Wicipedia:Wicipediwr Preswyl

   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    

Y Llyfrgell Genedlaethol golygu

Y nod yw creu swydd / rhyddhau aelod o'r staff fel Wicipediwr-yn-y-Gweithlu (Wikipedian in residence) fel mae'r Amgueddfa Brydeinig a'r Llyfrgell Brydeinig wedi'i wneud yn ddiweddar. Gall WikimediaUK gyfrannu tuag at gyflogi'r aelod o staff newydd. Byddai hyn yn rhyddhau person i'w hyfforddi mewn sgiliau golygu Wicipedia am gyfnod o 2 - 6 mis ac yna i weithio mewn sawl maes e.e. gwneud y ffotograffau sydd eisioes wedi'u rhyddhau yn fwy hygyrch, creu erthyglau newydd ar wahanol adrannau o'r Llyfrgell a gwerthuso'r oblygiaidau o ryddhau holl destun Adran y Bywgraffiadur ar drwydded CC, fel y gallem ninnau ei ddefnyddio.

Bu Roger Bamkin a Llywelyn2000 yn cyfarfod Andrew Green, Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'i dîm a chafwyd cefnogaeth mewn egwyddor i Wicipedian Prsewyl; targedwyd arian ar gyfer y swydd ac mae'r trafodaethau'n parhau.

Sain Ffagan golygu

Cyfarfu Llywelyn2000 ddwywaith yng Nghaerdydd gyda'r Curadur, y Dr Beth Thomas ym Mehefin ac yna yn Awst, i edrych a oedd yna dir cyffredin rhyngom. Yn dilyn y cyfarfodydd hyn mae adroddiad wedi'i gyflwyno iddi ar y posibiliadau. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:45, 27 Awst 2012 (UTC)[ateb]

Amgueddfa Leol golygu

  • Byddai hyn yn gret, ond os na ellir cyflawn hyn, falle gall golygwyr ddewis amgueddfa neu ganolfan dreftadaeth lleol (Amgueddfa Gwynedd ym Mangor, Cae'r Gors, Carchar Rhuthun ayyb) a gwrifoddoli fel Wicipedwr Preswyl. Byddai angen i'r sefydliad fod yn gefnogol a falle byddai Wikimedia Uk yn gallu darparu offer a hyfforddiant.--Ben Bore (sgwrs) 20:42, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
O ran arian, mae na £17,000 i'w gael rwan, ond byddai'n rhaid i'r LLGC gytuno i fynd punt-am-bunt. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:53, 23 Ebrill 2012 (UTC)[ateb]
Syniad da. 19:43, 27 Ebrill 2012‎ 86.133.62.179
Cytuno gyda'r syniadau i gyd - amdani! 20:30 29 Ebrill 2012 YGraigArw
Swydd i Lyfrgellydd, mae'n debyg. Gwych iawn. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 19:50, 3 Mai 2012 (UTC)[ateb]
Yn cefnogi. Lloffiwr (sgwrs) 19:17, 10 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]