngwlad, mor brydferth, a choll", wedi cyffroi llawer o Eidalwyr).[2] Mae rhai ysgolheigion modern wedi gwrthod y syniad hwn, gan fethu gweld cysylltiadau rhwng operâu Verdi o’r 1840au a'r 1850au a chenedligrwydd Eidalaidd,[3] ac eithrio rhai o'r teimladau a fynegwyd yn ei opera 1843, I Lombardi.[4]

Mae ymchwilwyr diweddar wedi ail edrych ar nifer o weithiau Verdi o'r 1840au (gan gynnwys Giovanna d'Arco ac Attila ) gan bwysleisio eu hystyr gwleidyddol amlwg.[5] Mae gwaith gan Philip Gossett ar gytganau Verdi o'r 1840au hefyd yn awgrymu y gallai ymagweddau diwygwyr diweddar at Verdi a'r Risorgimento fod wedi mynd yn rhy bell trwy lwyr ddiystyru arwyddocâd gwleidyddol "Va, pensiero".[6]

Ar 27 Ionawr 1981, cynigiodd y newyddiadurwr a'r awdur creadigol, Giorgio Soavi cyfnewid anthem genedlaethol yr Eidal (Il Canto degli Italiani) gyda "Va, pensiero" mewn llythyr a gyhoeddwyd gan Indro Montanelli yn ei bapur dyddiol Il Giornale. Trafodwyd y cynnig yn eang am beth amser ac yna'i anghofio hyd 2009, pan gymerodd y Seneddwr Umberto Bossi yr achos i fyny eto,[7] ond heb unrhyw effaith. Fodd bynnag, mae plaid wleidyddol Bossi, Lega Nord / Padania, wedi mabwysiadu "Va, pensiero" fel ei emyn swyddogol ac mae'r corws bellach yn cael ei ganu ym mhob cyfarfod o'r blaid.[8]

Yn 2011, ar ôl chwarae "Va, pensiero" ym mherfformiad Nabucco yn y Teatro dell'Opera yn Rhufain, gwnaeth yr arweinydd Riccardo Muti araith i brotestio yn erbyn toriadau i gyllideb celfyddydau'r Eidal, yna gofynnodd i'r gynulleidfa i gyd ganu'r cytgan i gefnogi diwylliant a gwladgarwch.[9]

Derbyniad cychwynnol golygu

Cyfansoddodd Verdi Nabucco mewn cyfnod anodd yn ei fywyd. Roedd ei wraig a'i blant bach wedi marw o salwch. Er gwaethaf adduned ganddo i ymatal rhag ysgrifennu operâu, roedd ganddo contracti gyda La Scala i ysgrifennu opera arall a gorfododd y cyfarwyddwr y libreto i mewn i'w ddwylo. Wrth ddychwelyd adref, digwyddodd Verdi agor y libreto ar y ddalen oedd yn cynnwys "Va, pensiero" ac o ddarllen yr ymadrodd, clywodd y geiriau yn canu yn ei ben. Wedi'r ymarfer cyntaf "gweiddodd y gweithwyr cefn llwyfan eu cymeradwyaeth, gan guro ar y llawr a'r setiau gyda'u hoffer gwaith i greu gwerthfawrogiad hynod swnllyd". Yn ddiweddarach nododd Verdi ei fod yn teimlo "dyma'r opera y mae fy ngyrfa artistig yn dechrau arni, ac er fy mod wedi cael llawer o anawsterau i'w hymladd yn eu herbyn, mae'n sicr bod fy Nabucco wedi ei eni o dan seren lwcus".

Wedi marwolaeth Verdi ymatebodd y dorf a oedd yn disgwyl ei gynhebrwng ar strydoedd Milan trwy ganu "Va, pensiero" yn ddigymell.[10] Mis yn ddiweddarach, pan gafodd ei ail gladdu ochr yn ochr â'i wraig yn y Casa di Riposo, arweiniodd Arturo Toscanini ifanc côr o wyth cant i ganu'r emyn enwog.[11]

Testun golygu

Gwreiddiol Cymraeg

Va, pensiero, sull'ali dorate;
va, ti posa sui clivi, sui colli,
ove olezzano tepide e molli
l'aure dolci del suolo natal!

Del Giordano le rive saluta,
di Sionne le torri atterrate...
O, mia patria, sì bella e perduta!
O, membranza, sì cara e fatal!

