Ceri Sherlock

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Llanelli yn 1954

Cyfarwyddwr ffilm, teledu a theatr yw Ceri Sherlock (ganwyd Mawrth 1958).[1] Bu’n gweithio’n helaeth fel cyfarwyddwr ym myd yr opera a’r theatr, gan weithio fel cyfarwyddwr cynorthwyol i Jonathan Miller ac yna gyda Peter Stein yn y Schaubuhne, Berlin. Bu’n cyfarwyddo cynyrchiadau operatig yn Nice, Dulyn, Vancouver, Halle, Brwsel, Wexford a Glasgow, a bu’n gweithio ym myd theatr gerddorol gyfoes hefyd.[2]

Ceri Sherlock
GanwydCeri David Sherlock
Mawrth 1958
Llanelli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Dewi Sant, Coleg Llanymddyfri, Coleg y Brenin, Llundain a Prifysgol Califfornia, Los Angeles. Gweithiodd fel cyfarwyddwr o dan hyfforddiant ac fel cyfarwyddwr gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

Ym 1982, yn dilyn ymadawiad Wilbert Lloyd Roberts â Chwmni Theatr Cymru, a phenodiad Emily Davies fel yr arweinydd artistig newydd, cafodd Sherlock gyfle i'w chysgodi yn ei swydd. Bu'n is-gyfarwyddwr a chyfarwyddwr ar sawl cynhyrchiad rhwng 1982 a 1984.

Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig yr Actors Touring Company yn Llundain ac yn rhan o'r criw a sefydlodd y cwmni theatr Theatrig.[2]

Cafodd ei benodi yn Olygydd Comisiynu gydag S4C cyn symud i'r BBC yn 2006. Arferai fod yn Athro Ymweliadol ym Mhrifysgol Morgannwg, ond ad-leolodd i Hong Cong yn 2010 lle cafodd ei benodi'n Athro a Phennaeth Cyfarwyddo Academi Gelfyddydau Creadigol Hong Kong.[3]

Fe briododd yn Beijing yn 2017 a dychwelodd i Ewrop yn 2018 ble mae'n parhau ar ei waith creadigol.

Theatr

golygu

Teledu a ffilm

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Ceri David SHERLOCK personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-22.
  2. 2.0 2.1 "Ceri Sherlock - WICI". wici.porth.ac.uk. Cyrchwyd 2024-09-22.
  3. Culture Colony
  4. "Ceri Sherlock | Theatricalia". theatricalia.com. Cyrchwyd 2024-09-22.
  5. "Ceri Sherlock - Playwright". www.doollee.com. Cyrchwyd 2024-09-22.
  6. Screen, Gaeaf 1995



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.