Y Ffordd (drama)
Drama lwyfan tair act o waith y llenor T. Rowland Hughes yw Y Ffordd. Helyntion Beca yw thema'r ddrama.[1] Cyhoeddwyd y ddrama ym 1945 gan Llyfrau'r Castell.[1] Digwydd y ddrama ym mis Medi 1843 mewn "tafarn rai milltiroedd y tu allan i Abertawe, ar y ffordd tua Gŵyr".[2]
Dyddiad cynharaf | 1969 |
---|---|
Awdur | T. Rowland Hughes |
Cyhoeddwr | Llyfrau'r Castell |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1945 |
Pwnc | Helyntion Beca |
Argaeledd | allan o brint |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Cymeriadau
golygu- John Ifans - tafarnwr a thyddynnwr
- Gwyneth - ei ferch
- Ianto - labrwr, rai blynyddoedd yn hŷn nag Ifan
- Ifan - ffermwr ifanc
- Isaac Lloyd - hen ŵr
- Sarah Jane - gwraig yn gwerthu cocos
- Lewis Morgan - ffermwr ifanc, mewn cariad â Gwyneth
- Marged - hen forwyn yn y dafarn
- Pritchard - plisman
- Summers - ceidwad tollborth
Cynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fflint 1969. Cyfarwyddydd Beryl Williams; cynorthwywyr Meic Povey a Grey Evans; trydanwr Mici Plwm; cast:
- John Ifans - Owen Garmon
- Gwyneth - Eirlys Parri
- Ianto - Dafydd Hywel
- Ifan - John Ogwen
- Isaac Lloyd - Islwyn Morris
- Sarah Jane - Nesta Harris [3]
- Lewis Morgan - Gwyn Parry
- Marged - Gaynor Morgan Rees
- Pritchard -
- Summers - David Welch
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "HUGHES, THOMAS ROWLAND (1903 - 1949), bardd a nofelydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-09-10.
- ↑ Hughes, T Rowland (1945). Y Ffordd. Llyfrau'r Castell.
- ↑ "Cwmni Theatr Cymru rehearsing T Rowland Hughes' drama, Y Ffordd, for the Flint Eisteddfod 1969". Peoples Collection Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-10.