Arpa d'or dei fatidici vati
perché muta dal salice pendi?
Le memorie nel petto raccendi,
ci favella del tempo che fu!

O simile di Sòlima ai fati
traggi un suono di crudo lamento,
o t'ispiri il Signore un concento
che ne infonda al patire virtù

Ehed, meddwl, ar adenydd aur;
gorffwysa ar y llethrau a'r bryniau,
sydd yn iro'n felys a chlaer,
natur mwyn ein mamwlad.

Cyfarcha lannau'r Iorddonen
a thyrau drylliedig Seion ...
O, fy ngwlad, mor hardd a choll!
O, atgofion, mor annwyl a dirdynnol!

Delyn aur y proffwydi sanctaidd,
pam dy fod yn crogi'n fud ar gangen helyg?
Ailgynnau atgofion ein bron,
a siaradwch â ni am yr amseroedd cynt!

Naill ai, megis tynged Jeriwsalem,
Crea sain alargan garw,
neu gad i'r Arglwydd dy ysbrydoli a chytgord o leisiau
a allai ennyn rhinwedd o'n ddioddefaint.*

*Nodyn. Cyfieithiad llythernol yw'r uchod. Mae fersiynau telynegol caniadwy ar gael, o dan hawlfraint, megis yr un gan Dyfnallt Morgan ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Môn 1983[12]

Defnydd Cymreig golygu

Ers i Edgar Hughson, arweinydd Côr y Tabernacl Treforys trefnu'r opera Nabucco ar gyfer ei berfformio fel cyngerdd yn hytrach nag opera llawn yn y 1920au [13], mae "Cytgan y Caethweision" wedi bod yn rhan reolaidd o arlwy corau meibion a chorau cymysg Cymru ac wedi cael ei recordio sawl gwaith. Dyma rhai enghreifftiau:

Côr Clip
Côr Meibion Cwmbach
Côr Orffiws y Rhos
Côr Meibion Dyfnant
Côr Meibion de Cymru
Côr Meibion gogledd Cymru
Gŵyl Corawl Cymru llundain

Cyfeiriadau golygu

  1. "How Giuseppe Verdi's music helped bring Italy together". BBC Culture. 21 Hydref 2014. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2018.
  2. Paul Halsall, "Modern History Sourcebook: Music and Nationalism", Aug 1997, revised July 1998 gwefan fordham.edu adalwyd 9 Rhagfyr 2018
  3. Verdi the revolutionary? Let's separate fact from fiction. Roger Parker yn The guardian 7 Hydref 2013 adalwyd 9 Rhagfyr 2018
  4. Roger Parker, "Verdi and Milan", darlith am Nabucco, traddodwyd yn Gresham College, Llundain, 14 Mai 2007
  5. Francesco Izzo, "Verdi, the Virgin, and the Censor: The Politics of the Cult of Mary in I Lombardi alla prima Crociata and Giovanna d’Arco", Journal of the American Musicological Society, 60 (2007): tud. 557–597.
  6. Philip Gossett, 'Edizioni distrutte' and the Significance of Operatic Choruses during the Risorgimento, yn Victoria Johnson, Jane F. Fulcher, and Thomas Ertman (gol.) Opera and Society in Italy and France from Monteverdi to Bourdieu, Cambridge: Cambridge University Press, 2007. ISBN 0-521-12420-4
  7. "Senator wants to change Italy's national anthem – to opera". Christian Science Monitor. 24 August 2009.
  8. "National Anthem"
  9. "Riccardo Muti conducts audience during Rome performance". Chicago Sun Times. 12 March 2011.
  10. Phillips-Matz, Mary Jane (1993), Verdi: A Biography. Tud:765; Efrog Newydd a Rhydychen: Oxford University Press ISBN 0-19-313204-4
  11. Y Tŷ Opera Brenhinol : The true story behind ‘Va pensiero’, Verdi’s famous Chorus of the Hebrew Slaves adalwyd 9 Rhagfyr 2018
  12. Rhaglen swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru Ynys Môn, Gorffennaf 30-Awst 6, 1983 Gwasg Gomer, dros Lys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1983
  13. Y Cathedral Anghydffurfiol Cymraeg; Evans, Trebor Lloyd; Gwasg John Penri 1972

Llyfryddiaeth golygu